麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Beichiog yn Hong Kong
Mae hi'n rasus tai bach ar Beks sy'n feichiog yng nghanol arogleuon Hong Kong

Mae'r wythnosau diwethaf yma wedi bod yn rhai cymysg dros ben a minnau'n treulio hanner fy amser yn y gwely a'r hanner arall gyda fy mhen lawr y tŷ bach!!!

A dim ots lle mae'r tŷ bach - y Starbucks agosaf neu yn nhŷ ffrind. Mewn gwesty neu mewn siop ... allai ddim bod yn ddethol credwch chi fi!

Diolch i'r drefn mae rheswm teidi am hyn gan fy mod i'n feichiog!

A hynny ers deng wythnos, bellach, ac yn edrych ymlaen yn arw at fwrw'r tri mis er mwyn cael gwared â'r cyfogi erchyll a'r blinder di-baid.

Er hyn holl rydyn ni i gyd wedi cyffroi'n yn bost.

Yng nghanol bwydydd
HK sy'n cael y bai fy mod i'n teimlo mor sâl gan nad ydw i'n cofio teimlo hanner mor wael yn ystod wythnosau cyntaf cario, Ela.

Ond, yr adeg honno, doeddwn i ddim yn gweld pobol yn bwyta fish balls drewllyd a chicken's feet ar gornel strydoedd!

Gwthio coets eto . . .Doedd yna ddim arogleuon ffrio bwyd Chineaidd yn dod o fflatiau cyfagos ychwaith a fu dim rhaid imi wynebu pysgod byw mewn tanciau yn yr archfarchnadoedd yn cael eu codi a'Iu lladd o fy mlaenI!

Yn wir, mae bwyd wedi troi'n elyn penna imi erbyn hyn gyda phethau fel dim sum, coffi, gwin a'r pethau rwyf fel arfer yn dwli arnynt, yn troi arnaf!

Melon a stwnsh ydi'r pethau sy'n fy nghadw'n hapus nawr - nid gyda'i gilydd, diolch i'r drefn.

Na - dwi heb gyrraedd y cyflwr lle dwi bron marw ishe bwyta glo Cymreig neu rywbeth tebyg!

Llawer o gwsg
Fel arall, mae bod yn feichiog yn HK wedi bod yn bleser yn awr bod y tywydd wedi newid dros y mis diwethaf gan ei gwneud yn bleser cael ymlacio gyda llyfr ar y to neu'n cysgu mewn hamoc a hithau ond tua 25 gradd.

Dwi di bod yn gwneud llawer o gysgu, credwch chi fi - yn ogystal, wrth gwrs, â pharhau wrth fy ngwaith.

Parti ar y to
Cefais gyfle i fynychu parti'r orsaf radio dwi'n gweithio iddi lle'r oedd Radio. 3 - RTHK (Radio Television Hong Kong) yn cyhoeddi logo newydd yr orsaf mewn parti coctel ar do theatr ynghanol y dre.

Roedd y tywydd yn berffaith gyda band jazz yn chware ar y to a nifer o bobol bwysig o'r llywodraeth yno.

Dyma'r parti cyntaf imi ei fynychu gyda Radio 3 ac roedd hi'n braf cael cwrdd â gwrandawyr oedd yn adnabod fy llais ond erioed wedi gweld yr wyneb tu ôl i'r llais ... pobol lwcus ag ydyn nhw!

Roedd yr holl noson yn fy atgoffa o'r Eisteddfod lle mae gwrandawyr yn holi eich perfedd am bopeth!!!

Gwerth chwech o griced
Cefais benwythnos brysur a chyffrous ar ddarllediad allanol mawr o ddegfed chwechawdau criced Hong Kong yng nghlwb criced Kowloon.

Mae hwn yn achlysur sy'n denu rhai o chwaraewyr criced gorau'r byd yn ogystal ag ambell un enwog o'r gorffennol.

Er enghraift, roedd Fred Truman yma yn gwylio'r criced ac yn hyrwyddo'i lyfr.

Roedd criw Radio 3 mewn lle go beryglus ... ar ochor y maes a bu bron imi â chael fy nharo â'r bêl sawl gwiath!

Yn darlledu am bedair awr roeddwn yn ofni mai yn yr ysbyty cyfagos y byddwn i gyda phennawd yn y South China Morning Post yn cyhoeddi: "Radio 3 pregnant presenter knocked for six at the 6's!"

Ta beth - rwyf nawr adref yn teipio hwn yn niogelwch fy stydi - ond esgusodwch fi; mae'r melon a'r stwnsh yn galw!






asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy