麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Croesawu ymwelydd arbennig
Beks Walters yn sgrifennu am fywyd yn Hong Kong lle mae'n byw.


Fel arfer rwyf fel cath yn ceisio dal ei chynffon adeg y Nadolig. Gadael popeth tan yr eiliad olaf a dim ond jyst yn llwyddo i gael popeth yn barod cyn i Santa ddod lawr y simnai.

Ond eleni, mae HK wedi dylanwadu er gwell arnaf ac rwyf wedi bod dipyn yn fwy trefnus nag arfer.

Mae tri rheswm am hyn:
1 Mae fy swyddfa yn nghanol y dre - yn ardal Central lle mae'n hwylus iawn prynu anrhegion bob yn dipyn.

2 Bu'n rhaid imi yrru llwyth o barseli i Brydain yn ystod wythnos gyntaf Rhagfyr fel eu bod yn cyrraed cyn y Dolig.

3 Roeddwn ishe gorffen y rhan fwyaf o'r siopa cyn i Gu - fy mam gyrraedd gan y gwyddwn mai 'tourist guide' fyddwn i o'r eiliad y byddai'n glanio.

Casglu ymwelwyr
Un o fy hoff bethau ydy casglu ymwelwyr o'r maes awyr ac edrychai Gu yn rhyfeddol o dda wedi'r 13 awr o deithio o Lundain.

Yr oedd hi, wrth gwrs, yn awyddus dros ben i weld Ela, ni'n dau, y fflat, Stanley, ein ffrindiau a chael blas ar fywyd Asia am y tro cyntaf.

Rhyngddo chi a fi, cafodd fwy na blas yn gynnar iawn gan ymweld â'r Jade Market, marchnad Stanley, a gwneud tripiau diri ar y Star Ferry, yn ymweld â'r Bwda a bwyta dim sum a llwyth o fwyd Thai ymhlith pethau arall.

Pan yn Rhufain ac yn y blaen!

Er, rhaid cyfaddef, bu bron i mam lewygu pan ddangosais frogaod byw yn cael eu gwerthu mewn cewyll - doedd ganddi hi ddim ffasi cario'r rheini adref o gwbl.

Dim brogaod i swper y noson honno felly!!!!

Erbyn iddi fod yma bron i bythefnos llwyddodd i brynu hanner Honkers a'i hystafell yn llawn pethau difyr Chineaidd!

Bu amser i gymdeithasu a nifer o'n ffrindiau hefyd - ffrindiau o bedwar ban byd, gan gynnwys Cymru.

Parti o safon
Mae nosweithiau Cymdetihas Dewi Sant H.K fel arfer yn lot gormod o hwyl ac rwy'n falch dweud i'w parti Nadolig fod lan i'r safon arferol eleni eto.

A dweud y gwir roedd e mor dda bu'n rhaid imi gysgu hangover bant drwy'r dydd tra'n bola heulo ar yr hamoc.

Yn y British Consulate y bu'r parti - lle delfrydol gyda'i neuaddau mawrion a digonedd o le rhwng y to a'r nenfwd - peth pwysig iawn ar gyfer lleisiau Côr Meibion HK.

Yn unol â'r traddodiad, roedd y lle dan ei sang a phawb yn yn ymuno yn yr holl garolau a'r emynau a'r Gymraeg a'i hacenion i'w clywed ym mhobman a am yn teimlo'n gwbl gartrefol yn clebran fflatowt â phawb.

Mae digwyddiadau o'r fath bob amser yn gwneud imi hiraethu am adref ond diolch i'r drefn llwyddo i beidio crio!!

Roeddem, yn amlwg, wedi llyncu diferyn neu ddau yn ormod gan iddi gymryd 48 awr imi gael gwared â'r cur pen!

Ta waeth, diolch i'r drefn imi gael gwared ohono erbyn y bore Sul gan fod bedydd plentyn ffrind inni a pharti i ddilyn yn yr FCC - Foreign Correspondents Club.

Erbyn bore Llun roeddwn fel drychiolaeth eto yn chwilio am ysbrydoliaeth i sgwennu drama wythnosol ar gyfer y plant!

Anghofio am y larwm
Mae'n anodd cofio, pan ydych yn cael teulu draw ar wyliau, nad ydw innau hefyd ar wyliau!!!

Mae'n anodd gwrthsefyll y demtasiwn i eistedd ar y to yn clebran tan oriau bach y bore ac anghofio y bydd y larwm yn canu am hanner awr wedi chwech!

Diolch i'r drefn cefais egwyl o'r gwaith a dyna pryd y dechreuodd y gwaith go iawn o baratoi am ein ymwelwyr nesa, mam a chwaer Rod heb sôn am y siopa ar gyfer ein cinio Nadolig.

Y bwriad yw cael barbie ar y to i ddeg o bobl.

Unrhyw un yn ffansi bod yn waiter? Rwy'n addo bod Sion Corn yn ymweld â Honkers hefyd !!!!






asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy