麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Noson allan Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!
Gyda'i sioe radio ei hun, pilates a noson allan tan oriau mân y bore mae hwn yn gyfnod prysur i Beks yn Hong Kong.


Dwi'n credu bod hi'n saff dweud imi gael cyfnod mwyaf bishi fy mywyd yn HK dros y pythefnos ddiwethaf.

Mae tri rheswm pam; radio, pilates a ffrindiau - hynny yw, y pethau cymdeithasol maen nhw'n tueddu i'w trefnu!

Ta beth, dwi ddim yn achwyn o gwbl ond yn mwynhau pob eiliad - ar wahân i drip MTR drewllyd i stiwdios RTHK (Radio Television Hong Kong) gyda'r nos!
Mmmm - tybed allwn i ofyn i'r uwch gynhyrchwyr a fyddai'n bosib cael car i fy nghludo i'r stidwio??!!

Unrhyw beth i osgoi drewdod traed a cheseiliau pobol am hanner awr ar drên tan ddaear wedi diwrnod o waith !!!

Chwifio'r faner
Dwi di bod yn gwneud gwaith cyflwynydd oedd bant am bythefnos yn cyflwyno a chynhyrchu sioe nosweithiol ar radio 3/RTHK.

Bu'n gyfnod od bod ar yr awyr bob nos unwaith eto gan fy atgoffa o'r dyddiau pan oedd hyn yn rhan o fy mywyd bob dydd yng Nghaerdydd.

Gan mai fi oedd yn cynhyrchu hefyd, dwi di bod yn ddigon ffodus i fedru arbrofi â cherddoriaeth newydd a chwifio'r faner dros Gymru drwy'r gerddoriaeth wych ydym ni'n gynhyrchu.

Yn anffodus, gorsaf gwbwl Seasneg - gydag ychydig o Fandarin a Chantonaeg - ydi ydy Radio 3 felly bu'n rhaid imi gadw at gerddoriaeth Eingl Gymreig y SFA, Stereophonics, Lost Prophets, Manics, Catatonia a Cherys.

A fy ffefryn ar hyn o bryd, Goldie Looking Chain.

Rwy'n clywed fod y bois yma yn gwneud dipyn o enw iddyn nhw'u hunain acw ond enw newydd iawn ydyn nhw yn HK - ond bydd hynny'n newid erbyn bydda i wedi gorffen da nhw!

Gan fod HK yn lle mor gosmopolitaidd gydag ex-pats neu gweilos yn dod o bob rhan o'r byd mae'r siart fan hyn yn llawn amrywiaeth gyda phresenoldeb cryf o Awstralia, yr Unol Daleithiau ac Ewrop ac mae'n grêt darganfod artistiaid a bandiau newydd bron iawn bob dydd.

Fy sioe fy hun
Yn ogystal â'r sioe newydd rwyf hefyd wedi cael fy slot fy hun ar Radio.3 gyda sioe newydd sbon bob bore Sul rhwng naw ac un.
Dim nosweithiau Sadwrn mawr bellach oherwydd gall pedair awr o gyflwyno ar eich pen eich hun deimo fel oes ac angen canolbwyntio drwy'r amser!

Hunllef llwyr i rywun gyda phen mawr!

Ta beth, rwyf wedi ecseitio'n bost gyda fy sioe gyntaf yn dechrau ymhen teirawr a minnau'n teipio hwn am chwech y bore a'r pili pala yn fy mol yn llawer rhy swnllyd!

Lleddfu poen
Ond mae pethau eraill heb law gwaith.
Pilates yn un!

Bum yn dioddef gyda nghefn a fy ngwddf ers blynyddoedd ac o'r diwedd, wedi sawl X ray ac MRI, dywedodd fy arbenigwr mai physio-pilates yw'r ffordd ymlaen!

Unrhyw beth i leddfu'r boen.

Felly, dwi di bod yn teithio i Central ddwywaith, dair, yr wsnos am sesiwn pilates personol gyda Roshenda.

Mae'n swnio ychydig fel triniaeth superstar mi wn - fel rhywbeth fyddai Madonna yn i wneud - ac mae'n andros o ddrud fel popeth arall yn HK.
Ond dyna beth mae yswiriant meddygol yn da!

Drwy'r meddwl
Mae pilates yn wahanol iawn i unrhyw ymarfer corff dwi di wneud yn y gorffennol ac yn hytrach na theimlo fy mod wedi ymlâdd yn gorfforol yn dilyn sesiwn fy ymennydd sy'n brifo wedi'r holl feddwl!

Mae'n beth od iawn ond defnyddir yr ymennydd i ddeffro'r cyhyrau sydd braidd byth yn cael eu defnyddio.

Mae fel rhoi injan newydd mewn hen gar ac rwy'n falch o ddweud mod i'n gweld newidiadau bychain yn fy osgo o flaen cyfrifiadur yn stiwdio ac ati.

Byddaf megis menyw newydd erbyn Dolig!

Gorau'r byd
Ond ni fu bod yn fishi gyda gwaith a pilates yn rhwystr rhag mynd allan i fwynhau!

Thiery a Sandy RivieraMae fy ffrind Ffenging-Vietnamaeg, Thiery yn DJo'n gyson yng nghlwb 1/5 yn Wanchia - clwb tywyll, cŵl fel NY loft ac yn lle sydd wastad yn denu pobol brydferth Hokers.

A'r wythnos ddiwethaf roedd un o DJs gorau'r byd yn troelli yno!

Mae Sandy Riviera o dras Puerto Ricaidd , yn byw yn Efrog Newydd ond fwy neu lai mewn dinas wahanol bob penwythnos - Paris, Llundain, Efrog Newydd, HK!!!

Welais i erioed gymaint o bobol yn mynd amdani am 5.30 y bore! Oes, mae gan y dyn fysedd a chlustiau gwyrthiol - mae hynny'n ffaith ac wrth iddi wawrio ar fore Sadwrn poeth a minnau'n gadael gyda thraed tost dau beth oedden yn awchu amdanynt - kebab a gwely!!!






asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy