麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Pryd o fwyd Hong Kong - cychwyn bywyd newydd
Mae cyn gyflwynwraig 麻豆社 Radio Cymru yn cychwyn ar fywyd newydd yn Hong Kong gyda'i merch fach a'i chariad.

O'r diwedd - wedi'r holl siarad, paratoi, partio a disgwyl am y symud mawr - mae'r freuddwyd wedi ei gwireddu ac rwyf wedi cyrraedd lle sy'n cael ei gydnabod fel Dinas bywyd - Honkers braf!

Rhaid cyfaddef, roedd golwg ofnadwy arnaf yn cyrraedd y maes awyr ychydig dros wythnos yn ôl.

Y noson cyn hedfan trodd yr hen Chez Beks yn Canton yn fan cwrdd i ddweud ta ta wrth ffrindiau agos.

Dwi'n cofio dweud wrth mam am bump, wrth agor y botel gyntaf o Siampers, mai noson fach dawel fyddai hi gan y byddwn yn hedfan am dair awr ar ddeg gydag Ela y diwrnod wedyn.

Allwn i ddim dychmygu ymdopi â'r fenyw fach a hangover yr holl ffordd i H.K!!!
Ond ymdopi fu raid!

Ffarwelio a llefain
Roedd fy llygaid fel rhai llygoden fach. Braidd na allwn eu hagor wedi'r holl lefain a dweud ta ta wrth bobol sy'n rhan mor fawr o'm bywyd - yn enwedig Mam yn Heathrow.

Dwi fel arfer yn taeru bod cucumber eye pads, llwythi o moisturiser a galwyni o sudd oren yn eich galluogi i adael yr awyren megis Catherine Zeta Jones - gyda'r sbectol Gucci ddu anhepgor!

Ta beth, nid dyna ddigwyddodd y tro hwn a doedd dim amser o gwbl i gael maldod gan fy mod ar lawr yr awyren yn lliwio cylchgrawn Teletubies am y rhan fwyaf o'r daith.

Ond dyna ni -.mae'r llefain drosodd, y dagrau wedi sychu a'r direidi di dechrau yng ngwlad y teigr.

A diolch i'r drefn roedd RJ yn y maes awyr yn ein disgwyl gyda rhosyn yr un i'r merched pwysig yn ei fywyd. O, ie - a limo i'n cludo adref!!!

Y teimlad iawn
Mae'n rhyfedd sut mae dyn yn medru ail gartrefu yn go gloi os yw'r ty neu ardal yn teimlo'n iawn.

Fi ddaeth o hyd i'n cartref yn Stanley rai misoedd yn ôl ond roedd gweld y lle 'da dodrefn a rhai o fy mhethau fy hun o adref o gwmpas y lle yn gwneud imi deimlo yn dwym tu mewn.

Gardd ar y to
Roeddwn bron marw ishe i Ela weld y cwbl lot - yn enwedig ein to ni.

Mae'n beth anghyffredin iawn bod â gardd yn HK ond rydym ni'n ffodus tu hwnt o gael gardd fawr breifat ar y to sy'n edrych dros y môr.

A na, sai'n disgwyl i Els gwyno yn yr haf nad oes pwll nofio da ni gan nad yw'r traeth ond tafliad carreg i ffwrdd.

Dwi di amseru'r cerdded o'r fflat i'r traeth ac mae'n anodd cymryd mwy nag 30 eiliad i wneud y siwrne faith!!!!

Bois mae bywyd yn galed!!!

Petai unrhyw un wedi ceisio esbonio imi cyn cyrraedd faint o groeso fyddai'n fy nisgwyl fuaswn i byth wedi credu'r fath beth.

Gan fod cymaint o ex-patswedi ail gartrefu yn Honkers, filltiroedd ar filltiroedd i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd mae'r teimlad o gael ffrindiau sy'n deulu estynedig yn un cryf iawn.

Cefais fy ngwahodd i gymaint o bethau gwahanol - yn enwedig pethau yn ymwneud ag Els a chredwch neu beidio dwi wedi hyd yn oed ddechrau mynychu rhywbeth tebyg i Gylch Ti a Fi fan hyn yn Stanley ei hun!

Yr unig wahaniaeth yw fod Els yn canu I'm a litttle tea pot yn hytrach na Troi ein dwylo!

Diolch byth fod CD Cwm Rhyd y Rhosyn yn y fflat!



Beks yn Hong KongCariad a ffrind
Mae'r fenyw fach eisoes wedi ennill ei lle a chanddi Alex, tair oed o Singapore yn gariad ac Aaliah, o Bakistan yn ffrind gorau!

Ydy, mae'n cysmygu mewn cylchoedd cosmopolitaidd iawn chi'n gwybod - fel ei mam!

Er imi fabwysiadu cylch newydd o ffrindiau o bellafoedd byd mae'n braf cael cymaint o Gymru o'm cwmpas hefyd yn South Side hefyd.

Roeddwn yn gwylio gêm gyntaf Cymru ym mhencampwriaeth y chwe gwlad yn ein ty tafarn lleol ni, y Boathouse, gyda ffrindiau o Lanelli sydd wedi ail gartrefu lawr yr heol yn Repulse Bay.

Bydd rhagor o gymysgu gyda Chymru y penwythnos nesaf yn un o ddigwyddiadau mawr calendr cymdeithas Gymraeg HK - ball yng ngwesty moethus y Ritz Carlton yn Central.

Felly dychmygwch beth fyddaf i'n wneud ddydd Sadwrn ie - ychydig o retail therpay yn un o ganolfannau siopau gorau'r byd.

Wel, mae angen edrych yn knock out ar gyfer fy ymddangosiad ffurfiol cyntaf yn does???!!!




asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy