麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Beic pinc a pharti
Y digwyddiad mawr cyntaf wedi i Beks ddychwelyd i Hong Kong yn dilyn ymweliad â Chymru oedd parti pen-blwydd - ar y to yng ngolau cannwyll . . .

Pwy sydd angen upgrade pan fo SARS o gwmpas?!
Wir i chi, roedd y daith adre i HK dipyn yn fwy pleserus na'r un arferol gan fod rheseidiau o seddi cwbwl wag. Gwely yr un, felly, i mami ac Els am y daith 17 awr!

Dim ond 60 o bobol oedd ar y jumbo sydd fel arfer â phobol wedi eu pacio fel sardîns!

Cawsom ambell i edrychiad rhyfedd gan staff yn Heathrow cyn gadael.

"Ac le i chi'n teithio heddi madam?"

Ac wedyn yr edrychiad druan ohono chi! pan atebais "Hong Kong!"

Ta beth, golygodd y pum awr ychwanegol o deithio fod Ela Mai a Mami yn dioddef o'r jetlag mwyaf ofnadwy am y tridiau wedi'r daith nid y peth delfrydol a hithau'n ail ben-blwydd y fechan y diwrnod ar ôl cyrraedd Honkers!

Braf bod adref
SARS neu beidio, roedd hi mor braf cyrraedd adre. Roeddwn i'n synnu faint oeddwn i'n golli HK a phopeth arall sydd nawr ynghlwm â fy mywyd yma.

Roedd hi'n hwyr iawn pan gyrraeddon ni'n ôl yn Stanley y nos Sadwrn ac oherwydd y jet lag bu'n rhaid deffro Ela Mai amser cinio drannoeth neu mi fuasai wedi cysgu drwy ei phen-blwydd!!!

Mae Ela yn ferch hynod fenywaidd - tybed lle mae'n etifeddu yr ochor yna o'i chymeriad? - felly, ymhlith y llwythi ar lwythi o bresantau y prif anrheg oedd beic Barbie pinc!!!!

Mmmmm rhyngddo chi a fi dwi ishe un fy hun!!!

Felly ar ddiwrnod gwyliau cyhoeddus fan hyn, Pen-blwydd Bwda, go brin i'w phen ôl adael y sedd o gwbwl sy'n beth da, gan na all ei thraed gyrraedd y pedalau eto!

Dathlu o ddifrif
Yn bersonol, roedd dathlu pen-blwydd Ela fan hyn yn HK yn beth hynod o bwysig i mi - ei phen-blwydd cyntaf yn ei chartref newydd.

Hapus, MamiFelly, penderfynodd RJ a minnau y byddai'n rhaid dathlu o ddifri, Dathlu mewn steil gyda parti ENFAWR cyfuniad o barti pen-blwydd Ela yn ddwy a pharti bedyddio ein cartref newydd.

Mae'r tywydd yn ferwedig yn HK ar hyn o bryd yn y nawdegau, felly mond un peth oedd amdani barbie ar y to.

Oherwydd y gwres cyson mae pobol HK yn tueddu i wneud cymaint o ddefnydd o'u barbies ag o'u ceginau os oes ganddyn nhw do neu falconi.

O ganlyniad mae lot o bwysau arno chi i gael barbie sy'n well nag un pawb arall neu o leiaf yn well nag un yr Americanwyr drws nesa yn ein hachos ni!!!!!

Rhaid cyfaddef nad ar chwarae bach y mae dewis yr angehnfil!

Maen nhw'n hynod o gostus ond profodd ein barbie ni o Oz yn fuddsoddiad am weddill ein bwydau!

Gallwch goginio ffowlyn cyfan arno a phorthi'r pum mil gydag ef!

Go brin fod angen dyfalu ble byddwn ni'n bwyta'n cinio Dolig eleni!

Y noson cyn y bash roeddwn wrthi fel lladd nadroedd yn mwydo bananas mewn mêl i'w coginio i'r plant ar y bwystfil newydd ac yn lapio pass the parcel, paratoi goodie bags, golchi'r llithren a'r teganau a chwilio am wydrau, platiau, powleni.

Hyn oll cyn hyd yn oed meddwl am y ddarpariaeth ar gyfer y plant mawr!

Cig mewn Port
Diolch i'r drefn mae yna un joban mae dynion wastod wrth eu boddau gyda hi - bod yn gyfrifol am gig y barbie - felly cefais ddianc o'r gegin a gwisgo'r ffedog a gadael i RJ fwydo'r cig mewn gwin Port a chreu gwyrthiau cigyddol eraill!!!!

Roedd y ddwy oergell yn llawn vino a chwrw, y ddau eskie neu focsus iâ yn llawn dop a iâ ar y to, y gacen ben-blwydd yn barod a'r barbie yn barod am ei fedydd tân!

Fel arfer roedd y tywydd yn fendigedig er ychydig yn rhy boeth tan tua chwech y nos ond o fewn ychydig funudau ar wedi pedwar y pnawn dechreuodd y marathon o barti gyda'n to ni di dan ei sang gyda tua 60 o bobol a phlant yn rhedeg bobman.

Roedd yn griw ecleticg dros ben gan fod ein ffrindiau yn dod o bedwar ban byd, HK, Cymru, Canada, Korea, Singapor, yr UD ayb!!!!

Dim ond y plant mawr!
Wi'n falch o ddweud mai ond y plant mawr oedd yn dal yn partioa dan y sêr yng ngolau canhwyllau am ddau y bore gyda'r rhai bach wedi cau eu llygaid ers oriau wedi pnawn o redeg a neidio.

Bu'r bonanza o barti yn llwyddaint mawr er i'r balwns i gyd fyrstio yn y gwres ac er imi angofio rhoi cadachau goodie y plant iddyn nhw fynd adre ac i'r golau ffiwsio ar y to!

Mae canhwyllau mor handi!

Yn bwysicach na hyn oll, roedd y fenyw fach wedi mwynhau ei phen-blwydd cyntaf yn HK mas draw ac mi fydd y beic pinc yn destun siarad am wythnosau i ddod!





asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy