麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Blwyddyn y Ceiliog
Kung Hei Far Choi!
Beks yn ffarwelio â'r mwnci a chroesawu'r ceiliog i Hong Kong

Kung Hei Far Choi!
Blwyddyn Newydd Dda a "cocadwdldŵ" i bawb!!!
Ydy, mae'r flwyddyn newydd Chineaidd ar ein pennau ni a rhaid ffarwelio â blwyddyn y mwnci a chyfarch blwyddyn newydd y ceiliog.

Mae cyfnod y flwyddyn newydd yn un pwysig iawn i ni yn HK gyda sawl diwrnod o wyliau ac yn ein hachos ni fel teulu rydym ni'n gwneud yn fawr o'r achlysur a chymryd deng niwrnod bant i fynd i Orllewin Awstralia am ychydig o heulwen.

Yr adeg oeraf
Yn draddodiadol, dyma'r adeg oeraf yn HK gyda'r tymheredd yn disgyn dan ddeg gradd ac mae'n oernach na hynny hyd yn oed yn y New Territories.

Weithiau mae pobl yn rhedeg i'r mynyddoedd am rew ar ôl codi'r bore ond yn aml iawn mae e wedi diflannu o'u dwylo erbyn iddyn nhw gyrraedd troed y mynydd!

Mae'r holl beth yn ddrama fawr gyda chriwiau teledu yn ffilmio'r cyfan!

Ond mae'n ddrama y byddaf yn falch o'i hosgoi gan estyn am y bicini - beichiog neu beidio!!!

Er ein bod ni y gweilos - y gwynion gorllewinol - yn gadael ein cartrefi am y flwyddyn newydd, aros adref fydd y rhan fwyaf o'r bobol leol.

Neu, a bod yn fanwl, gadael eu cartrefi am sawl diwrnod rhag i lwc ddrwg ddod ddod yno.

Glanhau'r tŷ
Hefyd, ni fyddant yn golchi eu gwallt am bum niwrnod am yr un rheswm.

Mae'n hanfodol glanhau'r tŷ cyn dydd cyntaf y flwyddyn newydd a'r noson cynt rhaid cadw pob brwsh a dwster mewn cwpwrdd.

Ni ddylid cael gwared â llwch ddiwrnod cyntaf y flwyddyn rhag ofn i lwc dda y teulu gael fynd gydag ef neu gael ei ysgubo i ffwrdd.

Yr arfer yw i sbwriel y tŷ gael ei hel yng nghanol y parlwr am y pum niwrnod - dim ond wedyn y gellir ei daflu mâs.

Swnio yn drefn eithaf drewllyd i mi!

Talu dyledion
Mae arferion ariannol hefyd. Rhaid talu dyledion cyn y flwyddyn newydd rhag eu cario o un flwyddyn i'r llall.

Yn ôl traddodiad, os ydych chi'n rhoi benthyg arian ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn byddwch yn eu benthyca am y flwyddyn gron!

Mae plant bach a ffrindiau sydd heb briodi yn derbyn pacedi bach coch o lai see -amlenni bach lliwgar yn cynnwys papur deg doler neu swm tebyg o arian.

Dim rhyfedd eu bod yn cynhyrfu'n bot gan eu bod yn derbyn nifer fawr o'r pecynnau bychain gan deulu a ffrindiau.

Mae hefyd yn bwysig peidio â chrio ddiwrnod cynta'r flwyddyn gan fod peryg wedyn mai wylo fyddwch chi drwy'r flwyddyn!

Felly, dim ots pa mor ddrygionus yw'r plant does wiw ichi eu ceryddu neu roi chwip din iddyn nhw rhag gwneud iddyn nhw golli dagrau.

Amser swnllyd
Gall y flwyddyn newydd Chineaidd fod yn adeg swnllyd iawn hefyd wrth i bawb danio fire crackers er mwyn hala'r hen flwyddyn i ffwrdd a derbyn yr un newyd.



Am hanner nos, rhaid agor pob ffenest a drws yn y ty er mwyn gadael yr hen flwyddyn allan.

Yn ogystal â'r holl draddodiadau yma mae'n hanfodol peidio defnyddio cyllell neu siswrn ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn rhag torri i ffwrdd lwc dda y teulu.

Yn bersonol, credaf ei bod yn beth da ein bod yn osgoi HK ystod y cyfnod hwn gan fy mod wedi tramgwyddo digon o ffrindiau lleol trwy fod yn anwybodus am arferion tebyg i'r rhain. Wn i ddim sut y byddwn i'n ymdopi ag aros yma!

Ond edrychaf ymlaen yn fawr at flwyddyn newydd gyffrous yng nghwmni fy "ngheiliog" bach.

Ydy mae'r "year of the rooster" yn addo bod yn un dda - yn enwedig ar ôl brêc yn Oz!




asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy