麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


John Hartson Wncwl John yn plesio!
Beks Walters yn sgrifennu o Hong Kong
Sôn am heip a pharanoia bois, dwi di amseru fy symudiad i HK yn wyrthiol gan mai dyma'r tywydd gwaethaf maen nhw wedi'i gael ers sbel fawr.

Rydym ni'n tri yn dal i disgwyl i'r haf gicio mewn o ddifri!

Ond mae pobol yn marw o straen arbennig o niwmonia - wir i chi a dydw i ddim yn siwr os yw'r newyddion wedi cyrraedd Prydain eto ond mae tua deg o bobol wedi marw yma a thua 80 yn ddifrifol wael yn yr ysbyty.

Mae cerdded o gwmpas ardal Central dref yn brofiad rhyfedd iawn gyda llwythi o dwristiaid yn gwisgo yr hyn na ellir ond ei ddisgrifio fel masg ysbyty dros eu hwynebau.

Oce, rwy'n gwybod nad yw'n rhywbeth i chwerthin amdano ond rhaid cyfaddef i wên fach ddrwg ddod i fy wyneb pan welais bobl yn gwisgo'r acsesori diweddara hwn tra'n plymio i'r dwr bobl mewn gwisgoedd nofio yn Ocean Park!!!
Chesesey - Crazy mewn Cantonaeg.

Camp myfyrwraig fach!
Er bod pethau'n ddrwg yma rwy'n dal i fynd ag Ela i'r ysgol gan ymddiried yn llwyr yn staff yr ysgol a rhieni'r plant sy'n mynychu Tutor Time.

Mae'r myfyrwraig fach ein ty ni yn mynd o nerth i nerth ac yn ddigon hapus i ddweud "Ta ta Mam" pan wyf yn ei gollwng yno dri bore yr wythnos.

Yn dilyn ei champ yr wythnos hon rwy'n gallu uniaethu â'r mamau hynny sy'n brolio llwyddiant TGAU a Lefelau A eu plant!

Pan es i'w chasglu o'r ysgol roeddwn i bron iawn yn neidio lan a lawr pan glywais y newyddion cyffrous gan ei hathrawes Mandarin - sef bod Ela'n medru cyfri o un i bump mewn Mandarin.

Felly, ar hyn o bryd, Ela Mai sy'n dysgu Mami sut mae dweud bore da ac ati!!

Parti heb esgus!
Gyda HK yn City Of Life does dim angen esgus ar neb i gael parti!!!

A'r un parti sy'n drech na phob un aral ydi'r Hong Kong Sevens - un o ornestau rygbi mwyaf cyffrous y byd.

Chefais i mo'r fraint na'r anrhydedd o fynychu'r tridiau o barti hyd yn hyn a rhaid cyfaddef dwi ddim yn siwr a ydw i'n barod barod am y fath barti.

Y sôn yw fod y South Stand yn beryg bywyd lle mae'r gwylwyr wedi eu gwisgo fel popeth o ddoctoriaid i i hen Frythoniaid.

Dwi ddim cweit yn siwr beth yw'r craic ymysg ein grwp ni a dydw i ddim ishe gwybod ychwaith!!!!

Yn anffodus, mae'r holl beth yn y fantol braidd ar hyn o bryd gyda thimau fel Ffrianc a'r Eidal wedi tynnu mas oherwydd y niwmonia.

Felly, rydym ni i gyd yn croesi'n bysedd.

Mae'r Rolling Stones hefyd yn bwrw'r dre y penwythnos nesaf gyda tocynau yn mynd am brisiau arallfydol felly, efallai y bydd yn rhaid chwilio am docynnau i weld yr hen rubber lips ei hun os na fydd yna rygbi.

Prowd o Wncwl John
Dwi mor hapus fy myd yn byw yn Honkers ond ar adegau dwi'n ysu am fod nôol yng Nghymru ac rwy'n gwybod y bydda y penwythnos nesa yn un ohonynt a phe byddai gen i'r dewis o fynd i weld y Sevens, y Stones neu dîm pêl-droed Cymru yn chware ei gêm fawr yn Stadiwm y Mileniwm y byddwn i gan fy mod mor browd o sut mae "Wncwl John" yn chwarae ar hyn o bryd.

Bu gweld llun John Hartson ar ddalen gefn y South China Morning Post yn beth cyffredin iawn dros yr wythnosau diwethaf a chan fod Ela wedi gweld ei hwncwl yn ei grys Celtic gymaint o weithiau yn ddiweddar mae'n mynnu gwisgo ei dillad Celtic hi bob dydd.

Wi'n siwr bod trigolion Stanley mewn penbleth lwyr ynglŷn â'r ferch fach o Gymru sy'n siarad Cymraeg, Mandarin a Saesneg ond â chrys Albanaidd ar ei chefn yn y parc.





asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy