麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Glaw, rasus a gwersi!
Beks yng nghanol glaw mawr Hong Kong lle mae hi'n awr yn byw.


Daeth y glaw. Deng niwrnod di dor ohono!

Ac nid y glaw yn unig ond llifogydd,niwl, mellt a tharanau.

Taranau mor swnllyd eu bod yn cael eich deffro yn y nos a bron iawn eich gorfodi i neidio yn y gwely!

Croeso I Hong Kong ym Mehefin" yn wir fel mae sawl un wedi dweud wrthyf yr wythnos hon.

Ond diolch ir drefn mi ddaliodd y tywydd am un o ddiwrnodau pwysicaf y flwyddyn yma, gwyl Tuen Ng gwyl syn cael ei chysylltu a bwyta Zongzi (twmplinau reis) ag yn bwysicach gyda rasio cychod draig - dragon botas!

Swn y drymiau
A ninnau wedi bod yn clywed swn y drymiau ers misoedd yr oedd yna gynnwrf aruthrol ar fore'r diwrnod mawr a miloedd ar filoedd o bobol yn heidio in rhan ni or ynys, Stanley ar traeth sydd tua 30 eiliad i ffwrdd!!!!

Oedd, roedd hin fishi!

Mae hin wyliau cyhoeddus yn HK ar ddiwrnod Gwyl Tuen Ng a bron bawb yn mynd i wylio'r rasio rhwng timau o bedwar ban byd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.

Fel y gallwch ddychmygu, y lle gorau i weld y rasio a chefnogi eich tîm ydi unai ar y traeth neu o gwch junk ar y môr.

Mae nifer o gwmnïau mawr fel banciau a busnesau cyfreithiol yn llogi junk am y diwrnod a'i lwytho gyda siampên a digon o fwyd i borthir pum mil gydar bwriad o eistedd yn ôl yn yfed, bwyta a - os ydych chi'n dal ar eich traed erbyn amser cinio - chefnogi eich tîm!

Wedir cyfan, maen ddiwrnod hir gydar rasio yn cychwyn am wyth y bore a gorffen am tua saith y nos.

To cyfleus
Doedd hi ddim yn syndod i mi ddarganfod ein bod ni yn bobol boblogaidd iawn ar ddiwrnod y rasio - dwin rhyw ame fod gan y ffaith eich bod yn medru gweld y rasio on to ni rywbeth i'w wneud â hynny!!!!

Do, fe ddaeth y criw selog draw i gael brecwast-ginio ar y to heb orfod cael eu gwasgu fel sardîns lawr ar y traeth.

Gan fod y tywydd mor boeth a chan fod ambell i wydraid o vino wedi mynd yn syth i fy mhen mi wnes i fanteisio ar ddefnyddior hamoc gryn dipyn tra'n gweithio ar y lliw haul!

Ar ôl lot o fwyta ac yfed reodd hin amser neidio ar sanpan,(cwch bach) a gwneud ein ffordd allan ar y môr i ymuno gyda chriwau gwahanol ar junks gwahanol i wylio uchafbwyntiaur rasio a chefnogi ffrindiau oedd yn chwysu ar y dwr.

Diwrnod da!

Ar redeg
Ta beth er gwaethaf y glaw mae bywyd wedi bod yn mynd yn ei flaen yn Honkers a'r busnes rhedeg yma wir wedi cydio ir graddau fy mod wedi bod yn rhedeg ar hyd y traeth a thuag at Tai Tam Reservoir pan for dwr bron iawn lan at fy nghluniau!!!!

Rhaid cyfaddef, tran rhedeg gallwn glywed mam yn sibrwd Ti'n siwr o ddal niwmonia yn gwneud y fath beth tin gwybod!!!!

Maen rhaid cyfaddef mae rhywbeth cathartig iawn mewn teimlo eich bod yn brwydro yn erbyn yr elfenau a rhedeg drwyr môr!!!!

Mae rhedeg hefyd yn fy ngalluogi iI feddwl ac yn fy ysbrydolu i wneud penderfyniadau positif.

O ganlyniad i ambell i syniad a gefais tra'n rhedeg yr wythnos hon, dwi'n awr yn mynd i wneud gwaith gwirfoddol gyda plant bach Chineaidd syn dysgu Saesneg ar ynys Macau!!

Ie fi'n dysgu.

Cysyniad rhyfedd win siwr!!!

Ar Ynys Macau
Traddodiad Portiwgeaidd sydd i Ynys Macau ac felly'n rhoi ymdeimlad o fod yn gyfandirol iawn yn ogystal â bod yn Chineaidd.

Maer daith yno yn awr ar y hedroffoil a dyna lle byddai i'n bwrw amdano ar fore Sul i'r Jingdou Language Centre.

Maen fwriad dar ysgol redeg gweithdai drama yno dros yr haf er mwyn meithrin a datblygu sgiliau Saesneg y plant bach Chineaidd syn mynychu'r ysgol a dwi di cytuno mynd yno i gwrdd âr criw a chynnig ambell syniad iddyn nhw!!!

Tra yn y brifysgol yn Llundain, cefais y cyfle i wneud sawl peth tebyg mewn gwersyll yn yr UD ac i ddweud y gwir, dwi wedi ecseitio'n llwyr am y peth gan fod pawb mor gadarnhaol a gobeithiol.

Ydy, maen go wahanol i ddarlledu ond hei, pam lai?!

Sôn am weld hanner Asia mewn wsnos. Ar ôl dod nôl o Macau rydyn ni bant ar wyliau i rywle dwi di bod yn dyheu ymweld ag ef ers dipyn - lle llawn cyffro.

Bangkok dyma nin dod!!!!!
Oh, mae bywyd yn anodd!!!!!




asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy