麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Ymwelwyr o Gymru
Beks yn siopa gyda hen ffrindiau yn Hong Kong - ac yn rhedeg dros fynydd!

Mae Mawrth y cyntaf wastad yn ddyddiad pwysig yng nghalendr Cymdeithas Gymraeg Hong Kong ac roedd dydd Gŵyl Ddewi eleni yn llawn bwrlwm a digwyddiadau.

Yn hytrach na gwledd flynyddol, cawsom Noson Lawen.

Doedd gen i ddim syniad bod cymaint o dalent yn perthyn i'r gymdeithas gyda rhai yn adrodd ac eraill yn darllen ac yn canu - yn unigol ac mewn grŵp.

Powlen o gawl
Rhaid cyfaddef, bu ambell i jôc sâl ond cafodd pawb bowlen o "gawl" - neu o leiaf ymdrech y Kowloon Bowling Club - nad oedd cweit cystal â rysáit fy hen nain - ac yr oedd yr ysbryd yn dda!

Mae clywed Côr Meibion Hong Kong wastad yn gwneud i mi deimlo'n hynod o hiraethus dim ond dechrau canu Mi Glywaf Dyner Lai ac rwyf yn fy nagrau!

Roedd y diwrnod hefyd yn brofiad gwahanol i'r hyn mae Ela wedi arfer ag e yn Hong Kong.

Pan oedd hi'n mynychu ei hysgol fach roedd hi bob amser yn gwisgo lan yn ei gwisg Gymreig draddodiadol ond nawr ei bod yn mynd i ysgol fawr nid yw hyn yn bosib.

Yn hytrach, cafodd wisgo lan ar ôl ysgol.

Nid oedd fawr o glem da'r bois am Ddydd Gŵyl Dewi eleni gan eu bod mor fach ond o leiaf cawsom gyfle i wisgo eu crysau rygbi Cymreig a chwrdd â ffrindiau bach eraill sy'n siarad Cymraeg.

Helpodd Joni fi i wneud pice ar y maen ond roedd mwy o gyrens arno fe nag yn y bowlen gymysgu ar un adeg!

Cyfarfod hen ffrindiau
Bu mis Mawrth i gyd yn un cymdeithasol iawn ac yn gyfle i ddala lan gyda thipyn o ffrindiau sy'n digwydd bod yn ymweld â HK.

Yr ymwelydd cyntaf oedd y gantores Gwenda Owen ar ei ffordd yn ôl o Awstralia ac roedd hi'n hyfryd dala lan da hi dros de yn y Grand Hyatt.

Dwi heb weld Gwenda ers pum mlynedd felly roedd lot o waith clebran!

Edrychai'n gyfforddus iawn ac fel y rhan fwyaf o ymwelwyr wedi gwneud ei siâr o siopa deche!!!

Croesi'r ffin i siopa!
Yr ail ymwelwyr oedd hen ffrindiau o'r 麻豆社, Emma a Sian.

Roedd Emma wedi ymweld â HK unwaith o'r blaen ar gyfer fy hen night ond dyma ymweliad cyntaf Sian ac yn naturiol roedd y ddwy yn awyddus i weld cymaint â phosib.

Yn ogystal â siopa yn HK fe benderfynon ni groesi'r ffin i Shenzhen yn China am y diwrnod.

Mae canolfan siopa enfawr yno lle gellir prynu popeth dan haul am hanner yr hyn fuasech yn ei dalu yn Hong Kong er nad yw ond hanner awr o ganol dre.

Gall y ddwy yma siopa yn broffesiynol, fel minnau, felly fel y byddech yn dychmygu, roedd hwn yn brofiad pleserus iawn ac fe adawyd Shenzhen ar y trên gyda'n bagiau, sbectols haul, sgidiau, dillad, teganau a llawer mwy, yn dair menyw blinedig iawn!!!

Roedd hi mor braf eu gweld nhw gan fod rhywbeth arbennig iawn mewn gweld hen ffrindiau - dwi heb chwerthin cymaint ers ache!

Rhedeg a rasio
Golygodd diwedd Mawrth lawer o redeg o gwmpas i mi - yn llythrennol!!!

Mae rhedeg yn rhywbeth dwi wastad wedi'i fwynhau ond wnes i erioed ffansio rhedeg ras - tan nawr!!

Mae rhedeg a cherdded yn y mynyddoedd yn beth poblogaidd iawn yn HK gan fod cymaint o'r ynys yn dir y Parc Cenedlaethol - ydy, mae Hong Kong yn wyrdd iawn er syndod - ac mae sawl ras fawr bob blwyddyn.

Ond yr un sydd wedi apelio ataf i ydy ras 15k The Mount Butler Race ac fe benderfynais fynd amdani am y tro cyntaf eleni!

Roedd y tywydd yn berffaith - rhyw 20 gradd gydag ychydig o law ysgafn.

Rhaid cyfaddef fy mod yn teimlo'n hynod o nerfus cyn dechrau ac ar adegau roedd fy nghoesau yn drwm iawn ond er syndod croesais y llinell mewn awr a hanner sy'n amser eithaf deche.

Ac roedd y teulu oll yno yn gweiddi eu cefnogaeth.

Mae rhedeg yn beth sy'n gallu gwir gydio ynddo chi ac rwy'n clywed bod ambell i aelod Radio Cymru yn rhedeg ym Marathon Llundain eleni. Pob hwyl ichi fechgyn! Pwy a ŵyr, falle gwelai chi yno fy hun yn 2008!!!





asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy