麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Croesawu Huw Ceredig
Beks yn sgrifennu o Hong Kong - lle mae'r gwres yn llethol a ffortiwn i'w wneud yn trefnu partis!

Rydych chi'n gwybod yn iawn pan fo'r haf wedi bwrw Honkers - mae eich colur yn rhedeg dros eich wyneb mewn llai na munud o'i osod ac mae pob dydd yn bad hair day oherwydd y lleithder a'r gwres.

Er bod hwn fy mhumed haf yn Hong Kong mae'r gwres yn fy llethu gymaint ag erioed - heb sôn am fwrw y rhai bach.

Diolch i'r drefn ein bod yn medru neidio i'r môr neu i'r pwll nofio ar ôl tua phedwar y prynhawn.

Beks Ond druan o Harri mae'r gwres yn dweud ar y "dyn bach sinisr!" gan nad yw gwallt coch a haul yn gweddu i'w gilydd o gwbl.

Ta beth - mae hi hefyd yn dymor teiffŵn gyda digonedd o law ar y ffordd a'r brogaod wrth ei boddau yn cael parti yn yr ardd.

Maen nhw'n gwneud sŵn fel gwartheg gan wneud ichi feddwl eich bod ar fferm yng Nghymru - nes ichi weld y palmwydd a'r bambw tu allan!

Ta beth, mae hi'n braf gwybod bod digon o gwmni o gwmpas adeg y glaw!!!!

Ymweliad Huw Ceredig
Dwi wastod yn cael cyfnodau o weld ishe Cymru a phethau Cymraeg - yn enwedig os nad wyf wedi bod adref am gyfnod - ond yn ffodus cefais ddos go iawn o Gymreictod pan gyflwynais wledd flynyddol Cymdeithas Gymraeg Dewi Sant Hong Kong.

Mae hon yn wledd sy'n denu cannoedd i rai o westai mwyaf moethus yr ynys ac nid oedd eleni yn eithriad.

Dwi bob amser wrth fy modd cael cyfle i siarad fy mamiaith gyda phobol na fyddaf yn eu gweld o un wledd i'r llall ac, wrth gwrs, uchafbwynt pob blwyddyn ydy cwrdd a'r siaradwr gwadd sydd yn hedfan draw o Gymru yn arbennig ar gyfer y noson.

Yn ffodus i mi roeddwn yn adnabod y siaradwr gwadd eleni ac yntau yn un o fy arwyr ers yn blentyn - Huw Ceredig.

Mae rhywbeth yn arbennig iawn mewn cwrdd â rhywun o Gymru pan ydych chi'n byw dramor ac fe allwn i eistedd mewn bar yn gwrando ar straeon am yr hyn sy'n digwydd adref yng Nghymru drwy'r nos!!!

Mae Huw yn gwmni mor ddifyr ac yn llawn straeon am ffilmio, beth sy'n digwydd ar set deledu neu ffilm ac wrth gwrs fe soniodd e am Twin Town - un o fy hoff ffilmiau i.

Fel rhywun oedd yn gweithio ym myd y cyfryngau yng Nghymru roedd clywed yr hanes yma yn rhoi gwên ar fy wyneb ac yn dwyn atgofion melys i'r meddwl.

Roedd Huw yn ddifyr ac yn apelio at bawb oedd yno - boent Gymry neu beidio.

Dwi hanner ffordd drwy ei lyfr - Cofio Pwy Ydw i - ac mae'n ddifyr iawn!

Roedd hon yn noson arbennig fel arfer a'r gwin yn llifo tan oriau mân y bore.

Rwy'n mawr obeithio i HK roi amser da i Huw!!!!

Dathlu pen-blwydd
Nid yr oedolion yn unig sydd wedi bod yn partio yn ddiweddar - bu Ela Mai hithau yn dathlu ei chweched phen-blwydd gyda pharti anferthol fel arfer.

PartiMae dewis thema ar gyfer parti yn dipyn o beth pan ydych chi'n chwech oed felly wedi rhywfaint o bendroni penderfynwyd ar barti pwll gyda 30 o blant bach yn neidio i mewn ac allan o'r pwll gan greu cryn firi.

Yn wahanol i Brydain, mae plant fan hyn yn nofwyr da yn bedair oed gan iddynt dreulio cymaint o amser mewn pyllau nofio ac o ganlyniad roedd llawer o neidio ac o gemau dŵr gwahanol.

Bu'n rhaid imi ofyn i lifeguard dwi'n ei adnabod gadw llygaid barcud arnyn nhw!

Yn naturiol roedd y gacen yr un siâp â phwll gydag Ela yn nofio yn y canol a phawb yn ymladd am ddarn o'r corff neu'r waterbed roedd hi'n gorwedd arno!

Rwyf nawr wrthi'n paratoi am barti Joni Teifi a fydd yn troi dwy.

Dwi'n siŵr bod ffortiwn i'w wneud rywle o drefnu partïon rhai bach!

Unrhyw un ishe bod yn drefnwr parti plant yn HK?

Mae digon o rieni cefnog yn fwy na pharod i ymestyn yn ddwfn i'w pocedi er mwyn ei gwneud yn hawdd i drefnu parti!!!

Esgusodwch fi ... dwi bant i gael ysbrydoliaeth yn y gegin ar gyfer cacen siap car ... mae'r 'air con' yn mynd ers hydoedd yn y gobaith na fyddaf yn llewygu!!!!





cysylltiadau
  • Gwybod Pwy Ydw i

  • asia

    Hong Kong
    Y bwyd môr gorau erioed

    Corwynt yn corddi HK

    Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

    Pen-blwydd i'w gofio i Beks

    Lle mae pawb yn gwenu

    Rhamant byd duwies y pysgotwyr

    Diflastod teisennau'r lloer

    Rhyfeddodau rhwng pedair wal

    Dathlu dau ben-blwydd

    Tylino yng Ngwlad Thai

    Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

    Nadolig o ramant a thrychineb

    Byw hunllef darlledwraig . . .

    Fflat newydd a buddugoliaeth

    Yn fy Sevens nen

    Santa'n codi ofn!

    Yn y bore mae dal hi . . .

    Rhedeg Wal Fawr China

    Dathlu'r pump

    Diwrnod y briodas

    Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

    Pen-blwydd yn bedair

    Prysurdeb priodi - ar draws y byd

    Parti ar y naw yn dair oed

    Yn oerach nag erioed!

    Noson y merched

    Mama mia - am berfformiadau

    Lanteri a theisennau atgas

    Drama mewn parti

    Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

    Babi newydd

    Disgwyl am y merched

    Croesawu ymwelydd arbennig

    Rhwng pedair wal yn Hong Kong

    Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

    Modrwy mewn Siampên

    Duran Duran - a wynebu Wal China

    Nadolig a Rolling Stones

    Paratoi ar gyfer
    Nadolig 2006


    Disney yn Hong Kong

    Diemwntau a roc a rôl

    Gŵyl Dewi 2006

    Dathlu Dewi 2005

    Hiraeth, hwyl a dagrau

    Gethin ar Ocsiwn

    Ymwelwyr o Gymru

    Pop - rwy'n destun sbort!

    Siopau, bwyd a rygbi

    Croesawu Huw Ceredig

    Blwyddyn y Ceiliog

    Trafferthion y Calan Chineaidd

    Dathlu Blwyddyn y Llew

    Ar draeth gwyn y Nefoedd

    Geni, pen-blwydd a phriodas

    Beichiog yn Hong Kong

    Yr ieir yn Bangkok

    Bali - blas ar baradwys

    Mentro i fyd bale!

    Ymweld ag Awstralia

    Llyncu arian - a disgwyl am newid!

    Y beichiog yn gawr!

    Glaw, rasus a gwersi!

    Gwanwyn wedi'r SARS

    Beic pinc a pharti

    SARS - yr ymateb yng Nghymru

    Byw gyda SARS - byw wedi SARS

    Pryderon salwch SARS

    Wncwl John yn plesio!

    O briodas i briodas

    Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

    Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

    Ymweld â Chymru

    Priodas yn Awstralia

    Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




    About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy