麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Rhedeg Wal Fawr China
'Un o brofiadau mawr fy mywyd,' meddai Beks a deithiodd o Hong Kong i Beijing er mwyn rhedeg y ras

Sôn am gyfnod bisi a rhedeg bwyti'r lle fel peth wyllt - ac rwy'n meddwl 'rhedeg' yn llythrennol!!!

Ar ôl cwpwl o fisoedd o ymarfer yn go galed fe ddaeth yr amser imi fynd i Beijing i redeg hanner marathon ar hyd Wal Fawr China!!!

Chwilio am her
Tra'r oedd fy ngŵr, Rod a'r plant yn deffro'n hamddenol ar fore Sadwrn, bwyta brecwast a darllen y papur wrth y pwll nofio yn HK roedden i hanner ffordd dros y wal!

Daeth y syniad o redeg y wal wedi imi gwblhau hanner marathon mewn râs yn Macau cyn y Nadolig.

Fel gyda sawl rhedwr neu redwraig tyfodd y buzz neu'r ysfa arna'i a chan fod cymaint o rasus cyffrous drwy'r amser yn Asia roeddwn yn awyddus am her mewn rhan o'r byd nad oedden wedi ymweld a ef o'r blaen.

Ar ben hynny roedd hon yn ras mor wahanol hefyd!

Pan glywais am ras "Y Wal" bu'n rhaid mynd amdani ac roedd y camera yn barod!

Hedfan i Biejing y diwrnod cyn y ras gyda fy sgidiau rhedeg wedi clymu wrth fy hand carry gan mai'r peth olaf oeddwn i ishe oedd colli fy sgidiau - a gwybod am fy lwc i byddai'r câs a hwythau hanner ffordd i Birmingham fel arall!!

Mae Terminal 5 maes awyr Beijing bron mor syfrdanol â phopeth arall sydd yno; yn fwy na therfynfaoedd 1 2 3 4 a 5 Heathrow gyda'i gilydd!!!

Dangos i bawb
Y bwriad oedd cwblhau'r adeilad cyn i ymwelwyr y Gemau yr Olympaidd gyrraedd.

Mae China yn amlwg yn awyddus i ddangos i bawb fod Beijing yn ddinas aruthrol gystal ag unrhyw le arall yn y byd am gynnal gemau o'r fath!

Ar ôl llond bol o basta a gwydred bach o win coch roedd gwely yn galw am 10 pm ... gan fod yn rhaid codi am dri y bore i deithio tua'r wal!!

Yn ffres
Roeddem yn aros ger sgwâr Tianamen gryn bellter o fan cychwyn y ras ac mae'n rhaid imi gyfaddef, pan wnes i neidio ar y bws gyda thair Americanes arall o HK am dri nid oeddwn wedi blino o gwbl gan fod yr adrenalin yn llifo a'r coesau yn ffres gan nad oeddwn wedi rhedeg llawer yr wythnos honno - gorffwys ydy'r cyngor gore.

Rodd y gwesty wedi pacio brecwast mewn inni yn ogystal a chinio ond doedd dim chwant banana a brechdan arnaf yr adeg honno o'r dydd - mond paned o goffi teidi a doedd dim sôn am hynny o gwbl!



Rodd y wawr yn torri dros y wal yn un o'r golygfeydd hyfrytaf imi weld erioed - prin y gallwn gredu beth oedd o fy mlaen; milltiroedd ar filltiroedd o garreg a minnau'n mynd i rhedeg 13 milltir ohonynt!

Roedd y tymheredd yn berffaith ar gyfer yr oddeutu dwy fil oedd yn rhedeg y bore hwnnw ond, yn naturiol, gan fod cymaint yn rhedeg bu'n rhaid dechrau mewn grwpiau gwahanol.

Roedd pobol wedi teithio o bedwar ban byd - grwpiau mawrion o'r Unol Daleithiau ac Ewrop yn defnyddio'r ras fel cyfle i weld Beijing ac ychydig o China.

Cryn emosiwn
Roedd cryn emosiwn wrth inni gasglu cyn y ras a munud o dawelwch yn deyrnged i'r rhai ddioddefodd oherwydd y daeargryn.

Bum i'n ymarfer ar gyfer y digwyddiad gyda thair ffrind yn rhedeg mynyddoedd ynys Hong Kong ac er nad oeddem yn cystadlu fel tîm, reddem ni wastod wedi dweud byddai hi'n grêt gorffen y ras gyda'n gilydd ond doedd hynny ddim mo'r peth hawsaf wrth i ddwy fil redeg ar hyd wal gul iawn!!!

Roedd y 5km cyntaf lan a lan a lan ar hyd heol oedd yn ein tywys ni i fan cychwyn y wal.

Roedd rhedeg ar y wal ei hunan yn hynod o debyg i'r hyn oeddem ni wedi'i ddychmygu; grisiau llydain - rhai enfawr a rhai bach.

Nid oeddem wedi disgwyl cyrraedd rhai mannau a oedd mor gul ein bod yn gorfod cydio mewn cortyn neu far haearn rhag cwympo.

Gorfod pwyllo
Yn naturiol bu'n rhaid pwyllo a hyd yn oed sefyll yn gwbwl llonydd ar adegau!

Ta beth - roedd hyn yn gyfle da i dynnu lluniau, cael ychydig anadl yn ôl a llyncu dipyn o ddŵr!

Mewn rhai mannau roeddech yn rhedeg drwy siamberi cerrig a sŵn y gwynt yn eich clustiau yn ogystal a'r oerfel sy'n rhywbeth y byddaf yn ei gofio byth am y ras!

Roedd rhan olaf y ras yn y pentrefi bychain ar waelod y rhan o'r wal buom ni'n ei rhedeg ac mae'n rhaid imi gyfaddef fod hwn yn fy atgoffa o orllewin Cymru gyda gwyrddni ym mhobman.

Does dim llawer o bobol yn byw yn y pentrefi hyn ond dwi bron iawn yn siŵr fod pob plentyn oedd yn byw yno allan ar y stryd y bore hwnnw.

Roedden nhw wedi llwyddo i gael poteli o ddŵr gan drefnwyr y ras ac roedden nhw'n awyddus iawn i'w rhoi nhw i'r rhedwyr!

Yn ogystal â hyn roedden nhw yn amlwg wedi dysgu ambell air o Saesneg ac yn gweiddi "Go go!"

Roedd y rhai bach iawn yn awyddus i roi llaw allan a rhoi high 5 i bawb oedd yn rhedeg heibio ac yr oedd hyn yn gymaint o hwb ac ysbrydoliaeth nes gwneud presenoldeb y rhai bach yn un o uchelbwyntiau'r ras.

Profiad mawr
Cymerodd ddwy awr a hanner i redeg y ras a gallaf ddweud â'm llaw ar fyn nghalon mai dyma un o brofiadau gorau fy mywyd ers sumud i Asia.

Pwy a ŵyr am faint y byddai'n aros yn rhan hon o'r byd ond rwy'n credu bydd gennyf atgofion anhygoel o fy ymweliad cyntaf â'r wal.

Roedd y coesau yn gwingo ychydig y noson honno ond nid amharodd hynny ar noson fawr o yfed yng nghlybiau Beijing!

Pwy a ŵyr - efallai y dylwn i fynd am y 26 milltir yn 2009 - ond yn y cyfamser edrychaf ymlaen at rhedeg yng ngorllewin Cymru dros yr haf.
Unrhyw awgrymiadau am her?!!




asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy