麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Beks Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!
Mae drama yn sicr yn rhywbeth sydd yn fy nilyn i mewn bywyd. Nid fy mod yn gofyn amdano chwaith - ond mae'n bendant yn gwneud bywyd yn gyffrous.Fe gadarnhawyd hyn i mi pan yr oedden nôl yng Nghymru yn ddiweddar.


Dyna lle roeddwn i yn troedio coridorau oedd yn hen gyfarwydd i fi - roeddwn yn cerdded o gwmpas un o adeiladau mwya cyfarwydd fy myd bach i o'r gorffennol, sef canolfan y 麻豆社 yn Nghaerdydd. Roeddwn wedi cael fy ngwahodd yn westai ar rhaglen Radio Cymru, Beti a'i Phobol.

Dychmygwch fy ymateb pan ofynnwyd i mi a fyddai gennyf ddiddordeb bod yn rhan o'r rhaglen? Roedd hyn fel cael fy ngwahodd i ymddangos ar y rhaglen 'This is your Life'! Sôn am deimlo yn freintiedig ac yn anrhydeddus!!! Wrth gwrs nid oeddwn yn mynd i ddweud "na", wedi'r cyfan y cwbwl oedd angen gwneud oedd un o'r pethau rydw i orau am wneud, siarad amdanaf i fy hun! Ta beth, pan gytunais fod yn rhan o'r rhaglen, nid oeddwn wedi dychmygu byddai hyn yn brofiad hynod deimladwy, a fel pob person teimladwy, dramatig, roedden wedi profi rhywbeth cathartig dros ben yn ystod y recordiad.



BeksMae'n wir i ddweud fy mod i wedi profi dipyn yn fy 31 mlynedd ar y ddaear yma - cymysgedd rhyfedda o'r da a'r drwg, fel pawb sbo. Dw i ddim yn dymuno pe na bawn i wedi profi'r drwg yn fwy na'r da a dwi wastad o'r farn bod y fath brofiadau yn eich gwneud yn berson cymaint cryfach a chyfoethocach eich byd. Serch hynny, roedd sôn am y rhan fwyaf ohono dros gyfnod o hanner awr yn eithaf sioc.

Beti yn gatharsis
Fy hanes fel nofwraig broffesiynol pan o'n i'n blentyn, fy anturiaethau gyda fy Nghorn Ffrengig, tripiau i Lundain pan o'n i yn fy arddegau i weld dramâu /actorion adnabyddus, mynd i'r brifysgol yn Llundain, ysgariad fy rhieni, fy ysgariad i, profiad beichiogrwydd a genedigaeth IVF, lladrad a ddiwedodd lan gyda fi yn yr ysbyty, fy hanes fel cyflwynydd, darganfod cariad newydd a hel fy mhac (a pac Ela) drwy symud i fyw yn Hong Kong at R. J. Mae sôn am gymaint o brofiadau yn sicr yn gwneud i chi gymryd cam yn ôl ac edrych yn wrthrychol ar eich bywyd.

Er i mi wir fwynhau y profiad, roeddwn yn teimlo yn hynod o emosiynol ar ôl y recoriad - fel petai pwysau mawr wedi codi o'm ysgwyddau. Mae lot o wirionedd mewn dywediad mae ffrind Americanaidd i mi yn Hong Kong yn ei ddefnyddio - falle roedd angen closure ar ran o fy mywyd ac yn ddiymwybod i mi, fe ddaeth hyn drwy Beti.




BeksCwrdd â hen ffrindiau
Un peth roedden wir eisiau wedi'r recordiad oedd diod - a dipyn ohono fe!!!! Roedden i wedi trefnu ers misoedd fy mod yn cwrdd i ddala lan gyda ffrindiau o Gymru mewn bar yng nghanol dre y noson honno. Bois, roedd hin' braf cael clebran..clebran f'flat owt' am bawb a phopeth a teimlo fel petawn dal yn byw yn eu plith a rhannu bywyd Caerdydd gyda nhw yn ddyddiol. Roedden i'n berson hapus yn trafeili nôl ar y trên i aros yn nhy fy chwaer yn Llundain y noson honno.

Treuliais y rhan fwyaf o fy ngwyliau ym Mhrydain yn Llundain. Roedd fy chwaer a'i phlant wedi hedfan lawr o Glasgow i dreulio rhai dyddiau yn nghwmni Ela Mai ac wrth gwrs roedd yn rhaid gwneud y pethau sy'n hanfodol i blant wneud yn Llundain - ymweld â Hamleys, Regent's Park, London Eye, a Zoo Llundain. Roedd Ela wrth ei bodd yn gweld defaid a gwartheg go iawn! Petai hi dal yn byw yng Nghymru, byddai rhain yn bethau y byddai'n cymryd yn ganiataol wrth gwrs. Dychmygwch eu hwyneb pan y gwelodd "Me Me" go iawn yn y cnawd.

Yn ogystal, fe wnaeth hi gymryd dipyn o ffansi i'r mochyn mawr budur oedd yn rolio'n braf yn ei dwlc drewllyd!!! Plant! Mae'n gwneud 'chenj' o weld gekos yn rhedeg ar draws nenfwd y ty sbo neu ddianc o'r cockroaches sy'n mynnu gwneud eu ffordd i fewn i'r gegin yn achlysurol!

Dw i wrth fy modd gyda Llundain. Wedi byw yna am gyfnod, mae gen i nifer o atgofion melys o'r ddinas ond rhaid cyfaddef roedden wir yn edrych ymlaen at ddiwedd fy ngwyliau gan fod RJ yn hedfan i fewn o Honkers ac roedd y ddau ohonom wedi trefnu mynd i aros gyda'n teuluoedd yn Sir Aberteifi - nefoedd. Llonyddwch y wlad, lle ddi-draffig, oglau porfa go iawn, bwyd o'r ardd, acenion Cymreig gwledig, swn yr afon a chael gorwedd ar ein hoff draeth yn y byd - Mwnt, ger Abertiefi.

Y cwestiwn mawr
Yn ddiarwybod i mi, roedd ein cyfnod yn y gorllewin yn mynd i fod yn un fwy arbennig na allwn erioed fod wedi dychmygu neu ddyfalu. Fe benderfynodd RJ ofyn cwestiwn pwysig iawn i mi wrth lan yr afon Teifi dros botel o champers un pnawn.. roedd hyn yn coroni gwyliau oedd wedi ysgogi i feddwl dipyn am fy mywyd a'r hyn roedden i eisiau. Dw i nawr yn holllol glir o'r dyfodol ac yn hapusach nag erioed. Does dim angen i chi ofyn beth oedd fy ateb i!




cysylltiadau


asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy