麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Dathlu dau ben-blwydd
Beks yn llawn emosiwn ym mharti'r flwyddyn yn Hong Kong

Rwyf wedi bod yn teimlo fel hen fenyw yn ddiweddar - wir i chi!

Dim ond zimmer frame oedd yn ishe a buaswn yn edrych yn union fel pensiynwraig!!!

Dwi di bod yn reit sâl a dweud y gwir gyda walking pneumonia neu mycoplasma pneumonia i ddefnyddio'r term cywir!

Mae pneumonia yn beth eithaf cyffredin yn Honkers.

Dydw i ddim cweit yn siŵr pam ond am wn i ei fod rywbeth i'w wneud â'r tywydd twym iawn ac adeiladau gydag air conditioning cryf ofnadwy.

Ta beth nid dyma oeddwn i ishe tra'n cario baban saith mis yn fy mol!
Diolch i'r drefn am wrthfiotics.

Deugain - ac un
Bu hefyd yn gyfnod o ddathlu pen-blwyddi unwaith yn rhagor - un pen-blwydd yn 40 a'r llall yn un!!! Beth bynnag, rwyf wedi dod i'r casgliad nad oes modd dathlu pen-blwydd yn HK ar chwarae bach -a doedd dim byd yn fwy OTT na pharti fy ffrind Krista yn 40.

Heb yn wybod iddi hi roedd ei gŵr, Mark wedi llogi catamaran am noson gyfan - cwch na allaf ond ei gymharu â rhywbeth allan o ffilm James Bond. gwr gwr Pum ystafell wely, cegin dwbl maint ein cegin ni, bar, systemau teledu, y gerddoriaeth ddiweddara.

Dim ond ei enwi ac yr oedd yna!

Diwrnod pen-blwyddDaeth tua 30 ohonom at ein gilydd yn harbwr Victoria ar noson boeth yn llawn cyffro a sbri - wedi'r cyfan nid parti arferol mo hwn!!

Doedd dim golwg o'r "cat" pan gyrhaeddom ni'r harbwr - ond pan ddaeth anghenfil mawr gwyn tuag atom doedd dim amau mai dyma oedd ein llong i ni!!

Wedi camu ar y llong a derbyn ein gwydrau o champers y cwbwl oedd raid wneud oedd aros yn amyneddgar i Krista a'i gŵr Mark gyrraedd.

Fel roedd hi'n digwydd, roeddwn i wedi bod allan gyda Krista y bore hwnnw pan soniodd hi nad oedd lot o gynlluniau ganddi ar gyfer y noson honno!!!

Ta beth, pan gyrhaeddodd yr harbwr gan feddwl ei bod yn mynd am bryd o fwyd lleol fe sylweddolodd yn gwmws beth oedd yn digwydd ac yr oedd hi fel petai mewn trance. ac aeth yn wyn fel y galchen.

Oedd, roedd y cyfan yn sioc enfawr iddi ond wedi ambell i wydred o swigod fe ddechreuodd ymlacio a ninnau erbyn hynny yn hwylio tuag at Ynys Lantau lle mae Disneyland.

Tân gwyllt
Roedd Mark wedi trefnu ein bod yn angori heb fod nepell o Disneyland er mwyn gweld y sioe dân gwyllt nosweithiol am wyth o'r gloch.

Gan imi fod yn Disneyland bedair gwaith roeddwn wedi hen arfer a'r sioe ond gallaf eich sicrhau ei bod yn parhau'n anghredadwy - dim ots beth eich oed!

Felly dyna lle'r oedden ni yng nghanol môr de China yn canu pen-blwydd hapus i ffirnd da yn 40!
Oedd, roedd rhywbeth yn afreal ond yn hudolus, yr un pryd, ynglŷn â'r holl beth.

Parti'r flwyddyn
Ond parti'r flwyddyn, heb os, oedd parti rhywun bach arall!!!
Oce, doeddem ni ddim yn dathlu ar gatamaran nac mewn gwesty moethus ond yn hytrach yn dathlu pen-blwydd Joni Teifi yn flwydd adref!

Dwi ddim yn credu i'r dyn bach sylweddoli beth yn y byd oedd yn mynd ymlaen. Roedd ei chwaer ar y llawr arall yn effro fel y gog y bore hwnnw yn barod am y parti.

Bu'r aros yn hir gan nad oeddem yn dechrau tan dri ond wedi i bawb gyrraedd roedd y lle fel ffair!!

Rodd tua pum baban yma, deg plentyn dan chwech a llwyth o rieni - tipyn o her mewn fflat credwch chi fi!!!



Chwaer fawr - brawd bach! Yn amlwg roedd rhaid cael cacen siap y rhif un gydag eisin glas arno a dillad newydd swanc ar gyfer y parti!!

Mae gweld eich plentyn yn cyrraedd ei flwydd ym gyfnod arbennig i fam ac o'm safbwynt i yn gyfnod reit emosiynol.

Pwy a ŵyr, falle mai'r hormonau yn ymwneud a'r beichiogrwydd presennol sy'n gwneud imi deimlo felly ond rhaid cyfaddef i ddeigryn ddod i'm llygaid wrth ddal y dyn bach i chwythu allan ei gannwyll gyntaf.

Anodd credu y byddaf yn trefnu tri pharti i'r "bychs" y flwyddyn nesaf!





asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy