麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Pryd o fwyd ymhlith ffrindiau Diflastod teisennau'r lloer
Beks wedi cael llond bol ar deisennau gŵyl yr hydref yn Hong Kong - ond yn taro ar fargen go arbennig ar y tir mawr

Mae rhai pethau y gallwch eu bwyta er nad ydych yn rhy hoff o'u blas!
Er enghraifft, dydw i ddim yn ffan mawr o gig coch ond yn aml pan fo rhywun wedi mynd allan o'i ffordd i goginio stêc mewn barbiciw fan hyn rwy'n gallu ei fwyta, gan amlaf.

Ond ni allaf ddweud yr un peth am mooncakes!!!!

Mae'n arferiad bwyta'r rhain yn HK a China yr adeg hon o'r flwyddyn gan ein bod yn dathlu'r ŵyl ganol hydref!

Mae'r hysbysebion mooncakes i'w gweld gyntaf ddiwedd Awst gan gyrraedd rhyw benllanw ddiwedd Medi a fy atgoffa o hysbysebion Dolig yng Nghymru a'r gystadleuaeth frwd rhwng y gwahanol gynhyrchwyr.

Blas wyau
Mae hyd yn oed Starbucks wedi creu mooncake blas coffi.

Y drwg yw, fod pob mooncake yn blasu o wyau sydd wedi gweld dyddiau gwell yn fy nhyb i.

Melynwy a phast lotws coch yw'r prif cynhwysion - oes angen dweud rhagor?

Er gwaetha'r mooncakes mae'r ŵyl hydrefol yn un o fy hoff wyliau gan ei bod yn adeg pan fo'r rhai bach yn gwneud lanteri a chystadlu mewn gwahanol orymdeithiau lanteri.

Rydyn yn mynd I'r traeth ar noson lleuad llawn gyda photel neu ddwy o win, bwyd deche a lanteri ac mae'n arferiad i bobl ifainc lleol aros ar y traeth drwy'r nos tan doriad gwawr.

Eleni, fe wnaeth Ela wir fwynhau'r dathliadau a fy helpu i addurno'r tŷ a'r to gyda lanteri bach papur.
"Mae fel Dolig!"
Dwi'n siŵr ei bod hi'n disgwyl i Sion Corn gyrraedd unrhyw ddiwrnod!!!

Prysur ar y radio
Yn ogystal â dathliadau'r ŵyl dwi hefyd wedi bod yn fishi gyda fy sioe radio.

Mae'n braf dechrau cael gwrandawyr cyson yn ffonio neu'n e-bostio i leisio barn am hyn neu'r llall ... gan gynnwys mooncakes!

Rwy'n teimlo'n eithaf cartrefol ar yr awyr yn Honkers er mae'n aml yn fy nharo fy mod i'n swnio'n od iawn ar adegau yn dweud "live across Hong Kong ... this is Beks on radio. 3!" Teimlad sydd braidd yn afreal!!

Mentro i brynu
Ta beth - mentrais ymhellach na Honkers yr wythnos hon!

Bum yn ysu am fynd i'r "tir mawr" ers tro a chan fod mam nawr yn y dre roedd hwn yn ymddangos fel yr amser delfrydol i fynd yno gan na fu mam erioed yn China.

Prynu dodrefnRoeddwn innau'n awyddus iawn iddi brofi pa mor wahanol yw Honkers a China.

Un rheswm dros ymweld â China oedd i brynu ambell i ddodrefnyn traddodiadol o China.

Rydw i wedi gwirioni â chelfi antique Chineaidd ac roedd gwir angen darn mawr fel dresel Gymreig arnaf i ddal y llwyth o anrhegion priodas sy'n dal i gyrraedd dros y môr.

Zhuhai yn Guandong, de China amdani felly!

Paradwys siopa
Dim ond taith awr a chwarter yw hi ar long hofran o Honkers i Zuhai, lle sy'n baradwys i siopwraig ddodrefn broffesiynol fel finnau a lle sy'n denu llwyth o bobol o Honkers gan fod popeth, gan gynnwys dodrefn, mor ddrud yma.

Roedd BB, fy ffrind o HK, wedi bod yn chwilio am ford fwyta ers wythnosau ond heb weld yr hyn yr oedd yn gwir ateb y diben.

Rwyf wedi gwneud eithaf ffrindiau gyda merch sy'n byw yn Zuhai a diolch i'r drefn roedd hi a'i chariad yn ddigon hapus i ddod yn gwmni gyda mi i'r gwahanol farchnadoedd gan gyfieithu ar fy rhan.
Byddai'r holl beth yn dipyn o her hebddi!

Mae Gimme yn gwybod hefyd lle mae'r caffis da pai dong's gorau ar gyfer sum da amser cinio pan fo'r traed yn dechrau blino.

Roedd hyn yn dipyn o brofiad i mam: golchi eich llestri a'ch chopsticks mewn te gwyrdd cyn dechrau bwyta!

Wedi llond bol o reis wedi ffrio, corgimychiaid, bean curd, bak choi a te gwyrdd mae'r traed a'r bol yn barod i siopa unwaith eto.

Yr union beth
Wedi crwydro ambell warws canfyddais yr union beth oeddwn ishe; hen gist 200 oed o ardal Shanxi.

Yr oedd hi yng nghefn siop hen bethau ac mae angen ychydig o waith trwsio arni ond dwi'n siŵr, ar ôl i Gimme a'i chariad roi laquer arni a gwneud y silffoedd yn sâff y bydd yn ddelfrydol er mwyn dal fy holl "lestri gorau."

Nid chostiodd ond $300 i'w hanfon ar y môr i HK (£20) a thua 48 igludo'r peth o un drws I'r llall.

Roedd yn ormod o demtasiwn ac yn ogystal â'r gist prynais anrheg ben-blwydd i Rod ond allai ddim sôn am hynny ar hyn o bryd!

Cefais stôl fach i Ela Mai, bocs teganau I faban bach sy'n dathlu ei ben-blwydd cyntaf ddydd Sul ac anrheg ddyweddïo i fy ffrindiau.

Bu BB yn llwyddiannus gyda'r bwrdd wedi gwaith cynllunio gofalus ac rwyf nawr yn dechrau cyfri'r doleri ar gyfer y trip nesa i dde China.






asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy