麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Geni, pen-blwydd a phriodas
Mae'n gyfnod o brysur ddathlu i Beks yn Hong Kong

Mae bywyd yn dechrau dod i drefn unwaith eto gyda'r dyn bach wedi troi cornel a chysgu drwy'r nos fwy nag unwaith.

Roedd amseriad y noson gyntaf o gwsg llawn yn berffaith a minnau'n cael noson ddi-dor ar noswyl fy mhen-blwydd.
Yr anrheg pen-blwydd gorau posib!

Dathlu'r dydd mewn steil
Yn hytrach na deffro gyda fy llygaid yn hanner agored a theimlo fel trychineb fe neidiais o'r gwely yn barod i dderbyn fy anrhegion a dathlu'r dydd mewn steil!

Mae'n arferiad yn ein tŷ ni bellach i roi cychwyn ar ddydd pen-blwydd gyda chacen siocled - ond nid un gyffredin!

Mae siop patisserie hyfryd yn HK o'r enw Cova lle maen nhw, yn fy marn i, yn creu y cacennau siocled gorau yn HK a minnau, erbyn hyn, yn troi fy nhrwyn ar unrhyw gacen siocled arall!

Dim ond un peth oedd amdani amser brecwast y bore hwnnw - gadael y fruit 'n fibre yn y bocs a throi at y calorïau hyfryd!

Wedi dechreuad melys i'r diwrnod edrychai pethau'n addawol iawn!!

Diolch am amah
Gŵyr pob mam fod gadael ei phlentyn yng ngofal rhywun arall am y tro cyntaf yn dipyn o brawf ar y nerfau.

Ond yn ein hachos ni mae'n eithaf hawdd gwneud hynny yn HK gan fod gan bawb amah, sef rhywun sy'n bwy gyda chi ac yn helpu gyda'r gwaith tŷ, gofal plant ac ati.

Does dim angen galw am neb i warchod plant gan fod yr amah ar gael i wneud y gwaith tŷ.

Mae ein amah ni, Margie, yn un o'r teulu erbyn hyn ac yn gwbl gyfarwydd ag Ela a Joni.

O'r herwydd, doedd mynd allan am y tro cyntaf fel cwpwl yn dilyn yr enedigaeth ddim cweit mor anodd diolch i'r drefen.

Ond eto, rhaid imi gyfaddef fod cerdded allan o'r tŷ yn fy glad rags a bwrw'i mewn i ganol y ddinas yn teimlo'n beth estron iawn.
Ond pleserus!

Yn ddirgelwch
Ar ôl G'nT cyflym gyda fy ffrind Jain yng ngwesty'r Mandarin fe es i gwrdd â Rod o'r gwaith.

Doedd dim clem gen i beth oedd da fe mewn golwg am y noson ond mae'n ddyn sydd wrth ei fodd gyda syrpreisus - yn enwedig i'w deulu - felly roedd y noson yn ddirgelwch o'r cychwyn!

Ein stop cyntaf oedd ar ochr Kowloon ac heb yn wybod i mi roedd Mr J wedi trefnu ein bod yn mynd i'r siop emau lle dewisais fy modrwy ddyweddïo a fy modrwy priodas.

Yn awr, bu bron imi â llewygu pan sylweddolais beth oedd da fe mewn golwg - eternity ring i ddathlu genedigaeth Joni, fy mhen-blwydd i a phen-blwydd ein priodas.
Nefoedd!

Yn fy marn i ni all menyw byth â chael gormod o ddiemwntiau!

Wedi dewis cerrig saffir pinc fe gerddais allan i noson ferwedig yn Honkers fel petawn i wedi ennill y loteri!

Os mai dyma'r drefn wedi genedigaeth pob plentyn rwy'n barod i fynd am dîm rygbi llawn!!

Y lle am Siampyrs
Yn naturiol, dyw'r un pen-blwydd yn gyflawn heb Siampyrs ac yn fy marn i dim ond un lle sydd yna yn HK i yfed Siampên mewn steil - gwesty'r Penninsula a bant a ni i'r bar a'r tŷ bwyta, Felix, ar lawr ucha'r gwesty.

Cynlluniwyd Felix gan Philip Stark ac fel y byddech yn disgwyl mae e'n fodern ac yn drawiadol.

Mae'r golygfeydd o skyline yr ynys yn anghredadwy gyda thwristiaid o bob rhan o'r byd yn ymweld â'r lle dim ond er mwyn cael dweud iddyn nhw fwynhau coctel yn un o fariau mwyaf cŵl y byd!!

Fel y byddech yn disgwyl, roedd y bwyd yn anhygoel o flasus ac mae blas y garlleg ar y King Prawns a gefais yn dal yn fy ngheg!

Ydy, mae mis Gorffennaf yn fis llawn dathliadau i'n teulu ni - ond mae gen i deimlad y bydd dathliad ein priodas ychydig yn dawelach yn dilyn fy mharti pen-blwyddi gorau erioed.

Yr anrheg orau, wrth gwrs, oedd yr un ddaeth chwe wythnos yn ôl ... y diemwnt disgleiriaf oll, Joni Teifi James sydd, rwy'n falch o ddweud, yn fachgen bach da iawn pa fydd Mam a Dad allan yn dathlu!




asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy