麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Dathlu'r pump - Mam ac Ela Dathlu'r pump
Beks yn gweld ei babi bach yn troi'n ferch ifanc . . .

Bu cynnwrf mawr yn ein tŷ ni ers rhai wythnosau a chwestiynau diri!!!!
Pryd mae e'n digwydd?
Sawl noson o gwsg sydd raid i mi aros?
Faint o blant fydd yna?
Pa fath o gacen fyddai'n i chael?

Ydy, mae dathlu pen-blwydd yn bump oed yn achlysur pwysig iawn ac Ela Mai wedi ecseitio'n bost cyn ei phen-blwydd hi eleni!!

Mae'n syndod sut mae pob parti yn mynd yn fwy costus o flwyddyn I flwyddyn a'r plant yn gwybod yn union beth a phwy ddylai fod yn rhan o'u dathliadau pwysig.

Erbyn i bambino numero 3 gyrraedd bydd angen benthyciad blynyddol o'r banc dim ond er mwyn talu am ben-blwyddi y tri - yn sicr yn Hong Kong, ta beth!!

Ar y to
Yn y gorffennol, ar y to yr ydym wedi cael parti pen-blwydd Ela Mai. Fel sawl un yn Honkers ar y to y mae ein 'gardd' ni gyda hen ddigon o le i'r plant redeg o gwmpas a chwarae ar y llithren, padlo mewn pwll, beicio ac ati.

Ac mae tipyn o ddodrefn yno gan gynnwys bar fel y gellir eistedd yno a mwynhau golygfeydd môr de China.

Perffaith ar gyfer unrhyw riant sydd am ymlacio gyda gwydred enfawr o vino a chael hoe fach tra bo'r plant yn hapus yn chwarae!

Yr unig broblem gyda threfnu parti ar y to yw eich bod ar drugaredd y tywydd.

Gall mis Mai fod yn boeth ofnadwy a chan fod y to mor agored mae hi wastad yn gur pen becso bod y rhai bach yn cael gormod o haul a llosgi dim ots faint o barasôls sydd gennych.

Newid y drefn
Eleni, roedden ishe gwneud bywyd yn haws a dewis rhywle dan do gyda digon o le i rhyw 25 o blant redeg o gwmpas a llosgi miloedd o galorïau!!!

Ar adegau fel hyn mae rhywun yn ffodus o fod yn aelodau o glwb ecsgliwisif The Hong Kong Football Club yn Happy Valley.

Clwb delfrydol ar gyfer chwaraeon a chanddo adnoddau gwych a chyda sawl tŷ bwyta a stafelloedd cyfarfod yno.

Hawdd felly!!!!! Parti yn un o'r stafelloedd oedd y cynllun gan gynnwys yr un peth y mae POB plentyn wrth ei fodd ag ef - castell gwynt yng nghornel y 'stafell!!!!

Y clwb fyddai'n gyfrifol am drefnu'r bwyd a'r gacen a'r unig beth oedd raid i ni ei wneud oedd troi lan a mwynhau'r diwrnod!!!

Pam na feddyliais am hyn o'r blaen????!!!!!
Sôn am "stres" yn diflannu!!!

Felly, roedd popeth yn barod i Ela a'r disgwyl yn hir.

Yn naturiol, ar fore'r diwrnod mawr roedd y fenyw fach yn barod am chwech y bore felly diolch byth am sianel Playhouse Disney ar y teledu am awr ychwanegol o gwsg i Mam!!!!

Dewis cacen a gêm!
Fel arfer, gwyddai Ela'n union sut gacen fyddai'n rhaid ei chael a hithau wedi gwirioni ar y foment gydag ebolion Pegasus ... ebolion gydag adenydd sy'n medru hedfan!!

Mae wedi colli diddordeb yn llwyr yn ei doliau Barbie a phethau creu - celf a chrefft - ac anifeiliad, boed nhw'n rhai iawn neu'n rhai hud a lledrith, sy'n mynd a'i bryd!!

Dwi ddim yn meddwl i'r clwb pêl-droed gael archeb am gacen Pegasus o'r blaen ond chwarae teg fe wnaethon nhw joban hyfryd ac Ela Mai wrth ei bodd!!!!

Diolch i'r drefn, mae plant pump oed yn dal i fwynhau'r gemau traddodiadol roeddwn innau'n eu mwynhau pan yn blentyn; pasio'r parsel, musical statues ac yn y blaen - ond dwi wedi dod i'r casgliad bod un gêm maen nhw'n ei mwynhau yn fwy nag unrhyw un arall - y piniata!!!!

Eleni, dewisodd Ela piniata siâp ceffyl gan ei lenwi â phob math o losin a siocledi - rhywbeth y mae Ela Mai wrth ei bodd yn ei gwneud, tra'n bwyta hanner y losin yr un pryd!!!

Y bwraid wedyn yw i'r plant aros eu tro mewn rhes i fwrw'r piniata sy'n hongian o'r to gyda bat baseball.

Yn y diwedd mae'r piniata yn torri a'r plant yn rhedeg i gasglu cymaint o losin a phosib.

Mae wastad yn fy synnu i faint o gynnwrf mae hwn yn ei greu a rhaid wrth lygaid barcud ar adegau i sicrhau nad yw'r rhai bach yn cael niwed.

Mae ychydig fel gweld pobol yn ymladd dros yr un dilledyn yn sêl Harrods!!!

Dyddiad pwysig
Ta beth, bu'r parti yn llwyddiant mawr a'r dywysoges fach wrth ei bodd fel arfer.

Dwi'n credu i Joni Teifi gael andros o sioc gyda'r holl sŵn a rhuthro ac yr oedd y ddau ohonynt yn barod am eu gwlâu erbyn saith a doeddem ninnau fawr ar eu holau!!!

Mae gweld eich babi cyntaf yn troi'r pump yn foment fawr. Nid babi mo Ela bellach ond merch fach hyderus, hapus, llawn bywyd ...do fe gollais fy maban dipyn yn ôl sbo!





asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy