麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Beks ac Ela Drama mewn parti
Gyda'r babi ar fin cyrraedd yr oedd Beks yng nghanol drama mewn parti pen-blwydd yn Hong Kong

Mae gan fabanod eu agenda eu hunain!
Roedd Ela Mai yn benderfynol o gyrraedd y byd yn gynnar gan ddod bum wythnos yn fuan.

Roedd hynny'n nodweddiadol iawn o'i harwydd hi - Taurus.

Mae'r baban yma, ar y llaw arall, yn gwbwl gyfforddus ym mol mam a dim bwriad ganddo/i gwrdd a phawb sy'n aros mor eiddgar.

"Mam? Dad? Chwaer Fawr? Ffrindiau bach? Beth yw'r rhain o gymharu â'r hwyl dwi'n gael yn fan hyn?"

Deugain wythnos
Wrth sgwennu hwn rwyf bron iawn a chyrraedd deugain wythnos lawn a dim arwydd o gwbwl fod y babi am ddod!

Tybed a fyddaf yn feichiog am weddill fy oes? Rwy'n erfyn am beidio â bod credwch chi fi!

Mae'r profiad o fod mor feichiog a hyn a byw mewn gwlad fel HK o gymharu â Chymru yn gwbwl wahanol - ac un peth sylfaenol sy'n achosi hyn, y gwres!

Bu'r tymheredd yn y tridegau a'r humidity yn uchel iawn ers dyddiau.

Fel petai hynny ddim digon, does dim lifft da ni i'r fflat fel y rhan fwyaf o'r adeiladau Stanley - mae'n adeilad low rise gyda'r hyn maen nhw'n alw yn walk up neu, yn fy achos i, crawl up!

Rwy'n hel meddyliau am gael un o'r cadeiriau yna sy'n eich cario i ben y grisiau!!

Beth ddigwyddodd i'r freuddwyd am y wedges Gucci diweddaraf? Daw honno'n ôl mewn rhyw wythnos gobeithio?

Dau ddewis
Dim ond dau ddewis sydd yna i geisio cadw'n weddol cŵl mewn gwres o'r fath; cuddio mewn adeilad gydag oerydd - air conditioning - da neu ymdrochi mewn pwll nofio am oriau - yr unig gyfle gewch chi i anghofio'r holl bwysau ychwanegol!

Rwyf i'n tueddu i fynd am yr ail ddewis gan fod hynny, o leiaf, yn rhoi cyfle ichi weithio ar y lliw haul a chadw'n heini ar yr un pryd!

O ganlyniad, bu clwb pêl-droed HK yn ail gartref imi'n ddiweddar ac rwy'n adnabod y fwydlen tu chwith allan erbyn hyn.

Gair o gyngor os ymwelwch chi byth â'r lle - ewch am y salad Groegaidd!!!

Parti pen-blwydd
Er yr holl ymlacio ac ymdrochi yn y dŵr bu ambell i ddrama dros yr wythnosau diwethaf ... gallwch ddibynnu arnaf i am hynny er nad oedd hi'n fwriad gen i o gwbl roi bachgen bach pedair oed yn y cysgod yn ei barti pen-blwydd ei hunan!

Cafodd Ela wahoddiad i'r parti oedd yn cychwyn am hanner awr wedi naw un bore Sul mewn parc ar draeth cyfagos Chum Hum Kok.

Roedd yn amlwg o doriad gwawr y byddai hwn yn ddiwrnod ofnadwy o boeth ac fel y digwyddodd trodd yn un o ddiwrnodau poethaf y flwyddyn hyd yn hyn.

Ta beth, mae tua 300 o risiau yn arwain lawr at y parc ac wedi cyrraedd yno'n ddiogel teimlwn yn go lew a'r plant yn rhedeg i bobman.

Penysgafn
Ond wedi rhyw hanner awr o sgwrsio gyda ffrindiau yn eistedd ar wal isel dechreuais deimlo'n sâl iawn ac yn benysgafn a methu a chael fy ngeiriau allan!!!

O fewn eiliadau, roeddwn fel sach o dato ar y llawr!!!
Sôn am ddrama!

Yn naturiol, roedd pawb yn meddwl fod y baban ar ei ffordd a bu galwadau ffrantig am Rod.

Druan ohono, neidiodd i'r car ac o fewn munudau yr oedd ar y traeth lle'r oeddwn i'n eistedd ar y llawr gyda thywelion yn llawn rhew dros fy nghefen a thros fy mhen gan deimlo'n gwbl erchyll ac yn edrych fel wn i ddim be!

Treuliais weddill y diwrnod yn ein stafell wely dywyll gyda'r AC!!!

Diolch i'r drefn, fu yna ddim anturiaethau tebyg ers hynny!

Felly, o fewn diwrnodau, y gobaith yw byddaf yn fam unwaith eto!

Ni allaf ond byw mewn gobaith????!!!!!






asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy