麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Bali - blas ar baradwys
Beks yn sgrifennu am ei hymweliad ag ynys wirioneddol hudolus

Dydw i ddim yn earth mother o bell ffordd.
Ydw, dwi'n caru fy mhlant yn fwy nag unrhyw beth yn y byd ond dwi ddim yn ffan anferthol o fod yn feichiog!
Yn enwedig nawr bod y tywydd yn y tri degau uchel yn HQ.

Gall hyn fod yn ychydig o laddfa ar adegau ond ta waeth am hynny, dwi'n dod i'r casgliad y gall cael 'tan' ac edrych fel cneuen tra'n feichiog fod o help anarferol!

Diolch i'r drefn, cefais gyfle i roi cychwyn i'r 'tan' tra ar wyliau yn Bali dechrau Ebrill.

Er imi fyw yn Asia ers rhai blynyddoedd bellach ac ymweld â Thailand, y Philippines, China ac yn y blaen sawl gwaith roedd Bali yn lle newydd imi ac roeddwn wedi cynhyrfu'n bost cyn neidio ar yr awyren o HK am y pedair awr o daith.

Er i Bali fod yn lle hynod o boblogaidd tu ymhlith trigolion HK bu llawer yn cadw draw oherwydd y bomiau diweddar.

Yn wir, lladdwyd yno nifer o aelodau Clwb Pêl-droed HK yr oedd Rod yn adnabod rhai ohonynt gan ein bod yn aelodau o'r clwb.

Mae pobol yn dal i sôn am y penwythnos erchyll hwnnw yn 2002 ac fel y byddech chi'n tybio gall sôn am Bali gyffwrdd teimladau.

Serch hynny, mae'n dal yn ynys sy'n hudo pobol gyda rhai o Brydain, Ewrop ac Awstralia yn heidio yno bob blwyddyn.

Gan fod triniaethau 'spa' o safon mor uchel mewn gwestai yn y rhan hon o'r byd nid oedd ond yn naturiol ein bod yn trefnu i aros mewn gwesty Spa safonol - yn enwedig a minnau'n bwriadu sbwylio fy hun yn llwyr a chael massage neu driniaeth debyg bron iawn bob dydd.
Wedi'r cyfan, rhaid cadw'r bwmp chwe mis yn hapus!!!

Fel popeth arall, mae triniaethau spa yn ofnadwy o ddrud yn Honkers ond dim ond hanner y pris mewn lleoedd fel Bali a Thailand!

Golff ar y meddwl
Roedd cynlluniau gwahanol iawn gan fy ngŵr - yn ymwneud â phêl fach wen, gron!

Yn Bali y mae un o gyrsiau golff gorau Indonesia ac yr oedd Mr James yn awyddus iawn i roi ei ffyn golff newydd ar waith yno.

Roedd ein gwesty dipyn o ffordd o Kuta a'i siopau, tai bwyta a chlybiau bishi a hefyd yn siwrne go dda o Nusa Dua lle mae llu o westai poblogaidd.

Yn wahanol i'r gwestai eraill roedd y Nirwana Golf Resort and Spa yng nghanol y caeau padi a'r terasau reis yn y mynyddoedd ac mewn ardal werdd iawn.
Y ddihangfa berffaith o brysurdeb HK!!!

Tawel ac addfwyn
Un o'r pethau cyntaf sy'n eich taro chi am Bali yw'r ffaith fod y bobol leol yn heddychlon iawn ac o natur addfwyn a thawel.

Mae'r iaith Falinaeg yn un eithaf hudolus i'r glust ac yn gwbwl wahanol i'r Gantonaeg galetach ei sain yr ydym ni'n ei chlywed o'n cwmpas.

Mae pobl Bali yn bobl hynod o grefyddol a themlau bendigedig ym mhobman ac yr oedd ein gwesty y drws nesa i un o'r rhai mwyaf cysegredig ar yr ynys - Tana Lot.



Deuai'r ymwelwyr o bob man i weld yr haul yn machlud dros y deml hon - golygfa heb ei hail.

Bu'r cyfuniad o orffwys, triniaethau spa, bwyd Indonesaidd ac awyr iach yn berffaith a dychwelais i HK mor egniol yr oeddwn yn barod i ddringo Everest!

A da beth, hynny, gan fod gennyf jobin bwysig iawn i'w wneud - trefnu pen-blwydd Ela Mai yn bump!!!
Ond ble i ddechrau???!!! O na fyddwn yn earth mother!!!
Ond o leiaf rwyf nawr fam frown!!





asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy