麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cyfarfod Kanga - Beks ac Ela Ymweld ag Awstralia
Bu Beks, Rod ac Ela ar ymweliad ag Awstralia - gwlad anifeiliaid gwyllt a gwinoedd cyffrous

G'day bawb!
Rydw i newydd ddychwelyd o wyliau bendigedig yng Ngorllewin Awstralia.

Ac mae'r bol wedi tyfu wrth i lwyth o fwyd da a gorffwys gael effaith gadarnhaol arnaf.

Cafodd y lliw haul top up teidi.

Ydi, mae bywyd yn mynd yn ei flaen yn ddiffwdan yn HK!

Roeddwn wedi bod yn Sydney a Darwin o'r blaen - dinasoedd gwahanol iawn i'w gilydd. Ond ni fum i erioed yn Perth, yn y gorllewin.

Gan fod gen i sawl ffrind o Perth fan hyn yn Honkers roeddwn yn hen gyfarwydd â hiwmor "sych" yr Awstraliaid gorllewinol!

Mae Perth yn lle hawdd i'w gyrraedd o HK. Does dim gwahaniaeth amser ac nid yw ond saith awr o daith mewn awyren.
Perffaith.

Pan adawon ni i hedfan dros nos o HK doedd y tymheredd ond tua deg gradd C ond o gyrraedd Perth am saith y bore roedd yn 28 gradd.

Gweld eisiau sbectol!
Gair o gyngor os bwriadwch ymweld â Perth - cofiwch am eich sbectol haul er mwyn ei gwisgo'n syth ar ôl glanio gan fod yr haul yn llachar iawn!

Torri syched yn y gwres Roeddem ni yn aros mewn gwesty yn ardal Scarborough; tref fach dawel ar un o draethau gorau Awstralia gyda'r teimlad o fod ar set Home and Away a'r dudes lleol i gyd yn bwrw am y traeth beth cyntaf yn y bore er mwyn syrffio neu kite surfing.

Yr oeddem ni'n aros yn ddigon pell o'r môr gan adael i'r arbenigwyr lleol wneud "eu peth!"

Ta beth, roedd dŵr o fath arall yn mynnu ein sylw ni - ym mhwll nofio'r gwesty.

Mae Ela Mai fel môrforwyn erbyn hyn ac mae hi bron a bod yn amhosib ei chadw o unrhyw bwll nofio!!!!

Os ydw i wedi dweud Dim ond pum munud arall unwaith rydw i wedi'i ddweud e gant o weithiau!

Ond yr oedd hi'n hyfryd ei gweld yn neidio i mewn ac allan o'r pwll drwy'r dydd gyda chymaint o hyder a hithau ond yn dair.

Anifeiliaid gwylltion
Roedd dau reswm arall dros ddewis gwyliau yn Awstralia yn hytrach nag Asia - anifeiliaid a gwin!!!

Mae parciau bywyd gwyllt anhygoel o gwmpas Perth a phan glywodd Ela ei bod yn mynd i weld kangas a koalas go iawn roedd hi wedi cynhyrfu'n bost.

Yr unig fywyd gwyllt a wêl adref, druan, ydy gecos yn rhedeg ar draws to'r gegin ac ambell neidr pan ydym ni allan yn cerdded yn ein parc gwledig lleol!

Prin wedi gweld ceffyl, oen neu afr mae hi; felly roedd Cavendish Wildlife Park yn berffaith!

Yn ogystal â pet farm gyda moch bach, ieir, geifr ac ati roedd cyfle i weld - a chyffwrdd - anifeiliaid sy'n unigryw i Awstralia fel y wombat, walabi, koala a'r kanga!

Roeddem yn awyddus iddi gael marchogaeth camel hefyd ond pan welodd hi un doedd dim gobaith caneri gennym i'w pherswadio a chan fy mod innau wedi cyrraedd y chwe mis gyda'r beichiogrwydd allwn innau ddim mentro chwaith.

Dim ond un peth oedd amdani, tynnu'r camera allan tra bu Rod yn cael ei gludo o gwmpas y parc!

Dwi ddim yn siŵr pwy oedd mewn sioc fwyaf ar ddiwedd y reid - Rod ynteu'r camel!!!



Cawsom dipyn jobin gadael y parc gan i Ela wirioni gyda gafr fach ac yn awyddus iawn inni ofyn i'r perchennog am gael mynd a hi yn ôl I HK gyda ni.

Mmmm ... gafr ... fflat yn HK ... rhywbeth ddim cweit yn taro deuddeg rhywle!

Blas ar win
Ac wedi'r anifeiliaid gwyllt at rywbeth llawer iawn mwy synhwyrol ... gwin!

Mae gorllewin Oz yn adnabyddus dros ben am ei win da gydag ardal Margaret River yn lle poblogaidd iawn i ymweld ag ef i flasu, mwynhau a phrynu.

Gan fod gwin yn andros o ddrud yn HK o gymharu â Chymru - amhosib cael rhywbeth teidi am lai na thua 200 doler, rhyw £14 punt - mae'n demtasiwn i fynd amdani pan ydych yng nghanol paradwys o winoedd fel hyn.

Ond doeddem ni ddim am drafaelu am bedair awr i Margaret River y tro hwn gan fod ardal arall ond hanner awr o Perth - y Swan Valley.

Beks a Rod - Prynu gwinMae Rod a minnau yn hoff iawn o win y Peel Estate a phan glywsom fod y winllan yn go agos i'r gwesty dim ond un peth oedd amdani - bwrw draw am bnawn o flasu yn y selar, mwynhau picnic yng nglesni'r ystad a phrynu llwyth o win i'w gludogartref i HK.

Mae rhywbeth arbennig iawn mewn yfed gwin o ardal neu ystad yr ydych wedi ymweld â hi er na allaf i wneud llawer o hynny ar hyn o bryd!

Ta beth, rydym wedi nelltuo potel o goch yn arbennig ar gyfer dydd gŵyl Dewi gan edrych ymlaen yn fawr at y dathliadau




asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy