麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Mam ac Ela Y beichiog yn gawr!
Beks yn sgrifennu am feichiogrwydd ac addysg plant yn Hong Kong

Dwi hanner ffordd drwyddi!
Ydy, mae'r un bach sy'n defnyddio fy mol fel cylch bocsio nawr yn ugain wythnos oed!

Mae'n deimlad braf cael gwybod eich bod hanner ffordd drwy feichiogrwydd a brafiach fyth yw cael cadarnhad o hynny ar sgan.

Fel y soniais o'r blaen mae'r sgans yn HK bron iawn fel cynyrchiadau Hollywood a'r cyfan yn cael eu recordio ar VCD ichi fynd ag ef adref i'w wylio drosodd a throsodd.

Y tro hwn, roedd y babi yn fwy awyddus i wneud yoga nac i focsio ac o ganlyniad eisteddai a'i ben yn wynebu at i fyny tuag at fy mhen i a'i goesau wedi'u croesi fel pe byddai yn y lotus position.

Doniol iawn!

A minnau wedi mwynhau yoga a pilates yn ystod y beichiogrwydd allai ddim peidio â meddwl tybed a yw'n bosib fod y babi wedi bod yn pigo lan ar hynny!

Fel cawres
Mae un peth yn wahanol iawn am fod yn feichiog yn Hk o gymharu a bod yn feichiog ym Mhrydain - fan hyn, rydych yn teimlo fel cawres mawr tew!!!

Pan gefais fy mhwyso darganfyddais imi roi 8kg dros yr wythnosau diwethaf a doedd yna ddim golwg rhy hapus ar y nyrs oedd yn fy mhwyso a theimlwn fel plentyn ysgol feithrin wedi cael ei ddal yn dwyn y losin i gyd.

Mae'n arferiad i fenywod Asiaidd ennill ond rhyw 10 neu 12kg yn ystod y beichiogrwydd cyfan!!!

O ganlyniad, mae'n anodd i mi ddod o hyd i ddillad beichiogrwydd teidi ac o'r herwydd mae'r ex-pats yn tueddu i'w hanfon o un i'r llall.

Diolch i'r drefn am fy ffrind Americanaidd, Crista, a'r holl ddillad a fenthyciais ganddi.

Nid y baban yn fy stumog yw'r unig un i fod yn mynnu sylw gen i yn ddiweddar!

Cefais gyfle i fynd i ysgol Ela i'w gweld wrth ei gwaith mewn sesiwn wylio - a dyna beth oedd agoriad llygaid.

Yn yr ysgol
Mae addysg Montesori yn wahanol iawn i addysg arferol a rhaid cyfaddef rydw i o blaid y math yma o ddysgu 100%

Mae tua 25 o blant yn nosbarth Ela a'u hoedran rhwng dwy a hanner a phump a hanner.

Hapus yn yr ysgolY dull yw eu hannog i weithio'n annibynnol a mae'n beth anarferol iawn i bob plentyn fod yn gwneud yr un peth a'i gilydd megis cyfrif neu ysgrifennu.

Mae pwyslais mawr ar pethau bob dydd, ymarferol, a sgiliau y gellir eu harfer yn y cartref.

Pethau fel arllwys, tacluso, gwnio ac ati.

Handi iawn i mam gael person bach yn rhedeg o'i chwmpas yn helpu adref!!!

Eisteddai pob un o'r plant ar fatiau unigol yn gweithio ar bethau gwahanol - Ela wrth eu bodd yn gwnio gyda phum munud yn mynd cyn iddi sylwi fod mam yn y dosbarth!

Mae'n syndod cyn lleied o sŵn sydd mewn dosbarth Montessori gyda cherddoriaeth glasurol yn y cefndir y peth mwya swnllyd a minnau'n awr yn gwybod pam fod Ela yn achwyn fod mam yn "rhy swnllyd!"

Mae'n anhygoel sut y gall plant o oed gwahanol ddysgu oddi wrth ei gilydd a gwelais sawl 'un mawr' yn rhoi help llaw i rai bach a'r rhai lleiaf un yn efelychu'r rhai hŷn.
Trefniant perffaith!

Wedi'r tsunami
Mae'r tsunami erchyll yn Asia dal ar feddwl pawb yn HK fel gweddill y byd.

Pan gymerais ran mewn darllediad allanol o ganol y dref rhwng wyth y bore a chwech y nos yr wythnos ddiwethaf daeth llu o selebs lleol i gymryd rhan.

Diwrnod llwyddiannus iawn ac mae'n syndod sut mae'r holl beth wedi peri i bobol wneud pethau positif a meddwl mewn ffordd gadarnhaol.

Rwy'n adnabod nifer o bobol a aeth i Wlad Thai dros yr wythnosau diwethaf i helpu gyda'r gwaith clirio a phe na byddwn yn feichiog dwi'n credu y byddwn innau wedi fy nhemtio i fynd hefyd yn enwedig gan fod y cyfan yn teimlo fel byddai ar ein stepen ein drws.

Mae'n fy mod i yn gwerthfawrogi yr hyn sydd gen i yn fy mywyd hyd yn oed yn fwy nag o'r blaen.

Mae bywyd mor fyr mae'n rhaid gwerthfawrogi pob eiliad ohono.





asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy