麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Mwgwd i bawb Pryderon salwch SARS
Beks Walters yn sgrifennu o Hong Kong lle mae salwch difrifol wedi troi byw bob dydd yn hunllef

Rwy'n teimlo mod i mewn ffilm afreal - yn gymeriad mewn ffilm arswyd!

Mae bywyd wedi newid dipyn dros y dyddiau diwethaf i'r rhai hynny ohonom sy'n byw yn Hong Kong gan ein bod ni fwy neu lai yn gaeth i'n cartrefi oherwydd y salwch SARS - Severe Acute Respiratory Syndrome.

Gyda dyfodiad y salwch diflannodd sbonc, egni, brwydfrydedd ac hapusrwydd y bobol ac rwyf innau yn hiraethu am yr hen Honkers.

Paratoi i weini byrddau mewn ty bwyta yn Hong KongNosweithiau cynnar a mwgwd!
Ond cyn mynd ymlaen i sôn am SARS a'i effeithiau gwell son am un o benwythnosau mwyaf y flwyddyn yng nghalendr HK penwythnos y Sevens a gynhaliwyd er gwaetha'r salwch.

Roeddem ni rhwng dau feddwl mynd neu beidio gan fod y Mini Seven's wedi'u canslo ar ôl i dri thîm dynnu'n ôl a'r rhai hynny a fentrodd yma yn gaeth i'w gwestai y gyda'r nosau.

Na, doedd dim nosweithiau mawr yn Lan Kwai Fong iddyn nhw dim ond nosweithiau cynnar gyda'u masgiau yn gwmni iddynt!

Er gwaethaf hyn, a'r ffaith fod y stiwardiaid yn rhannu mygydau i wylwyr yr achlysur, bu'n garnifal o benwythnos credwch neu beidio gyda'r South Stand sef stand y bobol wallgof hynny sy'n tywallt siwgeidiau o Heineken lawr eu llwnc! - dan ei sang fel afrer.

Yn wir, yr oedd 30,000 yno ar y dydd Sul yn gwylio Lloegr yn curo Seland Newydd am yr eildro'n olynnol.

Gwell peidio â son am berfformiad Cymru ond o ystyried ein bod mewn grwp hynod o hawdd yn cynnwys Ynysyoedd Cook, yr Iseldiroedd a Samoa roedd hi'n gawl potsh arnynt fel y SARS!!!

Caeth i'n cartrefi
Bellach mae pob ysgol, coleg a meithrinfa yn HK wedi cau tan ar ôl y Pasg gydag 18 o frarwolaethau ar yr ynys.

Rydym ni gystal a bod yn gaeth i'n cartrefi a'r dyddiau o dreulio oriau yn y parc, yn y sw, Ocean Park, canolfannau siopa, bariau a thai bwyta drosodd.

Awyr iach y môr
Diolch i'r drefn fod awyr iach glan môr Stanley ar ein rhiniog ni gan mai'r cwbwl allwn ni ei wneud ar hyn o bryd ydi cerdded o'r ty i'r traeth neu chwarae ar y to.

Rydym wedi rhoi'r gorau i deithio mewn bws neu dacsi a phrin ein bod yn mynd i le'n byd lle ma llawer o bobol.

Dwi heb fod yng nghanol y dre ers dros wythnos ac ni fyddwn yn breuddwydio ar hyn o bryd fynd ag Els i Park N Shop ein harchfarchnad.

Ydw rwyf i'n dal i fynd wrth gwrs ond wastod yn edrych fel rial lemwn yn fy mwgwd!



Mae yna ffasiwn mewn mygydau hyd yn oedYn anffodus aeth nifer fawr o blant bach ex-pat yn ôl i'r Unol Daleithiau, Awstralia a Phrydain yn gynnar am y Pasg.

Rwyf innau'n ystyried hedfan yn ôl y penwythnos yma ond yn pryderu ar yr un pryd bod ar awyren am 13 awr.

Mae'n gryn benbleth.

Pêl-droed yn gysur
Cysur bychan, fodd bynnag, y dyddiau poenus hyn yw fod tîm pêl-droed Cymru yn dal i ennill.

Perfformiad y bois ydy'r unig beth sydd wedi rhoi gwên ar fy wyneb yr wythnos bryderus hon.

Daliwch ati bois!




asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy