麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Ymweld â Chymru
Beks yn sgrifennu o Hong Kong am ymweliad cofiadwy â Chymru

Ionawr 2007

Sôn am wyliau!!!
Cymerodd tan nawr - ddiwedd Ionawr - imi ddod dros ein taith i Gymru am y Nadolig a'r flwyddyn newydd!!!

Dyna beth oedd taith a hanner - hedfan hanner ffordd ar draws y byd gyda thri phlentyn a llwyth o anrhegion - heb sôn am y cesys llawn o ddillad trwm y gaeaf!!

Gan na chafodd Joni a Harri erioed dywydd oer roeddynt wedi'u lapio fel dynion eira o'r eiliad gyntaf yn Heathrow.

Ydy, mae -4 yn eich taro'n galed pan ydych yn gyfarwydd â thymheredd o tua 20 gradd Celsius yn Rhagfyr.

Yn ogystal â hynny roedd 'niwl rhew' ofnadwy yn Heathrow a nifer o bobol yn cael eu troi i ffwrdd y bore gwnaethom ni lanio.

Roedd y lle fel ffair am bump y bore y penwythnos cyn y Nadolig!!!

Y gorau
Er y gwaith llwytho a phlant yn dioddef o flinder jetio bu'n wyliau a hanner ac yn un o'r profiadau gorau o fod adref ers imi symud i Asia.

Roeddem yn aros mewn gwesty yng Nghaerdydd dros y Nadolig ac wedi cynhyrfu'n lân gan ysu am weld y Bae, siopa yn Queen Street, clywed acenion y ddinas lle treuliais fy mhlentyndod cynnar, cael clonc gyda ffrind dros goffi neu win twym!!!"

Pethau a gymerir yn ganiataol pan yn bwy yma ond yn bethau yr ydych yn hiraethu amdanynt pan yn byw mewn gwlad arall.

Ni fûm yng Nghymru gydag Ela ers bron i ddwy flynedd ac roedd hi'n grêt medru dangos iddi ei chartref yn ystod 16 mis cyntaf ei hoes!!!

Rhamantus
Roedd rhywbeth rhamantus iawn am y tywydd oer a'r niwl a phrin oeddem ni'n medru gweld y gwesty pan gyrhaeddom a bu'n rhaid aros tridiau cyn gweld Canolfan y Mileniwm am y tro cyntaf!
Ond roedd hi'n werth aros ... sôn am adeilad!!!

Ni chafodd y plant eu siomi ar fore'r Dolig ac ar ben y cyfan roedd y pleser o fod ymhlith ffrindiau a theulu yn cloncan tan oriau mân y bore yn hytrach na dim ond clywed llais ar y ffôn neu dderbyn e-bost!!!

Yr hyn sydd wastad yn fy nharo wrth ddala lan â hen ffrindiau yw'r ffaith nad yw'r berthynas byth yn newid.

Tua'r Gorllewin
Wedi wythnos fishi yn y Brifddinas dyma deithio i Orllewin Cymru a threulio wythnos mewn bwthyn yn Nhrefdraeth, Sir Benfro.

Er bod y tywydd yn ddiflas tu hwnt - glaw, gwynt a mwy o law - cawsom amser bendigedig yn ymweld â llefydd roeddem eisiau eu gweld ers blynyddoedd gan gynnwys oriel John Knapp Fisher.

Rwy'n ffan mawr o'i waith ers blynyddoedd a roedd hi'n bleser cael cwrdd ag e a'i wraig dros y flwyddyn newydd.

Gyda chymaint o ddarnau celf trawiadol ar werth yn yr oriel roedd chwant arnaf i brynu llun i bob stafell yn y fflat ond diolch i'r drefn fe galliais a bodloni ar un!!!

Yn ogystal ag oriel John Knapp, cawsom brynhawn bendigedig ym Melin Tegwynt lle gallwn i fod wedi gwario ffortiwn eto a'r ffaith fod babi ychwanegol da ni nawr yn esgus i brynu "blanced" newydd arall!!!

Dawnsio
Roedd Nos Galan ei hun yn anhygoel ... noson o yfed, bwyta a dawnsio gwerin yn y gwesty ger y bwthyn lle roeddem yn aros!

Y tro diwethaf imi ddawnsio gwerin oedd mewn gwesty ym Metws-y-coed adeg ras Yr Wyddfa chwe blynedd yn ôl ac roeddwn wedi anghofio faint o hwyl ydyw!!

Ond wedi sawl gwydraid o win a siampers roedd hi'n draed moch ar y dawnsio - ond dydw i ddim wedi chwerthin cymaint ers oes!

Yn wir, bu'r daith o'i dechrau i'w diwedd yn sbri - ar wahân i'r adegau dreuiodd Rod a minnau yn cerdded o gwmpas y gwesty am bedwar y bore yn ceisio cael Harri i gysgu!!!

Rwy'n hapus iawn imi gael fy ffics o Gymru ac yn ddedwydd fy myd - ond yn edrych ymlaen yn barod at y daith nesaf .... gyda thywydd gwell!!!






asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy