麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Noson allan! Noson y merched
Welodd Hong Kong ddim byd tebyg erioed o'r blaen - noson cyn priodi Beks gyda'r merched. Ac mae hi'n holi, a ddigwydd unrhyw beth tebyg yno byth eto!


Fe ddaeth - ac fe aeth!
A'r peth rhyfedd yw, rwy'n dal yn fyw!

Oce, mae fy nerfau yn racs ac angen liver transplant arnaf ond ar wahân i hynny roedd penwythnos yr HK Hen yn un o benwythnosau gorau fy mywyd heb os.

Roeddwn i'n gwybod yn barod fod dwy o'm ffrindiau gorau yn hedfan draw o Brydain ond dychmygwch fy syndod pan oeddem ni'n cael cinio gyda Rod yng ngwesty swanc y Conrad a ffrind arall imi, Helen, yn cerdded i'r gwesty.

Bu bron imi â thagu ar fy sushi!

Roedd Rod, y dyn drwg, wedi bod yn y maes awyr y bore hwnnw i gasglu Helen oedd wedi teithio o Gaerdydd.

Rwy'n credu i mi yfed dau wydred o Savignon Blanc mewn tua hanner munud tra'n crio o hapusrwydd a chrynu fel deilen!

Fel gwireddu breuddwyd
Yn hwyrach y diwrnod fe hedfanodd fy nwy ffrind arall i mewn, Sophie ac Emma a theimlai'n afreal braidd eu cael nhw fan hyn yn HK - fel petai breuddwyd wedi'i wireddu.

Roedd pethau'n gwella drwy'r adeg oherwydd yn hwyrach y noson honno daeth Nia draw; fy ffrind o Singapore oedd yn trefnu'r cwbwl.

Rhaid oedd cicio'r penwythnos bant mewn steil drwy yfed jeroboam o siampên ar y to dan y sêr. Roeddwn yn hapus fy myd gyda ffrindiau da yn fy nghynefin ac - heb yn wybod i mi - roedd un arall a y ffordd, fy narpar chwaer yng nghyfraith.

Un o fy hoff y siopau yn HK - os nad y byd - ydi Shanghai Tang sy'n gwerthu dillad chwaethus, modern, Chineaidd yn ogystal â phethau hyfryd i'r cartref.

Gwyddwn y byddai'r merched wrth eu boddau yno, felly ar ôl pryd o dim sum yn y City Hall bant a ni am ychydig o retail therapy.

Roeddwn yn sôn wrth y merched gymaint oedd fy narpar chwaer yng nghyfraith wrth ei bodd â Shanghai Tang pan neidiodd Sioned allan o stafell newid.

Bu bron imi â chael haint. Roeddwn yn hynod o siomedig na allai dod - yn enwedig o wybod faint mae'n caru Honkers!
Roedd hi'n addo bod yn benwythnos fythgofiadwy.

Gwisgo stetson
Y noson honno, bu'n rhaid imi wisgo stetson (het gowboi) gyda glitter drosti a'r Ddraig Goch ar ei blaen ac yfed Cosmos yng ngwesty y Mandarin Oriental.
Neis iawn!

Mewn bicini Draig Goch Ond doedd hynny'n ddim o'i gymharu â thrannoeth a ninnau wedi trefnu i logi junk am y diwrnod a Nia, yn ddiarwybod i ni, wedi trefnu bod fy hoff arlwywyr yn paratoi'r bwyd.
Nefoedd.
Ond nid cymaint o nefoedd pan fo pawb arall yn gwisgo dillad arferol a minnau mewn bicini Draig Goch!
Diolch Sioned a Nia!

Doedd dim dewis gennyf - ond cawsom ddiwrnod bendigedig ar y cwch yn siarad pethe merched, yn yfed, yn bwyta, yn cysgu, a bola heulo a chanu! Ac, o ie, pawb yn chwerthin arnaf i.

Y noson fawr
Nos Sadwrn oedd y noson FAWR! Y noson yr oeddwn yn gofidio amdani gan fy mod yn gwybod bod ambell dric da Nia.

A phan drodd 15 ohonom lan yn Lan Kwai Fong yn brydlon am saith cawsom ein rhoi mewn pedwar tîm ar gyfer cwis oedd yn golygu darllen pum 'cerdd' gyda chliwiau ym mhob cerdd i'n harwain at bum bar gwahanol.

Wedi cyrraedd pob bar roedd nifer o dasgau yr oedd yn rhaid eu cyflawni tra'n yfed gwydraid o rywbeth gwahanol ym mhob bar - Tequila, Guinness, Cosmos ayb!!!

O fewn awr a hanner yr oedd nifer o bobol nad oedd hyd yn oed yn adnabod ei gilydd wedi dod yn ffrindiau reit dda!

Affro pinc
Yn y pumed bar y dechreuodd y gwir embaras: y gwisgo lan a'r "cwis personol!"

Dim ond deng munud oeddem ni wedi bod yno pan gyhoeddodd Nia fod yn rhaid i bawb wisgo wig drwy'r nos a chwarae teg, roedden nhw'n rhai bob reit neis mewn coch, gwyrdd, glas, piws ac un Affro pinc, mawr, i mi!

Byddai Miss Piggy yn edrych yn fwy deniadol na fi.

Ar ben hyn, roedd gennyf ffrindiau am y noson: feather boah binc, cenhinen Pedr wedi chwythu lan a dafad fawrnad oedd gennyf hawl mynd i'r ty bach hebddi.
Mmmm, fy ffrind gorau newydd.

Bu'n rhaid imi hefyd, ddawnsio gyda Ffrancwr o flaen y bar cyfan. Roedd e am gusanu fy mreichiau a nhaflu i'r awyr.

Noson y gwalltiau lliwgarNid y peth callaf oedd fy ngorfodi i yfed tri wisgi dwbwl tra'n ateb cwestiynau cwis arall am Rod o flaen y merched i gyd!!!

Tynnu lluniau
Ardal Lan Kwai Fong ydy un o ardaloedd mwyaf poblogaidd HK a dwi'n credu inni gael ein lluniau wedi'u tynnu gan dwristiaid yn ogystal â phobol leol tua chan gwaith. Sôn am fod yn adloniant i bawb.

Daeth y lle ar stop bron iawn a go brin i HK gweld hen weekend debyg i hon erioed o'r blaen!

Y cyfan wnes i oedd chwerthin a chrio am bedwar diwrnod.

Gweithiodd y merched yn galed i gael y cyfuniad perffaith ac mae gen i'n awr wyth wythnos i ddod dros y peth cyn y dydd mawr!






asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy