麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Llyncu arian - a disgwyl am newid!
Yng ngwres annioddefol Hong Kong rhaid i Beks Walters ruthro gyda dwy ferch fach i'r ysbyty!



Mae HK yn berwi.
Dwi'n berwi - ac mae'n waith anodd gadael y ty a'r air côn yng nghanol un o'r hafau twymaf erioed a hithau'n 37 gradd rai dyddiau!

Nid y tywydd delfrydol i fod yn rhedeg o gwmpas ynddo yn gwneud paratoadau munud olaf ar gyfer priodas!!!

Ta beth - rhaid clatsio bant! Ond ar ben hyn, mae gen i fy nith fach Beca Lia yn aros o'r Alban.
Dwbwl y trwbwl ...wrth iddi hi ag Ela Mai roi ambell i harten imi dros y pythefnos ddiwethaf.

Cawsom ambell i antur - gan gynnwys un yn cynnwys ysbyty!!!

Llyncu arian
Nid oedd Beca, sy'n bump, ond wedi bod yn HK am noson pan ddechreuodd yr helynt.

Roeddem ar y ffordd adre o'r archfarchnad leol yn hwyr nos Sul gyda'r ddwy fach yng nghefn y car pan glywais Ela yn tagu.

Gwyddwn, o'r swn, fod rhwybeth mawr o'i le a wedi stopio'r car gwelais fod golwg ofnadwy arni - yn tagu ac yn cael trafferth i anadlu.

Dywedodd Beca iddi llyncu darn o arian a chadarnhaodd Ela hynny - roedd hi wedi llyncu darn 20 cent sydd tua'r un faint ag 20ceiniog Cymru.

Wedi ffonio fy meddyg dywedodd wrthyf am fynd â hi i'r ysbyty yn syth.

Yn byw yma, rhaid diogelu rhag pob math o bethau na fydden yn eu hystyried yng Nghymru fel dengue fever, malaria, hep B ac yn y blaen.

. O ganlyniad cafodd Ela sawl brechiad egr sy'n golygu pob meddyg â nodwydd enfawr.

Ar ben hynny mae hi ofan ysbytai!

A dyna lle'r oeddwn iar fy mhen fy hun gyda'r ddwy fach oedd yn ar y ffordd I'r ysbyty.

Roedd Rod yn Phuket ar ei benwythnos stag felly doedd dim pwrpas ceisio cysylltu ag ef .Onid yw amseru dynion wastod yn berffaith??!!!

Hud a lledrith
Wedi cryn o berswâd llwyddais i gael y ddwy drwy'r drws a mynd ag Ela i stafell "y camera hud a lledrith!" pelydr x lle cadarnhawyd yn syth fod darn 20 cent yn ei stumog bach.

Diolch i'r drefn nid oedd yn beryglus bellach a dim posibilrwydd y byddai'n tagu.

Yn wir, dim ond un ffordd allan oedd i'r 20cent bellach a go brin fod angen dyfalu pwy gafodd y pleser o fynd drwy'r cwbwl lot i chwilio am yr arian!!

Ymhen tridiau yr ymddangosodd yr 20cent ac Ela nawr yn deall mai ond bwyd a diod ddylid eu llyncu a chadw unrhyw arian sydd ganddi yn ei phwrs!

Ta beth, bu'n hyfryd cael Beca yma i'w thywys o gwmpas Honkers - er gwaethaf y gwres.

Cafodd y ddwy fach eu ffitio ar gyfer eu ffrogiau priodas ac ers hynny mae nhw wedi bod yn erfyn arnaf adael iddyn nhw eu gwisgo adref.

Gallwch ddychmygu'r peth - dwy dan bump yn cerdded drwy ganol Honkers mewn dillad flower girl.

Teithio i Gymru
Mae'n ty ni bellach fel storfa enfawr gyda phethau'n cael eu casglu ar gyfer y trip i Gymru a minnau'n teithio ar fy mhen fy hun gydag Ela, Beca, dillad priodasol pawb, llwyth o bethau priodasol, a dillad am bum wythnos.

Byddaf yn archebu G 'n T enfawr o fewn deng eiliad i take off credwch chi fi!

Bydd y briodas ymhen ychydig dros bythefnos a minnau wedi cyffroi'n bost yn methu disgwyl gweld fy holl ffrindiau unwaith eto a threulio cymaint o amser bosib gyda fy nheulu a gweld eglwys fach Mwnt unwaith eto.

Byddaf hefyd yn dathlu fy mhen-blwydd tra yng Nghymru ... a hynny'n rhywbeth nad wyf wedi'i wneud gyda mam ers dipyn.

Dwi hefyd yn edrych 'mlaen at ddianc o'r gwres 'ma a cherdded allan drwy'r drws heb fod yn chwys domen ... nid yr edrychiad mwyaf delfrydol ar gyfer unrhyw briodferch-i-fod

Byddaf yn ysgrifennaf fy ngholofn olaf fel Miss. Walters o Gymru mewn pythefnos!!!






asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy