麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Nadolig o ramant a thrychineb
Yn dilyn Nadolig hyfryd a phrysur yng Nghymru dychwelodd Beks i ganol hunllef yn Hong Kong yn dilyn y dinistr a'r gwae achoswyd gan y tsunami.


Pan ydych yn byw dramor mae ymweliadau "adref" yn hyfryd - a blinedig.

Dechreuodd ein trip gyda phenwythnos gyffrous yn Llundain yn gwylio fy chwaer yng nghyfraith, Sioned, yn cystadlu yn "showdown" Can't Sing Singers ar 麻豆社 1.

Cynrychioli Caerdydd yn erbyn Llundain, Lerpwl a Birmingham oedd Sioncs ac wedi cyflawni gwyrthiau gyda'r grŵp o gantorion fu hi'n eu dysgu.

Wyddai hi ddim fod Rod yn hedfan nôl i Brydain hefyd felly pan gafodd gip arno yn y gynulleidfa bu bron iddi a chael haint, druan.

Roedd y cystadlu yn frwd a wedi'r pleidleisio cyhoeddodd cyflwynwraig y sioe, Lorraine Kelly, mai Birmingham gipiodd y wobr gyntaf.

Serch hynny, dim ond deg pleidlais oedd rhwng Caerdydd a Birmingham felly fe wnaeth criw Sioned yn rhagorol.

Ciciwr pêl i'r dyfodol
Wedi penwythnos o joio yn Llundain roedd hi'n bryd bwrw am yr oerni go iawn yn yr Alban gan aros gyda fy chwaer, Lowri, ei gŵr John a'r plant, Beca Lia a Joni.

Roedd hi'n dipyn o sioc cyrraedd Glasgow a hithau wedi bod tua 23 gradd yn HK ond yn braf treulio amser gyda'r rhai bach a rhyfeddu gymaint mae plentyn newid mewn saith mis.

Mae Joni, sy'n ddwy, yn chwarae pêl-droed gystal â phlentyn chwech oed erbyn hyn a'i sgiliau da'r bêl yn gwbl anghredadwy.

Os na fydd y plentyn 'hwn yn chwarae i Gymru, fel ei dad, ac yn bêl-droediwr proffesiynol fydd yna'r un plentyn yn gwneud hynny.

Diwrnod hudolus
Wedi ffarwelio â'r criw Albanaidd, roedd hi'n fater o neidio ar awyren arall i Gaerdydd cyn gwneud ein ffordd lawr i Landysul ar gyfer y Nadolig ei hun.

Roedd y diwrnod yn gwbl hudolus gyda llwyth o eira fel pe byddem mewn ffilm o Hollywood!!

Clywed am y dinistr
Ond erbyn deffro bore trannoeth roedd yr awyrgylch yn gwbwl wahanol wrth gwrs wedi inni glywed am y dinistr yn Asia.

Roeddem yn teimlo'n hollol syfrdan wrth wylio'r lluniau ar y teledu a gwyddwn am sawl person o HK oedd yn treulio'r Nadolig yn Indonesia a Thailand.

Wedi sawl neges destun roeddwn yn falch o glywed eu bod nhw'n saff.

Serch hynny, roedd ein calonnau ninnau, fel gweddill y byd, yn gwaedu am y rheini oedd yn dioddef.

Wedi dod nôl i HK fe darodd y sefyllfa fi hyd yn oed yn waeth.

Roeddwn yn cyflwyno sioe ar radio. 3 ar dydd Calan o naw tan un gyda'r prif westai, Nury Vittachi, yn dod o Sri Lanka ac yn adnabod sawl person oedd wedi colli ei fywyd yno.

Wrth gwrs, roedd hi'n gwbwl amhosib cyflwyno sioe hapus yn llawn o hwyl a sbri y calan gyda'r fath ddigwyddiad ar riniog ein drws.

Mae athrawon Ela (pump i gyd) hefyd yn dod o Sri Lanka ac, yn naturiol ddigon, roeddem ni rieni plant yn poeni'n ddifrifol am eu diogelwch.

Diolch i'r drefn dychwelodd pawb yn ddiogel i HK.

Straeon erchyll
Ar y llaw arall, mae straeon erchyll yn eich cyrraedd yn ddyddiol.

Gan fod Thailand mor agos i HK mae'n lle poblogaidd dros ben ar gyfer ex-pats - yn enwedig dros gyfnod Nadolig a'r Calan Chineaidd.

Clywais ddoe am deulu Ffrengig o dad, mam a phum plentyn o Stanley wedi mynd am y Dolig - ond dim ond mab 12 oed achubwyd rhag y tsunami!



Ac nid oes amheuaeth y bydd myrdd o straeon tebyg yn ein taro dros y dyddiau nesaf.

Gall natur fod yn greulon iawn weithiau.

Ar drothwy blwyddyn newydd fel hyn ni allaf ond gweddio a gobeithio y caiff y bobl hyn i ail afael yn eu bywydau a dod drwyddi.

Falle na welwn ni mo hynny'n digwydd yn ystod ei hoes ni - ond fe ddown nhw drwyddi.





asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy