麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Rhyfeddodau rhwng pedair wal
Yr wythnos o'r blaen dwi'n credu y gallwn ni fod yn gweithio i fwrdd twristiaeth HK! - meddai Beks Walters yn ei chyfraniad diweddaraf o Hong Kong.


Do, bu'n rhaid imi frwsio lan dipyn ar fy local knowledge gan mai fy ngwaith oedd croesawu criw teledu arall o Brydain draw yma - yr eildro o fewn mis!

A'r un peth oedd gan y rhain mewn golwg â'r criw cyntaf - ffilmio rhaglen deledu yn ymwneud a HK.

GMTV oedd yma bythefnos yn ôl ond tro 04 Wal S4C oedd hi y tro hwn.

Gan fy mod yn adnabod criw Teledu FFLIC ers blynyddoedd roeddwn wedi ecseitio'n bost pan ddywedon nhw eu bod yn awyddus i ddod draw i Honkers er mwyn busnesa o gwmpas ein fflat ni yn ogystal â fflat pensaer talentog o Gymru.

Do fe fm i'n fishi yn twtio a chymoni am ddyddiau.

Magu anghenfil!
A minnau yn magu anghenfil o hangover ar ddydd Sul wedi hen night fy ffrind fe wnes fy ffordd draw i'r maes awyr i gwrdd ag Aled Sam, Rhodri, Llion a Gwenda.

Roedd o'n deimlad rhyfedd croesawu cyfeillion o Gymru gan mai nhw oedd y bobol gyntaf i ymweld â ni ers imi symud i Honkers bron i flwyddyn yn ôl ac roeddwn bron marw ishe dangos popeth iddyn nhw.
Wedi'r cyfan, mae fy myd i wedi newid dros nos a rhaid cyfaddef fod siarad am yr hen amser a dala lan a chlecs y cyfryngis yn gwneud imi hiraethu am Gaerdydd.

Roeddwn i wedi bod yn gwneud y gwaith ymchwil i'r sioe ers rhai wythnosau gan drefnu i'r criw aros yng ngwesty'r Peninsula ar ochor Kowloon.

Dyma yn un o westai mwyaf trawiadol y byd o ran pensaernïaeth a felly yn berffaith ar gyfer y rhaglen.

Mae'r lobi yn un o lleoedd mwyaf urddasol i gwrdd gyda byrddau marmor a siandeliers anferthol.

Mae ty bwyta Felx ar yr wythfed llawr ar hugain ac wedi ei gynllunio gan y cynllunydd avant- garde, Philppe Starck.

Mae golygfeydd trawiadol o harbwr Victoria, ynys HK a Kowloon o fan hyn ac rwy'n credu i'r criw gael llawer o hwyl yn ffilmio yn nifer o fannau cyffrous y gwesty gan gynnwys un ystafell wely sydd tua maint ein fflat ni felly roedden mewn bach o bryder cyn iddyn nhw gyrraedd!!!!

Chwaeth nid maint
Diolch i'r drefn nid maint sy'n bwysig yn nhyb 04 Wal ond chwaeth. (Dyna fy stori i tabeth!)

Mae'n fflat wedi ei ddodrefnu a'i arddurno mewn ffordd digon Chineaidd ac felly'n siwr o fod yn ychydig o agoriad llygaid yn enwedig o gofio i rai o'r criw ffilmio eitem da fi yn fy nghartref yng Nghaerdydd rai blynyddoedd yn ôl.

Aled Sam, cyflwydd 4WalCafodd Aled Sam dipyn o hwyl yn busnesa o gwmps ein hystafell wely yn ogystal â mwynhau bore hamddenol ar y to yng ngwres cynnes hydref HK!

A chafodd Ela gyfle i fod yn seren hefyd gan inni wneud ychydig o ffilmio ar y traeth sydd ond tua 30 eiliad o wâc o'r fflat.

Yn ogystal â 'gwaith' roedd hi'n hyfryd cael cico nôl da gwydraid o win a barbi gyda'r nos a gwneud y mwyaf o'r to hwnnw. Hyn oll a lot o siopa.

Mae siopau celfi yn Asia yn go wahanol i'r hyn sydd ar gael ym Mhrydain felly fe wnaeth y criw ffilmio imi wneud yr hyn rwy'n ei wneud orau - siopa!

Chwarae teg, cefais ambell i anrheg i'r ty oedd yn amseru perffaith gan ein bod yn cael ein parti dyweddïad, Sadwrn olaf y criw yn HK.

Diolch i'r drefn, doedd dim llawer o dwtio a thacluso i'w wneud cyn y parti gan fod y cyfan wedi'i gwpla a'i sortio ar gyfer y ffilmio.

Dim ond stocio fyny ar digon o siampên i ddisychedu'r pum mil oedd angen a pharatoi cannoedd o ddarnau dim sum, spring rolls, teryaki prawns, peeking duck a Thai chicken bites.

Coctels a chanapés ydy'r dyfodol credwch chi fi - wel mae hynny'n gwneud partis dipyn haws!!!

Noson fythgofiadwy
Ta beth, fe drodd hi allan i fod yn noson arbennig; noson fythgofiadwy oedd yn ein caniatáu inni ddathlu gyda ffrindiau sy'n byw fan hyn yn HK yn ogystal â chriw o Gymru.

I ddweud y gwir dwi'n credu imi gyfri deg siaradwr Cymraeg yn y parti ar un adeg - bellach mae nifer sy'n byw yng Nghymru wedi ymadael â ni ond gwyddwn y byddai'n rhaid cyrchu am y maes awyr y Sadwrn wedyn ar gyfer cwrdd ag ymwelydd pwysig arall sy'n dod draw am y Dolig - Gu, fy mam!






asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy