麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Ffrindiau mawr - ond nid pawb sydd eisiau closio at santa Santa'n codi ofn!
Gyda Hong Kong yn paratoi ar gyfer y Nadolig sylweddola Beks nad pawb sy'n croesawu dyfodiad Sion Corn . . .

O'r diwedd dwi'n weddol 'fyw' unwaith eto!!!
Wedi wythnosau o deimlo fel trychineb daeth fy egni arferol yn ôl a pheidiodd y morning sickness diarhebol.

Ni allais erioed ddeall pam y penderfynwyd ei alw wrth yr enw yna gan fod y rhan fwyaf o'r menywod beichiog yr ydw i yn eu hadnabod yn rhedeg i'r tŷ bach bedair awr ar hugain y dydd!

Ta beth, mae'n braf medru bwyta'r pethau arferol unwaith eto - er fe fyddai'n gadael y chicken's feet a'r fish balls i'r bobl leol tan ar ôl mis Mehefin!

Blocbystar ar fideo
Cefais sgan yr wythnos diwethaf i sicrhau fod popeth yn iawn - profiad afreal iawn gan fod y cyfan yn cael ei gadw ar VCD y gallwch ei wylio drosodd a throsodd adref.

Doedd y fath beth ddim yn bod dair blynedd yn ôl pan oeddwn i'n disgwyl Ela ond mae'n siŵr fod yr un peth ar gael ym Mhrydain hefyd erbyn hyn.

Gallwch ddychmygu ymateb Ela.
"Pam fod y cyfan yn ddu o gwmpas y baban?
"Edrych, mae'n symud ei fysedd.
"Dwi'n gallu gwneud hynna. "
A bant a hi i chwarae a'i theganau arferol.

Roedd y VCD yn fwy o smash hit neu flocbyster gyda Mam a Rod nag ydoedd gyda'r chwaer fawr!!!!!

Paratoi am y Dolig
A hithau'n ddechrau Rhagfyr mae HK wedi mynd dros ben llestri yn llwyr gyda pharatoadau Nadolig!!!

Os mynd amdani yna mynd amdani ac fel arfer mae'n rhaid i HK ddangos i'r byd sut mae gwneud pethau orau.

Yn y winterfest arferol yng nghanol y dre mae coeden Nadolig dros 35 metr.

Mae 'tref Santa', wedyn, yn denu cannoedd ar gannoedd o dwristiaid ddydd a nos.

Un peth sydd wastad wedi fy synnu i yw mor hoff yw'r Chineaid, yn blant ac yn oedolion, o gael tynnu eu lluniau gyda choed Dolig a Sion Corn er nad ydyn nhw eu hunain yn dathlu'r ŵyl.

Santa yn codi braw
Perthynas o garu a chasáu fu un Ela a Sion Corn erioed.

Roeddwn i wastad o'r farn fod hon yn berthynas a fyddai'n gwella wrth iddi fynd yn hŷn a chyda chymaint o sôn wedi bod am Sion Corn yn ein tŷ ni ers rhai wythnosau a'r teganau meddal o Sion a Sian Corn mor boblogaidd, doeddwn i ddim yn disgwyl unrhyw broblemau eleni - hynny yw, nes inni fynd i ffair Ddolig dros y penwythnos!!!!

Yng ngwres gaeafol HK eisteddwn gyda ffrindiau mewn caffi y tu allan i'r ffair enfawr pan ddaeth y Sion Corn talaf a welais erioed rownd y gornel.

Roedd tua naw troedfedd o daldra ond yn edrych yn debycach i un o'r weebles roedden ni'n chware â hwy pan oeddwn i'n fach!!!!

Testun brawA'r lle yn orlawn, roedd y rhan fwyaf o'r rhai bach wedi gwirioni'n llwyr o weld Sion Corn yn y cnawd - tal neu beidio.

Ar wahân i un ferch fach!

O fewn eiliadau llifodd pob tamaid o liw o wyneb Ela gan wneud i bili pala a beintiwyd ar ei hwyneb edrych fel clais enfawr drwy'r dagrau.

Crynu a llefain
Neidiodd i fy nghol yn crynu a llefain y glaw.
Bu'n rhaid imi ei chario hi ar redeg i siop gyfagos a disgwyl nes bo Sion Corn wedi mynd am adre!!!

Druan ohoni - Duw a ŵyr beth ddigwydd rhwng nawr a'r Dolig gyda chymaint o Sion Cyrn o gwmpas.

Y gêm newydd fydd, Sut mae osgoi Sion Corn?






asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy