麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cartrefu mewn cartref newydd Fflat newydd a buddugoliaeth
Mae Beks newydd symud i fflat newydd yn Hong Kong - a blasu ei buddugoliaeth genedlaethol gyntaf yno!

Dychmygwch yr olygfa ... bocsus ym mhobman yn llawn dodrefn. Gweithwyr yn rhoi toiledau i mewn. Dynion yn cyrraedd i ailgysylltu 麻豆社 Prime - sianel na allwn i fyw hebddi, gan fod teledu HK mor warthus!

A minnau yng nghanol y cyfan yn teipio fy ngholofn gyntaf o'n fflat newydd ni!!

Er gwaetha'r llanast a'r sŵn mae rhyw dangnefedd yn perthyn i deipio gan fod ein cyfrifiadur ar ddesg y tu ôl i falconi lle gallaf weld fy hoff draeth, St. Stephens, i'r dde lle mae pobol yn syrffio gwynt.

Ac i'r chwith, mae golygfa hyfryd o Fôr De China.

Bydd y lle yma'n nefoedd wedi i'r gwaith gael ei gwblhau ac wedi i'r gweithwyr adael!

Er mai dim ond rownd y gornel yr ydym ni wedi symud roedd y gwaith pacio a'r annibendod cyn waethed a phe byddem yn symud ar draws gwlad - nid y profiad brafiaf pan fo baban i gyrraedd ymhen cwta wyth wythnos a'r bol yn teimlo'n fawr iawn!

Druan o Rod. Ni fum i lawer o help iddo gyda'r symud, - ond yn ôl fy arfer yr oeddwn i'n dda iawn yn gweiddi orders!

Lle drud
Gan fod real estate - fel mae'n cael ei alw fan hyn - mor ddrud a HK yn un o'r lleoedd drutaf yn y byd nid oes llawer o bobol yn prynu eiddo yma.

Rhentu mae'r rhan fwyaf gan ein cynnwys ni.

Mae'r farchnad yn un anwadl iawn a phethau fel SARS a'r Asian Crisis yn medru effeithio'n fawr ar brisiau tai.

O ganlyniad, mae'r rhan fwyaf yn byw mewn fflatiau.

O ganlyniad rhaid dewis a dethol celfi'n ofalus a does dim o'r busnes "Wi'n credu nai gadw hwnna jyst rhag ofn yna.

Na, os nad oes defnydd i gelficyn caiff ei werthu ar wefan Asia Expat!!

Yn bersonol, rydw i'n berson sentimental iawn ac wedi torri nghalon sawl gwaith yr wythnos hon wrth ffarwelio ag ambell beth - a dydi'r hormonau ddim yn helpu ar adegau fel hyn yn siŵr i chi!!!!

Ta waeth, y peth pwysig yw ein bod ni "I mewn!" a dwi'n hyderus iawn byddwn yn hapus ein byd yma.

Seithfed nef!
Yn ogystal â symud mae hi wedi bod yn gyfnod bishi dros ben oherwydd yr HK Sevens.

Eleni, teimlai fel pe byddai'r byd i gyd wedi glanio yn HK gan fod cwpan y byd yn cael ei chynnal yma.

Hyd yn oed ar gyfer y Sevens arferol mae'r holl benwythnos yn garnifal ond roedd eleni yn hollol anghredadwy.

Camp LawnMae'n arferiad i bawb wisgo lan mewn gwisg ffansi i wylio'r gêm sy'n golygu bod y dyrfa yn gymysgedd o bob math o greaduriaid o Teletubbies i transvestites mwyaf deniadol HK.

Y South Stand ydy'r lle mwyaf gwallgof a does dim pwrpas meddwl gwisgo unrhyw beth sy'n hanner deche gan eich bod yn siŵr o adael a'ch dillad yn drewi o gwrw a Pimms!!!

Dyma lle mae ffans hard core y Sevens yn eistedd o wyth y bore tan ddiwedd y dydd gyda phethau fel peli rygbi bach a chreaduriaid gwynt o bob math yn cael eu lluchio i bobman - felly rhaid paratoi am ambell i ddamwain!

O Gaerdydd
Daeth criw o ugain draw o Gaerdydd - criw Côrdydd - ac, wrth gwrs, roedden nhw'n barod am wythnos dda!

Nid yn unig roedden nhw yma i weld un o benwythnosau mwyaf cyffrous calendr chwaraeon y byd ond roedden nhw yma hefyd pan oedd Cymru'n wynebu'r Gwyddelod yn Stadiwm y Mileniwm.



CordyddGallwch ddychmygu'r cynnwrf a'r cyffro ymysg Cymru HK cyn y gêm. Dim ond un peth oedd ar feddwl pawb - Y Gamp Lawn!

Roedd y gêm yn cychwyn am 11.30 y nos ein hamser ni - yr amser perffaith gan fod y Sevens yn gorffen gwpwl o oriau cyn hynny a phawb mewn hwyliau da wedi diwrnod o rygbi ac o gwrw!

Mae'n gwbl amhosib cyfleu sut yr oeddwn i'n teimlo fel Cymraes yn Asia yn dilyn y canlyniad ac ni allaf innau ond dychmygu y teimladau yng Nghymru.

Yn naturiol, mae teulu a ffrindiau wedi anfon papurau newydd atom ac fe fum yn darllenyr hanes ar y rhyngrwyd ac yr oedd yr hiraeth yn ddirdynnol.

Crys coch
Fe gerddais i mewn i HK Stadium ar y dydd Sul wedi'r gêm gydag Ela yn gwisgo ei chrys rygbi Cymreig ac yn teimlo fy mod yn cerdded ar gymylau hudolus ... roeddwn i mor hapus ac mor browd.

Ac yr oedd hyn yn dilyn cyflwyno rhaglen radio bedair awr ar y bore Sul gyda llwyth o Gymru yn ffonio i mewn - yn dal yn gwbwl feddw!!

Mae baner y Ddraig Goch yn dal i hedfan yn browd iawn yn y fflat newydd yn Stanley HK!!!!





asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy