麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Lanteri a theisennau atgas
Beks Walters yn sgrifennu o Hong Kong am Wyl y Lloer - gwyl y teisennau atgas!



Rwy'n dal i fod yn bwyta, bob dydd, ddigon i deulu o saith!!

A'r rheswm da am hyn yw fy mod yn dal i ffilmio'r sioe Cooking up a Dragon.

A diolch i'r drefn, rydym ni'n paratoi i fynd bant i Thailand i orwedd yn yr haul ym mharadwys yr unig siom yw na fyddaf yn gallu mynd yn agos i'r bicinis rwy'n arfer wisgo ar draethau Hong Kong.

Ydw, rwyf bob amser yn dwli ar fy ngwaith ond mae hyn bron a bod yn jôc. Mmmm.

Rhwng nawr a Thailand rwy'n ffilmio yn Nhy bwyta Ffrengig Petrus yng ngwesty pum seren Island Shangri-la ac allan ar long hwylio yn mynd i ynys Potoi i fwyta pysgod mewn ty bwyta Chineaidd traddodiadol ar y traeth.

Ac i goroni'r cwbwl mae cogydd enwog yn HK yn dod draw i'n ty ni i baratoi pwdinau Chineaidd traddodiadol!!!

Ie, dyfalwch pwy fydd yn rolio ar yr awyren 'na i Thailand?

Bwyd yn bwysig
Rhaid cyfaddef fod bwyd a'r ochor gymdeithasol sydd yn ymwneud â bwyd yn ganolog i fywyd Hong Kong - nid yn unig i'r ex pats fel ni ond i'r bobol leol hefyd.

Bu'r mis diwethaf yma yn enghraifft berffaith o hynny a ninnau'n dathlu Gwyl Leuad Canol Hydref - y Mid Autumn Moon Festival - rhwng canol Awst a chanol Medi.

Mae'n arferiad fan hyn i fwyta cacennau lloer arbennig i ddathlu'r - moon cakes

Cacen i gymdogion
Mae'n arferiad rhoi cacennau lloer i gymdogion, ffrindiau a chydweithwyr ac mae'n amhosib dianc rhag hysbysebion teledu amdanyn nhw.

Yr unig ddrwg yw eu bod yn bethau cwbl ffiaidd ac mae'n gas gen i'r pethau bach crwn, drewllyd!

Ac er bod gan Ela ddant at bob math o bethau melys mae hithau hyd yn oed yn troi ei thrwyn ar rhain!

Ond mae'r ffaith i $420m gael ei wario arnyn nhw yn Hong Kong eleni yn dangos pa mor boblogaidd ydyn nhw.

Neb yn hoffi'r pethau atgas
Serch hynny, dydw i ddim yn adnabod neb sy'n hoffi blas y danteithion bach diflas y mae eu canol wedi ei wneud o felynwy wedi gymysgu a phâst lotws a llwyth o siwgr ynddo.

Y peth diddorol yw i gwmnïau mawrion fel Hagen Daz sylweddoli fod modd gwella arnyn nhw a mynd ati i greu math arbenig o mooncake hufen iâ.

Rhinwedd y rhain yw y gellir eu bwyta nhw heb orfod rhedeg i chwydu yn y ty bach!

Dathlu ar y traeth
Uchafbwynt yr Wyl oedd dathliadau mawr ar y traeth.

Mae'n arferiad i addurno cartrefi ac adeiladau gyda lanteri chineaidd o bob math.

Er mai rhai papur yw'r rhai mwyaf cyffredin gellir cael rhai trydan, halogen ac eleni adeiladwyd lantern fwyaf y byd yn Victoria Park gan greu golygfa arallfydol.

Rydyn ni'n ffodus iawn ein bod yn byw ar lan y môr yn Stanley gan fod dathliadau diri ar y traeth bron bob mis a rhaid cyfaddef fod yr olygfa ar y traeth y nos Wener o'r blaen yn un o'r rhai prydferthaf a welais i ers symud i Asia.

Wrth iddi nosi, rhedai'r plant i bobman gyda'u lanteri yng ngolau'r lleuad.

Roedd Ela Mai wrth ei bodd gyda'i lantern bapur hi ac yn syllu'n geg agored ar rai crand plant eraill.

Ond er y byddaf yn colli prydferthwch y lanteri ni fyddaf yn gweld ishe y cacennau bach cas sy'n rhan mor bwysig o fywyd HK y cyfnod hwn.




asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy