麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Prysurdeb priodi - ar draws y byd
Mae'r briodas yn dynesu - a threfniadau i'w gwneud mewn tair gwlad.
Beks Walters yn sgrifennu o Hong Kong

Sôn am Basg prysur!
Dwi erioed wedi gweithio mor galed yn fy myw dros gyfnod sy'n cael ei alw'n wyliau!

Tra roedd gweddill Honkers yn eu gwelyau tan amser cinio roedd fy larwm i yn canu am 4.30 y bore ar gyfer dal tacsi i Radio 3, RTHK (Radio Television Hong Kong) ym mherfeddion Kowloon.

Dwi ddim yn ffan o neidio i mewn I dacsi a hithau'n dal yn dywyll ond o leiaf roedd y daith 40 munud yn rhoi cyfle imi ffonio ffrinidau a theulu yng Nghymru lle'r oedd hi'n ddeg y nos!

Nwdls o egni!
Wedi pedwar bore cynnar roedd fy nghorff yn dechrau arfer â'r syniad gwirion o godi mor gynnar a minnau wrth fy modd yn mynd i gantîn RTHK i gael powlenaid o nwdls am ddeg!

Ac rwy'n siwr i'r noodles hynny roi imi'r egni angenrheidiol i mi fynd ar daith gerdded bedair awr dros fynyddoedd ynys HK yn dilyn rhaglen Llun y Pasg.

Oes mae 'na wyrddni yma chi'n gwybod! I ddweud y gwir, mae sawl taith gerdded i weld adeiladau uchel HK i gyd.

Mae'n olygfa drawiadol iawn ac wedi cwblhau'r hyn maen nhw'n alw y mil o risiau - gan fod o leiaf fil ohonyn nhw! - teimlwn yn browd iawn imi losgi caloriau yn hytrach no rhoi cannoed ohonyn nhw yn fy mol ar ffur wyau Pasg.

Trefnu priodas
Yn dilyn penwythnos y Pasg yr oedd gwaith gwahanol yn galw - trefnu'r briodas ddiwedd Gorffennaf.

Dydi hynny ddim yn hawdd a chwithau'n byw yr vochr arall i'r byd gan fod rhai pethau mae'n rhaid i chwi eich hun eu gwneud yn y fan a'r lle yn hytrach na thros y ffôn neu drwy e-bost.

Felly, nos Fawrth diwethaf bu'n rhaid hedfan nôl a threulio diwrnod yn Llundiaun a deuddydd nol yng ngorllewin Cymru.

Doedd whistle stop tour ddim ynddi ac erbyn imi ddod dros y jetlag roeddwn ar awyren arall nol i Honkers!

Honkers, Glasgow a Chaerdydd
Gallwch ddychmygu faint o jobin yw hi i gydlynu'r cwbwl. Gan fod fy morynion priodas yn byw yn HK (Ela Mai) , Glasgow, (fy chwaer Lows a fy nith Beca Lia) a Chaerdydd (Sioned,fy narpar chwaer yng nghyfraith) ble oedd y lle gorau i gael eu gwisgoedd wedi'u gwneud?

Honkers, yr Alban ynteu Caerdydd?

Yn y diwedd penderfynwyd gwneud y ffrogiau yng Nghymru gyda Lowri a Beca yn hedfan lawr yn unswydd ar gyfer hynny a phawb yn cwrdd yn nhy y wniadwraig y tu allan i Gaerdydd.

Roeddem ni ferched wedi cynhyrfu'n llwyr a ninnau heb weld ein gilydd ers misoedd a druan o Tina, y fenyw gwneud ffrogiau, roedd hi fel ffair ar ei haelwyd!

Cwrdd a'r ficer
Wedi hynny, bu'n rhaid rhuthro i'r gorllewin i gwrdd â'r ficer, mynd i'r eglwys, cwrdd â'r fenyw gacen briodas ac yn y blaen!

Yn ogystal â hyn, gan ein bod yn cael pabell ar dir fferm ger yr eglwys bu'n rhaid trefnu gyda'r ffermwr lle'n union i'w chodi.

Blas ar win
Dwi'n falch dweud i bopeth fynd fel wats ac ar ben hynny llwyddodd rhai ohonom ni fenywod i flasu rhywfaint o win er mwyn dewis yr un priodol ar gyfer y diwrnod mawr!

. Wedi'r holl redeg o gwmpas y wlad fel dynes wyllt does ryfedd imi gysgu fel baban ar y daith adre ac roedd hi'n braf cael cyrraed tir poeth HK gan wybod mai dimond y traeth oedd yn galw y bore dranoeth!

Nefoedd a'r larwm yn fud am bedwar gloch y bore!




asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy