麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Dathlu Blwyddyn y Llew
Beks yn sgrifennu o Hong Kon ar gychwyn blwyddyn newydd y lloer

Ar Ionawr y cyntaf y mae'r rhan fwyaf ohonom yn cychwyn ar gyfnod newydd yn ein bywydau - yn rhoi'r gorau i smygu, ceisio colli pwsau ac ati.

Gan amlaf ni ddaw dim o'r ymdrchion hyn a'r addunedau yn deilchion mewn dim o beth.

Dyw hynny'n drafferth o gwbl fan hyn - oherwydd toc wedi Ionawr 1 daw blwyddyn newydd y lloer a chyfle newydd inni addunedu eto!

Ie, mae'n amser dweud KUNG HEI FAT CHOI unwaith eto - "Blwyddyn newydd dda i bawb".
A chroeso i flwyddyn y mochyn!!

Ela a  ffrind yn bwyta  'dim sum' Mae'r flwyddyn newydd hon yn cael ei ddathlu ar Chwefror 18 ym mhob rhan o'r byd lle mae cymdeithas Chineaidd gref.

Dyma ŵyl bwysicaf y calendr Chineaidd ac mae'n parhau am bythefnos.

Gydag wythnos a hanner wedi mynd rydym ni fel teulu wedi bod yn gwneud y mwyaf o'r dathlu ac fel un na chafodd ei magu yn Hong Kong mae'r traddodiadau a'r defodau yn fy niddori yn fawr.

Blas go iawn
Eleni, am y tro cyntaf, rwy'n teimlo imi gael blas go iawn ar y calan Chineaidd!!!

Blas yn llythrennol gan fod I dim sum fel pe byddai'n dod allan o fy nghlustiau erbyn hyn!!!

Mae'n arferiad i blant gael dillad newydd ar gyfer y flwyddyn newydd a chaniateir i lawer ohonyn nhw wisgo'u gwisg draddodiadol am sawl diwrnod cyn ac yn ystod y flwyddyn newydd.

Gan fod Ela yn berchen pum cheongsam bellach roedd hi'n anodd dewis pa un fyddai hi'n ei gwisgo i fynd i'r ysgol am wythnos gyfan!

Lliw lwcus
Y lliw traddodiadol i'w wisgo ydy coch gan ei fod yn lliw lwcus.

Mae hefyd yn beth cyffredin i bobol roi haenen ffres o baent coch ar y drysau neu o amgylch y ffenestri.

Fe brynon ni sawl addurn coch traddodiadol i'w hongian ar y drws ffrynt yn ogystal â moch coch i'w hongian yn y tŷ!

Mae bwyd a bwydydd arbennig hefyd gan wneud y flwyddyn newydd yn debyg i'n dathliadau Nadolig ni yn yr ystyr bod teuluoedd yn dod at ei gilydd am brydau hir.

Bwyd llysieuol
Ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn newydd mae'r bwyd bob amser yn llysieuol gan osod nod iach ar gyfer gweddill y flwyddyn!!!

Rhaid cyfaddef fod y bwyd llysieuol lleol yn safonol iawn ac ar ddiwrnod olaf tymor ysgol Ela cefais gyfle i brofi dipyn ohono ar drip ysgol i dŷ bwyta Jumbo!

Dyma dŷ bwyta mwyaf y byd ar ddŵr.
Yn anhygoel, mae ei dri llawr bob amser yn llawn o bobol yn bwyta dim sum!

Pwrpas y trip oedd i'r plant flasu dim sum a bod yn rhan o'r dathliadau.



Parti'r plantTuedd nifer o deuluoedd gorllewinol sy'n byw yn Hong Kong yw mynd dramor dros y flwyddyn newydd gan fod cymaint o wyliau cyhoeddus. O ganlyniad mae'r plant yn dal i fwyta pasta, pizza a'u bwydydd arbennig!!!!

Roedd cynnwrf aruthrol yn yr ysgol cyn i 100 o blant rhwng pump a chwech adael am y Jumbo.

Mae'n dipyn o joban cyrraedd yno gan fod yn rhaid defnyddio cwch sampan a'r syndod yw nad oes neb wedi disgyn i'r dŵr!!!

Darnau aur
Er bod y rhan fwyaf o'r plant yn gyfarwydd â'r bwydydd a gawsom y diwrnod hwnnw roedd y cyfan yn ormod iddynt a bu'n rhaid iddyn nhw adael y Jumbo a'u stumogau yn dal yn wag oni bai am ambell i lwyed o reis a nwdls!!!

Mae dumplings yn boblogaidd iawn gan fod siâp y bwyd yn debyg i "gold nuggets" a ddarganfyddwyd yn hen China.

Yn ogystal, rhaid cael fat choi, sy'n fath o wymon gan fod y gair fat choi yn swnio'n debyd i'r gair Cantonaeg am gyfoeth.

Yn ogystal, rhaid bwyta ffrwyth mandarin gan fod enw'r ffrwyth, kam yn swnio'n debyg i'r gair am aur!!!

Mae pysgod - unrhyw bysgod - yn boblogaidd ond rhaid gadael ychydig ar y plât yn arwydd ichi gael eich digoni a bod digon i ddod!!

I'r plant
Yr hyn sy'n gwneud yr ŵyl hon yn debyg iawn i'r Nadolig o ran ysbryd yw mai gŵyl i blant yw hi yn bennaf gyda phob plentyn yn derbyn pecynnau lai see.

Mae'r rhain mewn amlenni bach coch sy'n cynnwys arian lwcus ... neu arian losin yn ein tŷ ni!

Yn ogystal â phlant mae menywod di briod a ffrindiau yn cael y rhain hefyd.

Derbyniodd ein plant ni 30 pecyn eleni - dechrau da i'r flwyddyn!

Bu cyfle hefyd i weld tân gwyllt anhygoel a dawnswyr llew ym mhob twll a chornel o bob stryd!

Fe wnes i wir fwynhau y flwyddyn newydd eleni ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at Flwyddyn y Mochyn - neu'r mochyn aur fel mae rhai yn ei alw - un o'r blynyddoedd mwyaf lwcus ers degawdau!
Kung Hei Fat Choi!





asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy