麻豆社


Explore the 麻豆社

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆社 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Dinas dan warchae Byw gyda SARS - byw wedi SARS
Bydd Hong Kong yn trechu SARS ac ail-fywiogi meddai Beks Walters sy'n byw yn y ddinas. Yma, mae'n sgrifennu am bwysigrwydd bod yn gadarnhaol wrth ddygymod a'r bygythiad.

Gyda SARS (Severe Acute Respiratory Syndrome)wedi newid meddylfryd a hwyliau pobol Honkers, mae'r sefyllfa yn gwaethygu yn ddyddiol ac yn ôl adroddiadau y South China Morning Post mae pobol yn dioddef o iselder ysbryd oherwydd eu hofnau.

Mae'r sinemâu I gyd yn wag, 20% o dai bwyta yn darogan byddan nhw yn gorfod cau, pob gwesty mawr crand ar yr ynys bellach yn edrych fel rhywbeth allan o set ffilm cyn I'r actorion gyrraedd.

Beks - yn awr yn byw yn Hong KongRhaid cyfaddef, tydi gweld y rhan fwyaf o'r bobol o'ch cwmpas gyda mygydau dros eu hwynebau ddim yn gwneud I chi fod ishe chwerthin mae bywyd yn rhyfedd iawn.

Ond er hyn, rhaid clatsio bant wedi'r cyfan, dyma ein cartref ni, dyma lle mae'n bywyd dyddiol.

Gin 'n slim trwy fwgwd
Felly, er gwaethaf yr holl ddifrifoldeb o'n cwmpas mae agwedd bositif yn ein ty ni a phenderfynwyd fod yn rhaid dechrau dathlu pethau da bywyd.

Wedi'r cyfan, mae mwy i Hong Kong na SARS a cheisio yfed Gin n slim trwy fwgwd mewn bar!!!

Dydd Llun oedd dechrau pethau! Mae'n gwbwl amhosib mynd yn agos i gampfa ar y foment oherwydd yr afiechyd a rhyngddo chi a fi roeddwn yn dechrau troi'n bwdryn ofnadwy da'r pinch more than an inch yn troi'n droedfedd o gwmpas fy nghanol ar ôl gormod o dim sum a noodles!

Rhedeg ar y traeth
Rydym ni'n bobol gyfoethog iawn o ran lleoliad ein cartref sydd rhyw hanner munud o'r traeth, felly dwi nawr yn rhedeg ar hyd y traeth am rhyw awr bob yn ail fore.

Mae rhywbeth yn arbennig mewn gwneud hyn tua saith y bore - rhywbeth cathartig dros ben, sy'n eich ysbrydoli i fod yn bositif drwy'r dydd.

Dwi di synnu faint o bobol eraill sy'n amlwg yn ffafrio gweithio mas beth cyntaf yn y bore.

Mae'r pontoons eisoes wedi cael eu gosod yn y môr ar gyfer yr haf a dwi'n aml yn gweld pobol oddeutu 60 yn nofio allan atynt - os na, maent fel arfer yn gwneud Tai Chi ar y traeth.

Gan ei bod hi'n annoeth mynd i ganol dre, i'r siopau a'r lleoedd bishi fe benderfynodd criw ohonom y byddai treulio diwrnod allan yn awyr iach y môr yn syniad da.

Dianc ar junk
Ac fel mae'n digwydd mae dydd Sadwrn bellach yn un o fy hoff ddyddiau yn HK.

Taith ar Junk i Sai kung gyda rhyw 14 ohonom ar ei bwrdd yn hwylio allan o'r harbwr gyda Bloody Marys yn ein dwylo i helpu da'r tonnau!

Does dim byd yn fwy hamddenol na gorwedd ar long gyda golygfeydd arallfydol o'ch cwmpas, cwmni da, Tom Jones yn cael ei chwarae yn uchel iawn a'r haul yn tywynnu'n braf - nefoedd!

Ar ôl bod ar y junk daeth yn amser bwydo'r criw meddwol a hynny mewn bwyty ble chi'n dewis eich pysgodyn yn fyw mewn tanc a hanner awr yn ddiweddarach mae'r creadur druan yn nyfnderoedd eich boliau!!



'Yn oleuadau i gyd . . .'Lobster, prawns, cranc a'r math yna o fwyd môr oedd wedi cymryd ein ffansi ni a rhaid cyfaddef roedd hi'n dipyn o joban dewis a dethol y gorau allan o'r cannoedd yn y tanciau.

Ta beth, roedd y gwin yn llifo ac ymdrechion fy holl waith caled yn rhedeg bob bore yn prysur fynd yn ofer!!!!

Bod yn obeithiol
Wrth hwylio nôl i'r harbwr yn gwerthfawrogi un o skylines prydfertha'r byd yn oleuadau i gyd, roedd fy agwedd tuag at Honkers yn un gobeithiol.

Odw, rwy'n gwybod y bydd hi'n ôl ar ei thraed o fewn misoedd ac yn mabwysiadu yr agwedd bositif a llawn bywyd mae pobol ar hyd a lled y byd wastad wedi'i gysylltu â hi.




asia

Hong Kong
Y bwyd môr gorau erioed

Corwynt yn corddi HK

Beks a Beti - a chwestiwn pwysig!

Pen-blwydd i'w gofio i Beks

Lle mae pawb yn gwenu

Rhamant byd duwies y pysgotwyr

Diflastod teisennau'r lloer

Rhyfeddodau rhwng pedair wal

Dathlu dau ben-blwydd

Tylino yng Ngwlad Thai

Cartref newydd - gyda gardd a phiano!

Nadolig o ramant a thrychineb

Byw hunllef darlledwraig . . .

Fflat newydd a buddugoliaeth

Yn fy Sevens nen

Santa'n codi ofn!

Yn y bore mae dal hi . . .

Rhedeg Wal Fawr China

Dathlu'r pump

Diwrnod y briodas

Gwaith, pleser - a chysur i'r cefn!

Pen-blwydd yn bedair

Prysurdeb priodi - ar draws y byd

Parti ar y naw yn dair oed

Yn oerach nag erioed!

Noson y merched

Mama mia - am berfformiadau

Lanteri a theisennau atgas

Drama mewn parti

Ar ras ar lethrau'r Wyddfa

Babi newydd

Disgwyl am y merched

Croesawu ymwelydd arbennig

Rhwng pedair wal yn Hong Kong

Ffarwelio - cymysgedd o chwithdod a phleser

Modrwy mewn Siampên

Duran Duran - a wynebu Wal China

Nadolig a Rolling Stones

Paratoi ar gyfer
Nadolig 2006


Disney yn Hong Kong

Diemwntau a roc a rôl

Gŵyl Dewi 2006

Dathlu Dewi 2005

Hiraeth, hwyl a dagrau

Gethin ar Ocsiwn

Ymwelwyr o Gymru

Pop - rwy'n destun sbort!

Siopau, bwyd a rygbi

Croesawu Huw Ceredig

Blwyddyn y Ceiliog

Trafferthion y Calan Chineaidd

Dathlu Blwyddyn y Llew

Ar draeth gwyn y Nefoedd

Geni, pen-blwydd a phriodas

Beichiog yn Hong Kong

Yr ieir yn Bangkok

Bali - blas ar baradwys

Mentro i fyd bale!

Ymweld ag Awstralia

Llyncu arian - a disgwyl am newid!

Y beichiog yn gawr!

Glaw, rasus a gwersi!

Gwanwyn wedi'r SARS

Beic pinc a pharti

SARS - yr ymateb yng Nghymru

Byw gyda SARS - byw wedi SARS

Pryderon salwch SARS

Wncwl John yn plesio!

O briodas i briodas

Gwyl Dewi - a diwrnod cyntaf yn yr ysgol

Hong Kong - cychwyn bywyd newydd

Ymweld â Chymru

Priodas yn Awstralia

Cyngerdd Kylie yng nghanol teiffwn teuluol!




About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy