The Village Arswyd yn y coed
Y sêr Bryce Dallas Howard, Joaquin Phoenix, Adrien Brody, William Hurt, Sigourney Weaver
Cyfarwyddwr M Night Shyamalan
Sgrifennu M Night Shyamalan
Hyd 108 munud
Sut ffilm Yn cael ei hysbysebu fel ffilm arswyd ond mae mwy o dyndra nag o arswyd noeth yn ogystal a sawl elfen alegorïol.
Y stori Mae'n ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg (1897) yn yr Unol Daleithiau. Dan arweiniad Edward Walker (William Hurt) mae criw o bobl wedi troi eu cefn ar fateroliaeth cymdeithas y trefi gan greu pentref iddyn nhw eu hunain yng nghanol coedwig sy'n gartref i ellyllon brwnt a ffiaidd y cyfeiria'r pentrefwyr atynt, yn eu ieithwedd hynafol, fel "Y Rhai hynny nad Ydym yn Sôn Amdanynt - Those of whom we do not speak".
Eglurir yn fuan yn y ffilm fod dealltwriaeth rhwng angenfilod y goedwig a'r pentrefwyr: "Dydy ni ddim yn mynd i'w coed hwy a dydyn nhw ddim yn dod i'n pentref ni."
Fodd bynnag, liw nos clywir synau codi ofn rhwng brigau'r coed ac mae'r pentrefwyr yn offrymu bwyd a rhoddion i dawelu'r creaduriaid y mae arnynt gymaint o'u hofn.
Yn ŵr ifanc mwy rhyfygus na'i gydbentrefwyr mae Lucius (Joaquin Phoenix) a'i fryd ar fentro drwy'r coed i un o'r trefi i geisio ffisig a all helpu'r pentrefwyr mewn cyfnod o salwch.
Mae hynny'n cyffroi'r creaduriaid sy'n ail-ddechrau ymweld â'r pentref a bygwth y pentrefwyr.
Fodd bynnag, wedi i Lucius gael ei anafu gorfodir ei gariad ddall, Ivy (Bryce Dallas Howard), merch Walker, i fentro i'r goedwig er mwyn achub ei darpar ŵr.
Bydd y rhai hynny sy'n gyfarwydd â ffilmiau Shyamalan yn disgwyl tro yng nghynffon y stori wrth gwrs ac y mae dau ohonyn nhw ond y rheini yn rhai y dywed pob un o'r adolygwyr ffilm eu bod wedi eu rhagweld!
Y canlyniad Nid ffilm a'i gwynt yn ei dwrn mo hon. Yn null Shyamalan ffilm sy'n mudlosgi yn hytrach na fflamio yw hon gyda'r pwyslais ar dyndra disgwyl yr ofnadwy ac ofn o'r anwybod.
Dydi The Village ddim yn ffilm heb ei hystrydebau gan gynnwys y ferch ddall sy'n 'gweld' mwy na'i chyd bentrefwyr sydd â'r gallu ganddynt i weled.
Ac i godi gwên, mae yma ynfytyn y pentref.
Mae'r Village hefyd yn gyforiog - byddai rhai yn dweud, yn drymlwythog - o alegorïau a hynny, mewn gwirionedd, yn ychwanegu at y mwynhad: Awgrymir parodi o grefydd ffurfiol gyda rhai o'r pentrefwyr yn gwisgo mewn dillad mynachol, yn cynnal defodau ac yn cynnig 'offrwm' i dawelu'r creaduriaid yn y coed.
Ac ni ellir osgoi'r cwestiwn, ai ffrwyth dychymyg dyn yw ei 'dduwiau'.
Yn barod, bu rhai yn dehongli'r ffilm yng nghyswllt 9/11 gyda'r cwestiwn a all dyn drwy ynysu ei hun, ei ddiogelu ei hun rhag drygau'r byd?
"Gallwch redeg oddi wrth dristwch ond fe ddaw o hyd ichi . . . gall eich harogli," meddai un o'r cymeriadau gan ychwanegu fod y drwg bob amser yn ein plith er gwaethaf popeth a wnawn i geisio amddiffyn ein hunain rhagddo.
Pe na byddai dim arall, mae yma ddigon i gnoi cil arno wrth inni faglu ar draws delweddau ac alegorïau.
Ac yn cynnal y cyfan y mae athrylith cynnal tyndra Shyamalan.
Y darnau gorau Ivy ddall yn disgwyl ei chariad yn nrws ei thÅ· tra bo creaduriaid y coed yn cerdded y pentref.
Yr ymosodiad gyda chyllell ar Lucius.
Y pydew a'r ymosodiad ar Ivy yn y coed.
Perfformiadau Heb os, Bryce Dallas Howard yw'r seren ond mae William Hurt yn argyhoeddi fel arweinydd henaduriaid y pentref - llais gwych.
Mae Sigourney Weaver, fodd bynnag, yn cael ei gwastraffu.
Cystal â'r trelar? Yn well os rhywbeth gan fod hwnnw'n rhoi'r argraff mai arswyd amrwd yn nhraddodiad arferol y gyllell a'r gwaed yw'r arlwy.
Ambell i farn Er mai cymysg fu'r ymateb mae barn eithaf gyffredin ymhlith yr adolygwyr i Shyamalan chwarae tric yn ormod ar y gynulleidfa y tro hwn gyda'r ddau dro yng nghynffon y stori - ac mae'n syndod faint ohonyn nhw sy'n dweud iddyn nhw weld y diwedd cyn bo'r cyfarwyddwr yn barod
Ond mae yna eithaf cytundeb hefyd bod The Village yn rhagorol o ran cynnal tyndra ac y mae canmoliaeth gyffredinol i'r prif actorion, yn arbennig Bryce Dallas Howard y rhagwelir dyfodol disglair iawn iddi yn Hollywood.Disgrifia gwefan y Â鶹Éç y ffilm fel cyfuniad o Biwritaniaeth ormesol The Crucible (dehongliad Arthur Miller o hela gwrachod Salem) ac ofn dibaid Rosemary's Baby. Ond ychwanegir bod y ffilm yn gofyn mwy o gwestiynau nag a atebir.
Cwyna beirniad arall nad yw The Village nac yn wir arswyd nac yn ddrama afaelgar ond dric sy'n cael ei chwarae ar gynulleidfa.
Ar y llaw arall mae'r ffilm yn cael ei disgrifio fel un sy'n meddwl gyda'i phen yn hytrach na'i waled gan Mark Kermode yn y New Staesman sy'n rhybuddio y gall brofi'n rhy araf a meddylgar i rai.
Dywed Marke Steyn yn y Spectator fod y troadau yn y stori yn difetha'r ffilm.
Perthnasol Mae Bryce Dallas Howard yn ferch i'r cyfarwyddwr, Ron Howard
Rhesymegol? Er ei bod yn hawdd ymgolli yn y ffilm cawn ein taro wrth feddwl yn ôl gymaint o bethau nad oeddan nhw'n dal dŵr oedd ynddi. Ond hyd yn oed wedyn, mae'n cynnig digon inni faddau'r diffygion hynny.
Gwerth mynd i'w gweld? Er gwaethaf pob gwahaniaeth barn ynglŷn â llwyddiant y ffilm mae eithaf cytundeb ei bod hi werth mynd i weld offrwm diweddaraf Shyamalan.
Ond mae lle i holi a oes digon yn y ffilm i gynnal diddordeb rhai 12 oed - yn enwedig y rhai hynny ohonyn nhw a welodd y trelar.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|