Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

Â鶹Éç Homepage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


Munich (2006)
Wedi'r lladd - lladd

15

Pedair seren allan o bump

Y sêr
Eric Bana, Daniel Craig, Ciarán Hinds, Mathieu Kassovitz, Geoffrey Rush

Cyfarwyddo
Steven Spielberg

Sgrifennu
Eric Roth, Tony Kushner

Hyd
164 munud

Sut ffilm
Ffilm ddial a "ysbrydolwyd gan ddigwyddiadau go iawn" cyflafan Gemau Olympaidd Munich 1972 lle lladdwyd athletwyr Israelaidd a herwgipiwyd gan derfysgwyr Palesteinaidd Medi Ddu - Black September.

"Ffilm y bu'n rhaid imi ei gwneud," meddai Steven Spielberg mewn cyfweliad diweddar. Fe'i disgrifiodd hefyd fel, "Gweddi dros heddwch".

Ffilm i gymryd ei lle ochr yn ochr â Schindler's List. Honno yn ymwneud â'r Holocost a hon yn awr ym ymwneud ag amddiffyniad yr Iddewon o wladwriaeth Israel a'u gwrthdaro â'r Palesteiniaid.

Y stori
Mae'r ffilm yn dilyn ymgyrch Iddew ifanc Avner (Eric Bana) sy'n ymddeol o Mossad ar gais yr awdurdodau er mwyn arwain ymgyrch swyddogol answyddogol i ddarganfod ac i ladd ar ran Llywodraeth ei wlad y terfysgwyr Palesteinaidd a fu'n gyfrifol am gyflafan Gemau Olympaidd Munich, 1972.

Ond yn dilyn cychwyn llwyddiannus Avner a'i griw (Daniel Craig, Ciaran Hinds a Mathieu Kassovitz) mae'r dienyddiwr yn cael ei orfodi i holi ei hun ynglÅ·n ag effeithiolrwydd a moesoldeb y math hwn o weithredu wrth i derfysgwyr newydd gymryd lle y rhai a laddwyd.

Buan iawn y mae'n cael ei ysu gan y cwestiwn a all gweithredu o'r fath gynnig unrhyw ateb rhesymol yn hytrach na bwydo fflamau coelcerth sydd eisoes allan o reolaeth.

Ond mae'r gyfundrefn Israelaidd o'r farn mai'r unig ateb i drais yw dialedd yr un mor dreisiol.
"Fe ddaw yr holl waed yma yn ôl atom," ofna Avner.
"Yn y diwedd fe fydd yn llwyddo," medd un o'i feistradoedd.

Problem oesol y rhai sy'n byw gyda'r cledd.

Y canlyniad
Ffilm afaelgar llawn tyndra a chyffro - ac ni fyddai rhywun yn disgwyl dim llai gan Speilberg.

Ond mae'r geiriau "Wedi ei hysbrydoli gan ddigwyddiadau go iawn" yn peri yr un trafferthion ag y maen nhw bob amser.

Yn wir, yn hytrach na chryfhau statws ffilm yr hyn y mae'r geiriau hyn yn ei wneud bob amser yw cymylu popeth gan ei gwneud yn amhosib i gynulleidfa wahaniaethu rhwng y gwir a'r gau.

Yn ddieithriad, yr hyn mae'r geiriau hyn yn ei ganiatáu yw rhwydd hynt i gyfarwyddwr ymddangos fel hanesydd heb orfod poeni o gwbl a fydd ei ffeithiau yn gywir neu beidio.

Yn yr achos hwn mae'n sicr yn wir i 11 o athletwyr Israel gael eu herwgipio ac mae'r un mor wir i waed gael ei dywallt oherwydd blerwch yr awdurdodau Almaenaidd ond gall yr hyn a ddarlunnir wedyn ynglÅ·n ag Avner a'i griw fod yn gymaint gwirionedd neu yn gymaint ffrwyth dychymyg ag y dymuna Spielberg iddo fod er mwyn cyflawni'i ddyletswydd o greu ffilm afaelgar y bydd pobl am ei gwylio.

Drwg sefyllfa o'r fath yw y bydd cynulleidfaoedd yn llyncu'r cyfan fel ffeithiau hanesyddol ond y cyfarwyddwr heb unrhyw gyfrifoldeb i sicrhau'r gwirionedd.

Bid a bo hynny; cyn belled ag y mae techneg creu ffilm yn bod mae Spielberg yn llwyddo'n well gyda Munich na chydag ambell un o'i ffilmiau diweddar. Mae Munich yn afaelgar, yn gyffrous ac yn codi cwestiynau athronyddol a moesol pwysig ynglŷn â therfysgaeth ryngwladol, hawliau gwlad i'w hamddiffyn ei hun a sut i ymateb i derfysgaeth.

Ond y cyfan o fewn gweledigaeth Hollywood o'r byd - ac yn y pen draw y dialwyr yw 'arwyr' Munich a chyda hwy y mae disgwyl i gydymdeimlad y gynulleidfa fod pa bynnag wrthddadleuon sy'n cael eu gwyntyllu.

Cymeriad i gydymdeimlo ag ef yw Avner - y lladdwr oer sy'n fawr ei gariad at ei wraig a'i faban.

Perfformiadau

  • Yn olygus â phresenoldeb cryf mae Eric Bana y cydio fel gŵr a thad sydd hefyd yn arweinydd criw o ddienyddwyr brith.
  • Mewn ffilm heb unrhyw berfformiad sâl gan neb mae sawl actor yn gofiadwy hefyd - Geoffrey Rush fel yr asiant llywodraeth, Ephraim er enghraifft.
  • O safbwynt drama mae amrywiaeth dda o 'gymeriadau' yng nghriw Avner: Steve y De Affricanwr (Daniel Craig); Robert, y cyn wneuthurwr teganau sy'n awr yn creu bomiau (Matthieu Kassovitz); Carl ddryslyd (Ciaran Hinds) a Hans oeraidd, broffesiynol (Hans Zischler).
  • Yn bwydo'r Israeliaid â gwybodaeth mae un o ddynion yr isfyd rhyngwladol, Louis (Mathieu Amalric) a'i dad - barwn gwledig Ffrengig sy'n cael ei chwarae'n rhagorol gan Michael Lonsdale.

    Gystal â'r trelar?
    Ydi.

    Ambell i farn
    Ac yntau'n bwnc mor astrus nid yw'n syndod fod tuedd i'r ymateb fod yn eithafol.
    Yn y ddadl rhwng Israeliaid â Phalesteiniaid anodd iawn dod o hyd i neb sy'n gwbl gytbwys ei farn ac y mae Spielberg wedi ennyn dig Israeliaid - sy'n ei gyhuddo o fod yn fradwr - a Phalesteiniaid fel ei gilydd.
  • Yn yr Unol Daleithiau galwodd Cyfundrefn Seionistiaidd America am i bobl osgoi'r ffilm yn gyfan gwbl.
  • Achosodd y ffilm wewyr yn yr Almaen hefyd oherwydd ensyniadau i'r Almaen gawlio'r ymateb i ddigwyddiadau Gemau Olympaidd 1972. Teimlai rhai ei bod yn annheg codi'r grachen honno ar yr union adeg y mae'r Almaen ar drothwy llwyfannu gornest chwaraeon fawr arall - gemau pêl-droed Cwpan y Byd.
  • Mae'r rhai hynny sydd wedi medru edrych ar Munich fel ffilm yn unig, fodd bynnag, wedi eu plesio gan yr arddangosfa bellach hon o ddoniau Spielberg gan fod Munich yn wead tynn sy'n trin yn ddeheuig holl elfennau ffilmiau cyffro ac ysbio gyda sawl adlais o ragoriaethau'r hen feistr tyndra hwnnw, Hitchcock.

    Gwerth ei gweld?
    Nid yn unig o safbwynt bod yn ffilm gyffro ragorol ond fel sbardun i wyntyllu trafodaeth ynglÅ·n ag effeithiolrwydd ac egwyddorion moesol cynnal ymgyrchoedd gwleidyddol trwy ladd a thrais.


  • Cymraeg
    A Way of Life
    Big Nothing (2006)
    Cannes
    Cwcw (2008)
    Cymru Ddu - y gyfres deledu
    Cymru Fach (2008)
    Ffilmiau Cymru ddoe
    Ffilmiau Steddfod
    Gavin and Stacey
    Gwobr i ffilm ganpunt
    Gwyl Fflics 2007
    Gŵyl Cymru Ddu
    Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
    Hope Eternal
    Martha Jac a Sianco - y ffilm
    Mela
    Milltir sgwar arwyr ffilm
    Oed yr Addewid
    Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
    Pobl ifainc yn mentro
    Powerless
    Powerless
    Shorts in Colour
    Siôn a Siân
    Sleep Furiously
    Snow Cake
    Spiderman Cymraeg
    The Edge of Love
    The Edge of Love
    Y Lleill
    Yr Ymwelydd
    Zan Boko
    £500,000 i animeiddio
    cyffro
    '1408' (2007)
    'Rush Hour 3' (2007)
    'We Own The Night' (2007)
    Die Hard 4.0 (2007)
    Déjà Vu (2006)
    30 Days of Night (2007)
    4: Rise of the Silver Surfer (2007)
    Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
    Around the World in 80 Days
    Assault on Precinct 13
    Australia
    Batman Begins
    Beowulf
    Blood Diamond
    Casino Royale
    Casino Royale
    Casino Royale (2006)
    Casino Royale 2006
    Cellular
    Changeling (2008)
    Children of Men (2006)
    Derailed
    Eastern Promises
    Eastern Promises (2007)
    Fantastic Four
    Fracture (2007)
    Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
    History of Violence
    Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
    Iron Man (2008)
    King Arthur
    King Kong - 2005
    Mission Impossible III (2006)
    National Treasure
    No Country for Old Men (2008)
    No Country for Old Men (2008)
    Ocean's 13
    Ocean's 13 (2007)
    Ocean's Twelve
    Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
    Rambo (2008)
    Red Eye
    Sahara
    Saw II
    Serenity
    Severance (2006)
    Shooter (2007)
    Spider-Man 2
    Spider-Man 3 (2007)
    Star Wars III
    Stormbreaker (2006)
    Superman Returns (2006)
    The Bourne Ultimatum
    The Da Vinci Code (2006)
    The Dark Knight
    The Day After Tomorrow
    The Departed (2006)
    The Golden Compass (2007)
    The Golden Compass (2007)
    The Incredible Hulk (2008)
    The Incredibles
    The Interpreter
    The Kingdom (2007)
    The Legend of Zorro
    The Matador
    The Omen 2006
    Thunderbirds
    Transformers (2007)
    Van Helsing
    Walking Tall
    War (2007)
    White Noise
    comedi
    'Mr Woodcock' (2007)
    Fred Claus (2007)
    St Trinian's (2008)
    A Good Year (2006)
    Bee Movie (2007)
    Bewitched
    Borat:
    Bridget Jones - The Edge of Reason
    Charlie and the Chocolate Factory
    Choke (2008)
    Christmas with the Kranks
    Evan Almighty (2007)
    Evan Almighty(2007)
    Forgetting Sarah Marshall (2008)
    Four Christmases - 2008
    Good Luck Chuck (2007)
    Hairspray
    Herbie: Fully Loaded
    Hitch
    Hot Fuzz (2007)
    I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
    Just Like Heaven (2005)
    Just My Luck (2006)
    Knocked Up (2007)
    Mean Girls
    Meet the Fockers
    Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
    Monster in Law
    Mr & Mrs Smith
    Mr Bean 2007
    Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
    Nacho Libre (2006)
    Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
    PS I Love You (2008)
    Prime (2006)
    RV: Runaway Vacation (2006)
    Ratatouille
    Robots
    Run, Fat Boy, Run (2007)
    Scooby Doo 2 :
    Shark Tale
    Shrek 2
    Shrek 3
    Slither (2006)
    St Trinian's
    St Trinian's (2008)
    Superbad (2007)
    Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
    The Devil Wears Prada
    The Dukes of Hazzard
    The Good Night (2008)
    The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
    The Nanny Diaries (2007)
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie (2007)
    The Simpsons Movie (2007)
    Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
    Wedding Crashers
    Wedding Crashers
    Wedding Date
    Wild Hogs (2007)
    You, Me and Dupree (2006)
    drama
    Abraham's Point (2008)
    Alexander
    Alfie
    Alpha Dog (2007)
    Amazing Grace (2007)
    American Gangster (2007)
    Apocalypto (2007)
    Atonement (2007)
    August Rush
    Babel (2007)
    Basic Instinct 2 (2006)
    Bullet Boy
    Burn After Reading
    Charlie Wilson's War (2008)
    Charlie Wilson's War (2008)
    Che: Part One - 2008
    Collateral
    Crash
    Down in the Valley
    Dreamgirls (2007)
    Elizabeth: The Golden Age (2007)
    Fahrenheit 9/11
    Finding Neverland
    Five Children and It
    Gandhi My Father (2007)
    Good Bye Lenin (2003)
    Harsh Times (2006)
    Howl's Moving Castle
    Hunger (2008)
    I Am Legend (2007)
    I am Legend
    In Bruges (2008)
    In Good Company
    In Prison My Whole Life
    In the Valley of Elah (2008)
    Into the Wild
    Jarhead (2006)
    Jindabyne (2007)
    Kingdom of Heaven
    La Vie en Rose
    Ladies in Lavender
    Lassie (2005)
    Layer Cake
    Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
    Lions For Lambs (2007)
    Lost in Translation
    Lust, Caution (2008)
    Lust, Caution (2008)
    Maria Full of Grace
    Million Dollar Baby
    Miss Potter (2007)
    Munich (2006)
    Oliver Twist
    Open Water
    PS I Love You (2008)
    Premonition (2007)
    Rendition
    Rescue Dawn (2007)
    Rocky Balboa (2007)
    Snowcake (2006)
    Spanglish
    Take the Lead (2006)
    Taliesin Jones
    The Assassination of Jesse James
    The Bourne Supremacy
    The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
    The Chronicles Of Narnia (2005)
    The Constant Gardener
    The Duchess
    The Edge of Love (2008)
    The Exorcism of Emily Rose
    The Illusionist (2007)
    The Lake House
    The Lake House (2006)
    The Last King of Scotland (2007)
    The Libertine
    The Motorcycle Diaries
    The Only Clown in the Village
    The Painted Veil
    The Phantom of the Opera
    The Polar Express
    The Terminal
    The Village
    The Wicker Man (2006)
    United 93 (2006)
    V for Vendetta
    Vera Drake
    W (2008)
    War of the Worlds
    Zodiac
    erthyglau
    'Tad' y Phantom
    Academi Sgrîn Cymru
    Alex Rose
    Cymru Wyddelig Ford
    Der Untergang
    Ffilmio da Demi
    Gwobr i briodferch
    Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
    Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
    Harry Potter and the Order of the Phoenix
    Holi Matthew Rhys
    Hope Eternal (2008)
    Ioan Gruffudd
    Ioan Gruffudd
    John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
    Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
    Prinder ffilmiau Cymraeg
    Tystysgrifau ffilm
    Yn yr Oscars


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý