The Bourne Ultimatum Tri allan o dri i'r drydedd
Y sêr Matt Damon, David Strathairn, Julia Stiles, Joan Allen, Paddy Considine.
Cyfarwyddo Paul Greengrass.
Sgrifennu Tony Gilroy, Scott Burns.
Hyd 115 munud
Adolygiad Shaun Ablett
Nid oes llawer o ffilmiau sy'n esgor yn llwyddiannus ar ail ffilm ac wedyn trydedd ffilm.
Enghreifftiau nodedig ydi Pirates of the Caribbean a SpiderMan.
Roedd pawb yn hoffi'r ffilm gyntaf, yn caru'r ail un ond erbyn y drydedd, pawb wedi colli diddordeb.
Dyna dybiwn innau wrth fynd i weld The Bourne Ultimatum - y drydedd yn y gyfres honno. Ond fe es i allan o'r sinema yn teimlo fel prynu tocyn arall i'w gwylio hi eto.
Heb os, dyma ffilm orau'r haf os nad y flwyddyn.
Mae Jason Bourne nôl fel y dyn arferai fod yn llofrudd i'r CIA yn America ond ar ôl colli ei gof yn teithio'r byd yn chwilio am wybodaeth am ei fywyd - ac yn cael ei dargedu gan y CIA yr un pryd.
Man cychwyn y ffilm yw Paris lle mae Bourne yn mynd i ddweud wrth frawd Marie, ei ffrind yn y ddwy ffilm gyntaf, iddi hi gael ei lladd.
Wedyn, mae Bourne yn Llundain yn chwilio am newyddiadurwr sydd wedi ysgrifennu erthygl amdano ond a hwnnw dan wyliadwriaeth y CIA mae golygfa gyffrous lle mae Bourne yn ceisio cael y newyddiadurwr allan o orsaf drenau cyn i lofrudd o'r CIA ei ladd.
Mae'r stori yn gwibio o un lle i'r llall wrth i Bourne ddarganfod rhagor o wybodaeth am ei fywyd a'i ran gyda'r CIA.
Ar ddiwedd y ffilm, ac yntau'n cael ei ddilyn gan y rhai â'i perswadiodd i fod yn llofrudd, mae Bourne yn neidio i'r afon, a phawb yn meddwl iddo farw ond cyn diwedd y ffilm gwelir corff Bourne yn ymsymud a hynny'n cynnau'r gobaith am ffilm arall!
Mae'r actorion o'r ddwy ffilm gyntaf i gyd nôl ar gyfer y drydedd a chawn berfformiad rhagorol gan bob un gyda Matt Damon yn ardderchog fel y prif gymeriad.
Cymeradwyaeth i David Strathairn a Joan Allen hefyd ond yn fy marn i, Paddy Considine, sy'n chwarae'r newyddiadurwr, yw'r cymeriad gorau yn y ffilm fel rhywun sydd wedi cael ei tdaflu mewn i'r byd peryglus yma heb yn wybod ac mewn penbleth beth sydd orau i'w wneud.
Gwnaed y ffilm mewn ffordd glyfar iawn gyda chyffro ym mron bob golygfa.
Y rhan orau o'r ffilm yw Bourne a'r newyddiadurwr yng ngorsaf Waterloo yn diflannu rhag y CIA a dynion arfog ar eu gwarthaf.
Ffilm gwerth ei gwylio.
Cyhoeddir yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut y gallwch ennill £30 am ysgrifennu - Cliciwch
|
|