Milltir sgwar arwyr ffilm Arwyr ffilm ardal Llanelli a Phorth Talbot - ac ambell i Gog!
Y mae ardal yng Nghymru sydd wedi cynhyrchu pump o actorion sydd, rhyngddyn nhw, wedi cael eu henwebu am Oscar 14 o weithiau. Ac mae tri ohonyn nhw wedi ennill y brif wobr hon ym myd ffilmiau.
Yn y filltir sgwar dalentog hon rhwng Llanelli a Phorth Talbot y ganwyd Ray%20Milland - Reginald Alfred Truscott-Jones wrth ei enw go iawn! - Richard Burton, Rachel Roberts, Anthony Hopkins a Catherine Zeta Jones y bu Tomos Morse, a fu'n astudio ffilm yn yr Unol Daleithiau, yn sôn amdanynt ar raglen radio Rebeca Jones fore Llun 25 Chwefror 2008.
Ray%20Milland, meddai, oedd y person cyntaf o Gymru i ennill Oscar. "Cafodd un enwebiad ac fe enillodd e nôl yn 1945 am y ffilm, The Lost Weekend lle'r oedd e'n chwarae rhan alcoholig," meddai.
"Wedyn, cafodd Richard Burton saith enwebiad ond erioed wedi ennill.
Rachel Roberts o Lanelli wedyn wedi cael ei henwebu unwaith.
Anthony Hopkins wedi cael pedwar enwebiad ac wedi ennill unwaith a
Catherine Zeta Jones wedi cael un enwebiad ac wedi ennill hefyd."
Pobl eu hardal Y cwestiwn wedyn oedd; Sut y sicrhaodd ardal mor fechan gymaint o enwau mawr?
"Mae'n ardal lle'r oedd lot o ddiwydiant lle'r oedd hi'n rhyw fath o ryddhad i bobl wneud rhywbeth gwahanol a beth oedd angen oedd tiwtoriaid fel y cafodd Richard Burton yn Philip Burton.
"Wedyn roedd Rachel Roberts a dylanwad mawr o'r capel felly roedd y theatrics yna'n barod iddi hi.
"Anthony Hopkins yn fab i bobydd a Catherine Zeta, wel rwy jyst yn credu mai song and dance girl yw hi.
"Felly does dim unrhyw fath o batrwm ond mae'n ardal ddiwydiannol a dwi'n credu o ran cefndir mai Richard Burton â'i cafodd hi galetaf.
Ac ef enillodd fwyaf [o enwebiadau] a dwi'n credu ei bod yn annheg iawn ei fod wedi colli allan ar Oscar," meddai Tomos Morse.
Dal i godi actorion Am Port Talbot dywedodd bod yr ardal yn dal i godi actorion:
"Michael Sheen, nawr - ac o fewn blwyddyn rwy'n credu y bydd ef wedi ennill Oscar achos mae yna ffilm mas yna ar hyn o bryd - Frost Nixon - am y cyfweliad enwog rhwng David Frost a Richard Nixon.
"Ac ef sy'n chwarae rhan David Frost sy'n rhan y byddai pob actor yn dwli ei chael ac rwy'n credu erbyn y flwyddyn nesaf y byddwn yn ei weld e'n cael enwebiad am y rhan yna," meddai.
Nid Cymry Yng ngolwg y byd, fodd bynnag, dywedodd mai'r duedd yw i ystyried yr actorion rhyngwladol hyn nid yn Gymry ond yn "English actors"
"Yn yr America mae eich bod yn Gymro yn cael ei golli," meddai.
Fodd bynnag, dywedodd bod y sefyllfa'n wahanol yng nghyd-destun ffilmiau o Brydain yn y pedwar a'r pum degau.
"Roedd actorion fel Mervyn Johns a Meredith Edwards yn gallu actio fel Cymry.
Meredith Edwards "Meredith Edwards yn actio rhan plismyn, postmyn, pobyddion, beth bynnag - ond roedd e bob tro'n Gymro ac yn sticio geiriau Cymraeg i mewn oherwydd roedd e'n i weld fel llwyfan i bwsio'r Gymraeg . . . [ac yn] The Long Arm lle mae'n edrych ar ôl garej a'r plismyn yn moyn gweld ei log book ac roedd e'n siarad Saesneg nes cyrraedd y log book ac yn [darllen], 'Dydd Sul' [wedyn]," meddai.
Yn y ffilm Dunkirk wedyn geiriau Cymraeg oedd rhai olaf y milwr clwyfedig a chwaraeodd.
Hugh Griffith Cyfeiriodd at Hugh Griffith hefyd yn siarad Cymraeg - gyda'r ceffylau yn y ffilm Ben Hur lle'r enillodd Oscar am ei ran fel y Sheik.
Yn ôl yr hanes pan ofynnwyd iddo "siarad rywbeth yn debyg i Arabeg" dewisodd siarad Cymraeg yn ôl Tomos Morse a hynny'n peri i'r rhai o gwmpas dybio fod ganddo Arabeg!
Ychwanegodd Tomos Morse fod y Pumdegau a'r Chwedegau yn gyfnod eithaf cryf i actorion o Gymru gydag action fel Stanley Baker, Hugh Griffith, Kenneth Griffith a Richard Burton, Ray Milliand, Clifford Evans a Rachel Roberts.
Y dyfodol
"Wedyn bu yna gyfnod pan nad oedd dim cymaint o dalent yn dod allan o Gymru.
"Efalle mai'r unig un oedd Anthony Hopkins - ond yn awr mae gennym ni Rhys Evans, Michael Sheen, Matthew Rhys a dwi hyd yn oed yn meddwl fod Rob Brydon - bachan arall o Bort Talbot - yn mynd i'w gwneud hi fel actor comic; Ioan Gruffudd wrth gwrs, Catherine Zeta Jones - ac mae yna bobl fel Owain Yeoman . . .
"[Felly] mae yna dalent yn dod o'r ochr Gymraeg o hyd ac fel roedd Clifford Evans yn dweud [mae'n] bwysig fod actorion yn mynd allan o Gymru i gael profiad ac wedyn dod yn ôl a dwi'n credu fod hwnna'n bwysig a dwi'n credu hefyd fod angen lledaenu y Cymreictod yma allan o Gymru hefyd," meddai Tomos Morse.
Cysylltiadau Perthnasol
|
|