Lions For Lambs (2007) Adolygiad gan Shaun Ablett
Y Sêr:
Tom Cruise, Meryl Streep, Robert Redford, Andrew Garfield, Michael Pena, Derek Luke
Cyfarwyddo:
Robert Redford
Sgrifennu:
Matthew Michael Carnahan
Hyd:
92 munud
Ffilm boliticaidd yw hôn yn beirniadu ymateb llywodraeth America i'r rhyfela yn Irac a gwledydd eraill ar draws y byd.
Mae gan y Seneddwr Jasper Irving (Tom Cruise) gynllun newydd i gael gwared â'r Taliban yn Afghanistan am byth ac mae'n gofyn i newyddiadurwr, Janine Roth (Meryl Streep), gyhoeddi gwybodaeth am y cynllun.
Nid yw hi'n hapus iawn â'r cynllun - ac ar ben hynny nid yw'n hoffi meddwl ei bod yn cael ei defnyddio i ledaenu bropaganda.
Mae'r rhan arall o'r ffilm yn ymwneud â dau fyfyriwr (Michael Pena a Derek Luke) sy'n gobeithio gwneud rhywbeth gwerth chweil â'u bywydau ac felly'n ymuno â'r fyddin i ymladd yn Afghanistan.
Mae athro coleg y ddau (Robert Redford) yn eu defnyddio fel rhyw fath o symbol i fyfyriwr arall diog sy'n methu gwneud ei waith.
Ar ddiwedd y ffilm, mae'r ddau fyfyriwr yn cael ei ladd gyda'i gilydd ac fe welwn ninnau nad yw cynllun y Seneddwr Irving yn un da o gwbl ond yn un a fydd yn achosi mwy o broblemau i'r milwyr.
Mae elfen wleidyddol gref iawn yn y ffilm a'r cymeriadau yn portreadu'n llwyddiannus iawn negeseuon pwysig.
O'r actorion enwog sy'n cymryd rhan Tom Cruise fel y Seneddwr Irving sy'n rhoi'r perfformiad gorau gan lwyddo i bwysleisio pa mor anodd yw hi yn y byd gwleidyddol a pha effaith a gaiff dewisiadau ar y wlad.
Mae'n cadarnhau fy hoffter o ffilmiau Tom Cruise ers iddo wneud y ffilm ardderchog The Last Samurai yn 2004.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|
|