Bee Movie (2007) Pigyn yn y colyn
Bee Movie (2007)
Y Sêr:
Jerry Seinfeld, Renee Zellweger, Matthew Broderick, Patrick Warburton, Chris RockJohn Cusack,
Cyfarwyddo:
Steve Hickner, Simon J. Smith
Sgrifennu:
Jerry Seinfeld, Spike Feresten, Barry Marder, Andy Robin
Hyd:
90 munud
Adolygiad Shaun Ablett
Mae bron i ddeng mlynedd ers i'r rhaglen deledu Seinfeld orffen a hithau y rhaglen enwocaf dros y byd ar y pryd.
Nawr, mae Jerry Seinfeld nôl at ei orau fel llais y prif gymeriad mewn ffilm newydd gan gwmni enwog Dreamworks - y a chyda Steven Speilberg wrth ei ochr, roeddwn yn gyffrous iawn yn mynd i weld y ffilm yma am wenynen o'r enw Barry B Benson (Jerry Seinfeld).
Mae Barry yn anhapus iawn gyda'i fywyd ac yn amharod iawn i dreulio'i holl ddyddiau yn gwneud dim ond casglu mêl fel mae e i fod.
Ac yntau heb erioed gadw at y rheolau mae'n gadael y cwch a'i fywyd yn newid am byth pan yw'n cwrdd â Vanessa (Renne Zellweger) sy'n tyfu blodau yn Efrog Newydd.
Ac mae'n gwneud rhywbeth nad oes gan wenynen yr hawl i'w wneud sef siarad â Vanessa.
Mae bywyd Barry yn newid am byth wrth i berthynas ôd ddatblygu rhwng y ddau.
Wrth i Barry ymweld â llefydd afreal iawn o'i safbwynt ef daw i ddeall sut mae pobl yn dwgyd y mêl mae pob gwenynen yn gweithio mor galed i'w gynhyrchu ac ar ben hynny yn gwneud arian o'r peth.
O ganlyniad mae Barry'n penderfynu mynd â dynoliaeth i lys.
Er yn ddwli mae'r ffilm hôn yn hynod o ddoniol hefyd gyda Seinfeld a Zellweger yn dda iawn ac fe fydd pawb yn adnabod llais Chris Rock fel y mosgito Moose Blood sy'n dod ag elfen arbennig o hiwmor i'r ffilm.
Ond, yn sicr, Jerry Seinfel yw'r rheswm y bydd y rhan fwyaf o bobl yn mynd i wylio'r ffilm hon sy'n mynd i blesio plant ac oedolion.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|
|