Transformers (2007) Pwy ond Spielberg?
Y Sêr:
Shia LaBeouf, Megan Fox, Josh Duhamel, Jon Voight, John Turturro
Cyfarwyddo:
Michael Bay
Sgrifennu:
Roberto Orci, Alex Kurtzman
Hyd:
143 munud
Adolygiad Shaun Ablett
Fel pawb dros y byd i gyd, cefais fy nghyffroi o wylio'r ffilm hon gan na wnaed un debyg iddi erioed o'r blaen.
Bu rhaglenni teledu am y transformers yn yr Wythdegau a gwnaed teganau gan gwmni Hasbro ond fe gymerodd ddyn fel Steven Spielberg i fod â digon o hyder i greu ffilm.
Ac unwaith eto mae Spielberg yn profi taw fe yw'r unig un yn y byd sy'n gwybod sut i greu ffilmiau rhagorol.
Mae'r ffilm yn dechrau mewn byd arall o'r enw Cybertron lle mae robotiaid wedi eu rhannu yn ddwy garfan, yr Autobotsa'r Decepticons.
Dinistriwyd Cybertron gan Megatron, (llais Hugo Weaving) rheolwr y Decepticons.
Dangosir wedyn sut y cyrhaeddodd Megatron ein byd ni, flynyddoedd yn ôl, a'i ddarganfod yn 1897; a sut, ers hynny, y cafodd y robot ei rewi a'i gadw mewn lleoliad enfawr a thra chyfrinachol o eiddo llywodraeth yr Unol Daleithiau.
Yn y presennol, mae'r ffilm yn canolbwyntio ar Sam Witwicky (Shia LaBeouf), bachgen cyffredin iawn sy'n ceisio creu argarff ar ferch bert iawn o'i ysgol, Mikaela (Megan Fox).
Ond er bod Sam yn gyffredin nid felly ei gar newydd sy'n un o'r autobots, o'r enw Bumblebee (llais Mark Ryan).
Cyn bo hir mae Sam yn sylweddoli hyn ac mae'r autobots eraill sy'n cynnwys y rheolwr, Optimus Prime (llais Peter Cullen) yn cyrraedd, ac yn egluro i Sam taw ei dad-cu ef a ddarganfu Megatron yr holl flynyddoedd yn ôl.
Ychwanegir mai'r sbectol hen y mae Sam wedi ceisio'i gwerthu yw'r unig obaith sydd gan ddynolryw i gael gwared â'r Decepticons.
Dyma ffilm orau'r flwyddyn i mi.
Mae'n cynnwys technoleg CGI ar ei gorau gan wneud y robotiaid mor realistig.
Mae'r frwydr rhwng Optimus Prime a Megatron ar y diwedd yn fythgofiadwy.
Hoffais berfformiad Shia LeBeouf fel y prif gymeriad gan iddo ddod ag elfen o hiwmor i'r ffilm a hynny'n dangos sut mae'r ffilm yn gymysgedd effeithiol o nifer o elfennau.
Ond yn sicr y transformers oedd y cymeriadau gorau a a hwy fydd pawb dros y byd yn eu cofio a hynny am yn hir iawn.
Nid yn unig byddwn yn annog pawb i weld y ffilm hon ond yn eu hannog i'w gwylio ar sgrin fawr mewn sinema gan fod hynny'n gwneud y cyfan yn fwy afreal.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|
|