Fu bod yn drist erioed gymaint o hwyl
Tachwedd , 2003
Ffilm gomig am dristwch ydy Siôn a Siân. Hi fydd ffilm ddydd Nadolig S4C eleni ac fe'i dangoswyd fel rhan o Wyl Sgrîn Caerdydd 2003.Pa mor fregus
Nid stori gariad dwt, ond ffilm am bobl, eu perthynas ag eraill ac yn edrych ar pa mor fregus y gall cyfeillgarwch a chariad fod. Mae'n stori gyda dau brif gymeriad. Mae Siôn (Jonathan Nefydd) a Siân (Janet Aethwy) yn nesau at eu pedwardegau, ac yn digalonni - Siân yn athrawes ddi-briod, yn byw mewn bloc o fflatiau yng Nghaerdydd a'i phen-blwydd mawr yn nesau a hithau'n dechrau teimlo'n desprét.
Siôn yw ei chymydog, "dros dro" meddai e. Mae'n gwrthod wynebu bod ei gynhyrchydd teledu o wraig wedi ei daflu allan o'u ty mawr crand ar gyrion y ddinas, a symud ei chariad newydd hanner ei hoedran i mewn ati.
Trio dal gafael
Mae'r plot - dau brif gymeriad yn trio dal gafael ar eu bywyd sy'n diflannu o flaen eu llygaid - yn cynnig digon o sgôp am gomedi.
Mae Jonathan Nefydd yn llwyddo i gynnal y gomedi yn arbennig o dda. O'r olygfa gyntaf lle mae'n hongian ar ffens yng ngardd ei wraig, i'r glasur o olygfa lle mae'r cymeriad Superted yn sownd mewn tacsi ar ei ffordd i barti gwisg ffansi.
Dyma enghraifft dda o slapstig heb fynd dros ben llestri, cymeriad cartwn hoffus ar y tu allan, a dyn gwallgo' yn ei bedwardegau yn cael panig ar y tu mewn.
Mor ffresh yw gweld golygfa fel hon sydd ddim yn gwneud i chi wingo, ac sy'n gweithio yn naturiol yn y Gymraeg.
Dydi'r ffilm drwyddi ddim yn nawddogi'r gwyliwr nac yn cynnig i ni yr hyn rydyn ni'n ei ddisgwyl bob amser - yn enwedig tua'r diwedd.
Cymeriadau eraill
Mae cymeriadau eraill yn y ffilm:Nia Roberts sydd yn chwarae Meinir (ffrind gorau Siân) a'i dyweddi, Harri (Rhydian Jones.)
Mae'r pâr yn cynnig gwrthgyferbyniad i Siôn a Siân ac yn cael eu portreadu yn realistig. Yma mae cenfigen yn dod i'r amlwg - a pha mor fregus y gall perthynas rhwng ffrindiau fod mewn gwirionedd (yn enwedig pan fo alcohol yn dod i mewn i'r cwestiwn!)
Ffilm go iawn
Mae'r ffilm yn un weledol iawn, a'r golygfeydd yn ymdebygu fwy fwy i ffilm go iawn yn hytrach na rhaglen deledu wrth iddi fynd yn ei blaen.
Defnyddiwyd elfennau pob dydd yn effeithiol - er enghraifft fflat Siôn mewn cymhariaeth i foethusrwydd ty ei wraig , a fflat ei gymdoges Siân.
Mae'r diwedd yn effeithiol - yn clymu gyda'r dechrau - a'r syniad o Siôn a Siân ( y cymeriadau tywydd) yn gweithio yn effeithiol, heb fod yn or amlwg.
Drama lwyfan
Addasiad o ddrama lwyfan a berfformiwyd yn wreiddiol dair blynedd ar ddeg yn ôl yw Siôn a Siân, ond addasodd yr awdur, Gareth F Williams, y stori yn ffilm gan greu'r cymeriadau ddegawd yn hynach ar gyfer y ffilm o'u cymharu â'r ddrama lwyfan.
Eryl Huw Phillips yw'r cynhyrchydd a Tim Lyn y Cyfarwyddwr.
Syniad da oedd creu ffilm o ddrama fel hon, gan ei bod yn haeddu cael ei harddangos i gynulleidfa mor eang â phosib.
Mae'n ymddangos na fu bod yn drist erioed yn gymaint o hwyl!
Dangoswyd Siôn a Siân fel rhan o Wyl Sgrîn Caerdydd, yng nghanolfan y Chapter yng Nghaerdydd, nos Sul, Tachwedd 16. Mi fydd hefyd yn ymddangos yn Chapter, Nos Iau, Tachwedd 20fed, am 5.00.