Fracture (2007) Steil, Hopkins a'r geiriau yn rhagori ar y stori
Fracture (2007)
Y sêr
Anthony Hopkins, Ryan Gosling, Rosamund Pike, Billy Burke, Embeth Davitz
Cyfarwyddo
Gregory Hoblit
Sgrifennu
Daniel Pyne, Glenn Gers.
Hyd
113 munud
Sut ffilm
Ffilm seicoleg gerbron llys sy'n meddwl ei bod yn llawer iawn gwell nad yw hi wrth i lofrudd a thwrnai chwarae gemau meddyliol a'i gilydd - ac Anthony Hopkins heb fod yn siwr ai Hannibal Lecter ynteu corrach Gwyddelig ydi o.
Y stori
Yn athrylith o beiriannydd awyrennau mae Ted Crawford (Anthony Hopkins) yn cynllwynio i ladd ei wraig anffyddlon.
Yn y llys daw wyneb yn wyneb â Willy Beachum (Ryan Gosling), twrnai ifanc, hyderus ac uchelgeisiol sydd ar drothwy gyrfa newydd ysblennydd ar sail ei lwyddiannau mewn achosion eraill.
Ond er cystal yw Willy buan y gwelir fod Crawford yn hen gadno cyfrwysach na'r disgwyl sydd wedi gweu cynllwyn sy'n baglu'r twrnai ac hyd yn oed fygwth ei berthynas newydd â thwrnai benywaidd brydweddol (Rosamund Pike).
A ddaw Willy o hyd i ffordd o'r we a nyddwyd gan Crawford?
A gaiff Crawford ei haeddiant?
Dim ond y sawl na fu erioed mewn pictiwrs sy'n gofyn pethau fel'na.
Y canlyniad
Y modd y mae Crawford yn chwarae mig mor ddeheuig â Willy a thanseilio ei hunanhyder digamsyniol sy'n gwneud y ffilm hon yn ddifyr yn hytrach na throadau - hynod ddisgwyledig - y stori.
O ran perfformiad canolog, cyfarwyddo, deialog a gwerthoedd cynhyrchu mae Fracture yn llawn steil ac mae'n drueni nad yw'r diwedd yn fwy annisgwyl ac yn cynnig mwy o syndod.
Gwelwyd y gair Hitchcockian yn cael ei ddefnyddio wrth sôn am hon ond dim ond anelu at hynny a wneir - heb daro'r nod.
Er y byddwch yn meddwl am Jagged Edge a Primal Fear dyw hon ddim yn cymharu â'r rheini mewn gwirionedd.
Perfformiadau Ffilm sy'n troi o amgylch Hopkins yw hon gyda'i gymysgedd o iasau Hannibalaidd sinistr bob yn ail â rhyw ddrygioni hoffus. Mae'r sibrwd bloesg, y llygaid oerion a'r winc chwareus yn cyfuno â'i gilydd nes gwneud ichi hanner dymuno llwyddiant i'w gynllwyn - wedi'r cyfan, roedd ei wraig yn anffyddlon ac mae Hopkins gymaint o hen gadno o acror ag yw Crawford o gymeriad!
Dim ond ychydig o gydymdeimlad y mae Gosling yn ei ennyn yn llygoden dan bawen chwareus Hopkins.
Rhyw ddim o ran yw un Rosamund Pike mewn stori garu wantan a diangen.
Darnau gorau Y golygfeydd llys - yn enwedig pan fo'r tir yn cael ei dynnu dan draed Willy.
Symudiadau'r peli ar hyd rigolau peiriannau cymhleth Crawford.
Ambell i farn Cwyno fod pob tro yn y stori yn rhy amlwg mae gwefan Saesneg y Â鶹Éç gan ychwanegu y gallwn, os yn blino ar y stori y gallwn ddewis o blith y dodrefn crand a welir!
Y geiriau highly enjoyable ac intelligent a ddefnyddir gan y Mirror gan ychwanegu mai Hopkins sy'n cael y llinellau gorau.
Enjoyable and silly yw barn y Guardian ond yr Observer yn mynd am "slic" a "rhy hir" gan ychwanegu:
"Watching that wily old gander Hopkinsn running rings around the confident young Gosling is a lot of fun."
Gwerth ei gweld?
Mae'r edrychiad da a sawl llinell gwerth chweil yn gwneud ichi anghofio breuder y plot.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|