The Chronicles Of Narnia (2005) Cynhesu at Wrach yr Eira
The Lion, The Witch And The Wardrobe
Y sêr
William Moseley, Skandar Keynes, Georgie Henley, Anna Popplewell, Tilda Swinton, Jim Broadbent, James McAvoy, James Cosmo, Kiran Shah, Patrick Kake, Elizabeth Hawthorne, Judy McIntosh a lleisiau Liam Neeson, Rupert Everett, Ray Winstone, Dawn French
Cyfarwyddo
Andrew Adamson
Sgrifennu
Ann Peacock, Andrew Adamson, Christopher Markus a Stephen McFeely
Hyd
140 munud
Sut ffilm
Addasiad "ffyddlon" fel maen nhw'n dweud o The Lion, The Witch and The Wardrobe y gyntaf o saith o nofelau am wlad Narnia gan C S Lewis - llenor ac ysgolhaig a drodd yn Gristion yn dilyn sgwrs drwy'r nos gyda JRR Tolkien pan oedd y ddau yn ysgolheigion yn Rhydychen.
Cyfuniad o actorion go iawn a graffeg cyfrifiadurol trawiadol.
Y stori
Wedi i Peter, Edmund, Susan a Lucy Pevensie (William Moseley, Skandar Keynes, Anna Popplewell a Georgie Henley) ddianc o Lundain i gefn gwlad rhag bomiau'r Ail Ryfel Byd maen nhw'n darganfod mewn hen faenordy fod cwpwrdd dillad yn fynedfa i wlad ddieithr a lledrithiol a elwir yn Narnia, lle mae hi'n aeaf parhaol "heb ddim Nadolig" diolch i ddylanwad Y Wrach Wen (Tilda Swinton).
Ymhen dim daw'r plant yn rhan o frwydr enbyd rhwng Da a Drwg ar ffurf Aslan, y llew (Liam Neeson) ar y naill law a'r Wrach ar y llaw arall.
Yn llawn chwerwedd o gael ei gadw dan fawd ei frawd hynaf mae Edmwnd yn bradychu'r brawd a'i chwiorydd i'r Wrach.
Canfyddir mai'r unig ffordd i achub Narnia yw i Aslan ddewr aberthu ei hun i'w boenydio a'i ladd gan y Wrach gan atgyfodi wedyn i waredu'r bobl.
Derbyniwyd dros y blynyddoedd mai alegori yw'r stori o aberth eithaf Crist yn caniatáu iddo'i hun gael ei groeshoelio er mwyn achub dynol ryw.
Y canlyniad Er i Lewis ei hun wadu'r syniad o alegori Gristnogol amrwd; mynd ati'n frwd ac yn ddeheuig i danlinellu'r alegori honno mae gwneuthurwyr y ffilm hon ac y mae sawl arwydd ei bod yn rhan o genhadaeth Gristnogol benodol gan Disney.
Gyda hynny mewn golwg penderfynwyd cadw'n ffyddlon at y gwaith llenyddol gwreiddiol o ran naratif ac awyrgylch.
I hyrwyddo'r genhadaeth dewiswyd y cyhoeddwr efengylaidd, Outreach i ledaenu'r neges Gristnogol sydd wrth wraidd y ffilm ymhlith eglwysi gwledydd Prydain.
Mae gwasanaeth crefyddol ar thema Narnia wedi ei lunio gan y Methodistiaid.
Ac yn ôl un papur newydd mae plwyf yng Nghaint yn rhannu gwerth £10,000 o docynnau ymhlith teuluoedd un rhiant - dan yr argraff, mae'n rhaid, y gallan nhw elwa mwy na neb arall ar wers Gristnogol!
Yn yr Unol Daleithiau bu'r mudiad efengylaidd, The Mission America Coalition, yn pwyso ar arweinwyr eglwysig i ddefnyddio'r ffilm fel "cyfle gweinidogaethu rhyfeddol".
Cefnogir ymgyrch i gael pob plentyn yn Nhalaith Florida i ddarllen llyfr Lewis gan Jeb Bush, brawd yr Arlywydd, sy'n rheolwr y dalaith.
Dim llawer o amheuaeth fan yna, felly, ynglŷn â phriodoleddau'r ffilm a'i gwerthoedd dyrchafol.
Yr hyn sy'n cael ei anghofio yw mai dim ond i rai sy'n gredinwyr yn barod y bydd alegori Lewis yn gwneud sens.
Ni fyddai eraill ddim callach ynglÅ·n ag aberth fawr yr Aslan/Crist ac athrawiaeth yr Iawn.
Y cyfan fyddan nhw'n chwilio amdano yw ffilm sy'n mynd i gipio'u dychymyg a'u gwefreiddio fel stori dylwyth teg ac ni fydd tröedigaeth Edmund yn dilyn pregeth lem yr atgyfodedig Aslan o ddim arwyddocâd grefyddol iddyn nhw - dim ond yn enghraifft o fachgen drwg yn dod at ei goed.
Yr hyn ddylai y rhai sy'n tybio y gall y ffilm fod yn arf er hyrwyddo Cristnogaeth ei gofio yw i Lewis sgrifennu ei lyfrau ar adeg pan oedd pobl yn gyffredinol yn llawer goleuach yn eu Beibl ac yn debycach o ddeall ergyd yr alegoreiddio.
Y darnau gorau
Y delweddau cyfrifiadurol - o gestyll rhew i frwydrau mawrion.
Perfformiadau Gan nad oes yma lawer o gymeriadau cryfion mae'n debyg mai'r ffawn, Tumnus (McAvoy) a'r Wrach Wen (Swinton) sydd fwyaf lliwgar. Ar wefan Saesneg y Â鶹Éç disgrifir ei pherfformiad hi fel darlun cyntefig effeithiol o Ddrwg.
Ystrydebol ydi Neeson fel y Llew - yn gryf ac yn gyhyrog o ran llais a chorff - yn anifail gyda'r mwyaf annhebyg i Grist yr oen.
Mae Dawn French, fodd bynnag, yn taro deuddeg fel yr Afanc. Ymhlith y plant mae rhywbeth yn wefreiddiol yn y rhyfeddod ar wyneb ac yn llygaid Lucy Pevensie (Georgie Henley) wrth iddi gyrraedd Narnia gyntaf.
Gystal â'r trelar?
Yn cyfleu'r awyrgylch a'r mawredd yn addas ddigon.
Ambell i farn
Am Narnia, dywedodd y nofelydd o Ddyffryn Ardudwy, Phiip Pullman, ei fod yn un o'r pethau "hyllaf, mwyaf gwenwynllyd" a ddarllenodd erioed.
Er mai sôn am y llyfrau yr oedd o nid oes amheuaeth na fydd rhai yn hel meddyliau tebyg am y ffilm hefyd ac yn gwaredu at ei chrefyddoldeb powld.
Mae eraill, fodd bynnag, yn barotach i dderbyn y ffilm fel stori antur seml yn troi o amgylch y frwydr oesol rhwng da a drwg gyda'r 'cowbois da' yn fuddugol yn y pen draw ac aberth bersonol yn rhinwedd.
Yn sicr mae mwy o ganmol nag o feirniadu ar Narnia gyda'r ganmoliaeth yn bennaf o safbwynt gwychder yr effeithiau a'r golygfeydd.
Hyd yn oed wedyn, cwynodd un adolygydd y byddai ef wedi disgwyl gwell gan gyfarwyddwr Shrek gan ddweud fod y cymeriadau eu hunain braidd yn llwyd.
Rhoddir pedair seren allan o bump i'r ffilm ar wefan Saesneg y Â鶹Éç gyda chymeradwyaeth arbennig i fawredd y golygfeydd. Dywed hefyd fod "gwedd sobreiddiol" i'r weledigaeth o farwolaeth ac aberth, gan ddisgrifio'r cyfanwaith fel "gwers mewn dewrder sy'n golchi i ffwrdd bob sinigiaeth."
Y gwaith gwreiddiol The Lion the Witch and the Wardrobe oedd y cyntaf o saith llyfr yng nghyfres Narnia gan C S Lewis. Gyda'i gilydd maen nhw wedi gwerthu 85 miliwn o gopiau mewn 29 o ieithoedd. Nes creu Harry Potter dyma'r gwerthiant gorau yn y byd!
Dywedodd Lewis - arbenigwr ar lenyddiaeth ganol oesol a Renaissance - mai man cychwyn straeon Narnia oedd "darlun yn fy meddwl o ffawn yn cario ymbarel a llyfrau mewn coedwig dan eira".
Er gwaethaf y dehongliad Cristnogol poblogaidd o TLTW&TW y cyfan a ddywedai Lewis ei hun oedd y dylid eu hystyried fel straeon aml-haenog gyda sawl ystyr ac y maen anodd cysoni Aslan waedlyd gyda Christ maddeugar y Testament Newydd.
Yr oedd yn gas gan Tolkien Narnia ac mae'n rhyfedd gweld y ffilm hon yn cael ei phedlera fel rhyw ail Lord of the Rings
Gwerth ei gweld?
Heb amheuaeth - pe na byddai ond ar gyfer y trafod wedyn.
Cysylltiadau Perthnasol
Aslan a king Kong - Wythnos o Feddwl
|
Gethin, Caerdydd Ffilm hollol wych! Ond rhaid i mi anghytuno ag un sylwad yn yr adolygiad: "Er i Lewis ei hun wadu'r syniad o alegori Gristnogol amrwd"- mae hwn yn wir ond nid yn y ffordd mae pobl yn meddwl- geiriau Lewis oedd "If Aslan represented the immaterial Deity in the same way in which Giant Despair represents Despair, he would be an allegorical figure. In reality however he is an invention giving an imaginary answer to the question "What might Christ become like, if there really were a world like Narnia and He chose to be incarnate and die and rise again in that world as He actually has done in ours?" This is not allegory at all."
Felly, mewn ffordd, mae'n fwy amrwd nag alegori.
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|