Y Van a'r lle. . .ar drywydd fampirod
Sut ffilm?
Lob sgows o bob math o ffilmiau arswyd. Pe byddai'n well ffilm gellid ei disgrifio fel 'teyrnged' i glasuron fel Dracula Tod Browning gyda Bela Lugosi, Frankenstein James Whale a myrdd o ffilmiau eraill 'clasurol' am sugnwyr gwaed, bleidd-ddynion a Jekyll a Hyde.Ond mae'n fwy o gowdel swnllyd nac o deyrnged gyda'r pwyslais ar ffrwydradau a sbloet o glyfrwch cyfrifiadurol yn hytrach na stori a thyndra.Y stori
Mae hi'n 1887 ym Mharis a Gabriel Van%20Helsing (Hugh Jackman mewn ymrafael yn eglwys Notre Dame â Mr Hyde (Robbie Coltrane), yr hanner gwallgof hwnnw o Dr Jekyll.
Toc wedyn, fel prif ddifawr anghenfilod y byd, mae'n cael ei anfon i Dransylfania i ladd Dracula (Richard Roxburgh) unwaith ac am byth yn y gred; os lleddir Dracula ei hun y bydd ei holl greadigaethaudieflig yn marw gydag ef.
Yno mae'r pen fampir mewn brwydr yn barod gyda difawraig leol, Anna Valerious (Kate Beckinsale) y mae ei brawd (Will Kemp) wedi ei droi yn Fleidd-ddyn trwy ymyrraeth Dracula sydd hefyd wedi sicrhau gwasanaeth Dr Frankenstein (Samuel West) a'i greadigaeth (Shuler Hensley).
Mae gan Dracula a Van%20Helsing was ffyddlon yr un, Igor (Kevin J. O'Connor) a Carl (David Wenham)
Mae Igor, wrth gwrs, yn ystum, hyll a cham ond Carl yn fynach ffraeth ac yn barodi amlwg ar Q yn y ffilmiau James Bond yn creu pob math o ddyfeisiadau ar gyfer ymgyrchoedd Van%20Helsing.A'i ddyfais ddiweddaraf yw bwa croes sy'n tanio gyda'r fath brydlondeb ag i wneud gynnau peiriant cyfoes ymddangos yn swrth..
Wedi cyrraedd Transylfania mae'n mynd yn un sgarmes ar ôl y llall rhwng lluoedd Drwg a Da - hyd at syrffed mewn gwirionedd wrth i'r syniad o stori a cymeriadu a chodi ofn ildio i bennod ar ôl pennod o gyffro swnllyd.
Y canlyniad
Twrw a swn gydag ambell i binsiad o hiwmor ond fawr o dyndra. Cyfuniad o ormod yn digwydd - a dim byd yn digwydd. Un disgrifiad fyddai "trydannol" - yn yr ystyr gwbl amlwg.
Y darnau gorau
Y fampirod yn troi'n llwch wrth farw.
Ymosodiad y fampirod newyddanedig.
Ymosodiadau ehedog priodferched Dracula - yn enwedig yr ymosodiad cyntaf.
Erlid y goets fawr.
Perfformiadau
Does neb yn gwneud rhyw argraff arbennig gan mai cymeriadau cwbl unochrog sydd yma. Yr unig ymdrech at greu cymeriad yw creadigaeth Frankenstein. Mae ganddo fo'i deimladau! Peiriant cyffro ydi Van%20Helsing ac er ei fod yr un enw a'r heliwr fampirod yn nofel wreiddiol Bram Stoker mae ei enw cyntaf wedi ei newid i Gabriel am rhyw reswm nas eglurir.
Yn sicr, dydio ddim mor ddiddorol a'r Abraham Van%20Helsing MD, DPh, DLitt a bortreadwyd gan rai fel Peter Cushing yn y gorffennol ac a allai wneud y gwaith yn iawn gyda dim ond croes a gewin o arlleg.
Er yn fywiog ac yn siapus iawn yn ei sodlau uchel dydi Beckinsale ychwaith ddim yn ennyn llawer o ddiddordeb fel cymeriad ond fe gafodd ei dewis yr wythnos hon yn actores brydferthaf Prydain.
Ambell i farn
"Swnllyd, balch a Hollywoodaidd iawn," meddai gwefan Saesneg y Â鶹Éç.
Ond "y blocbystar haf salaf ers Battlefield Earth," meddai beirniad arall.
A gwelodd un arall debygrwydd rhwng y ffilm ag anghenfil Frankenstein - yn gowdel o ffilmiau eraill wedi eu clymu wrth ei gilydd gyda thrydan a delweddau cyfrifiadurol.
Cysgod gwan o The Fearless Vampire Killers gan Polanski meddai'r Observer wrth gwyno nad oes gan y ffilm nac enaid, na hud na chydymdeimlad â chymeriadau.
Cwestiwn allweddol
Faint o amser mae cloc yn ei gymryd i daro deuddeg?Cymerodd cloc Transylfania ugain munud da!
Gwerth ei weld
Bydd plant o bob oed wrth eu boddau gyda'r rhuthro a'r goleuadau llachar a'r bwa'n tanio.