Hairspray Cymysgedd o'r ystrydebol a'r gwahanol
Y sêr
Nikki Blonsky, John Travolta, James Marsden, Michelle Pfeiffer, Queen Latifah
Cyfarwyddo
Adam Shankman
Sgrifennu
Leslie Dixon,
Hyd
116 munud
Adolygiad Carys Mair Davies
Gan na fu llawer o gyffro ynglŷn â'r ffilm hon wyddwn i ddim beth i'w ddisgwyl pan es i'w gweld.
Un freuddwyd sydd gan Tracy Turnblad (Nikki Blonsky) - merch fawr gyda gwallt mawr â chalon fwy - sef dawnsio ar The Corny Collins Show - rhaglen deledu fwyaf poblogaidd Baltimore.
Mae Tracy'n ymddangos yn berffaith ar gyfer y rhaglen oni bai am un broblem fach - nid oes iddi'r ddelwedd "gywir " oherwydd ei maint er nad yw hynny'n atal dim ar Tracy.
Wedi cyfareddu Corny Collins (James Marsden) mewn dawns ysgol mae hi'n cael rhan flaenllaw ar y rhaglen a dod yn arwres i blant a phobl ifanc.
Yn anffodus, nid yw Amber Von Tussle na'i mam, Velma (Michelle Pfeiffer) sy'n rhedeg yr orsaf deledu, yn gwerthfawrogi merched mawr ar y rhaglen ac ar ben hynny mae cariad Amber wedi'i hudo gan bersonoliaeth hyfryd Tracy a hynny'n golygu bod Velma yn gwneud popeth o fewn ei gallu i'w rhwystro rhag perfformio.
Yn ffilm gwerth ei gweld mae Hairspray yn trin materion pwysig iawn mewn ffordd ysgafn.
Ymhlith y pynciau mae rhagfarn tuag at ferched 'mawr' a, hefyd, hiliaeth pan fo Velma yn gwrthod gadael i bobl dduon ddawnsio.
Ond er bod y ffilm yn dda mae'n anodd uniaethu â hi gan iddi gael ei osod yn y Chwedegau pan yw'n ffasiynol gwisgo sgertiau hirion ac yn bwysig cael gwallt uchel.
Tystysgrif PG sydd i'r ffilm gan na cheir dim byd anweddus na threisgar ynddi ond yn hynod o cheesy o'r gân agoriadol i'w diwedd.
A chyda cymaint o ganu ynddi mae'n fy atgoffa o Music and Lyrics.
Mewn rhai ffyrdd mae'n ystrydebol gyda'r 'da' yn goresgyn y drwg ond yn wahanol hefyd gan mai merch fawr ac amhoblogaidd yw'r 'da' yn hytrach na'r fenyw hardd a thenau arferol!
Y mae hi yn un o'r ffilmiau hynny sy'n eich gwneud ichi deimlo'n gynnes oddi mewn ond diau mai y merched fydd yn cael y boddhad mwyaf gan i lawer o fechgyn ei hystyried yn ffilm eithaf plentynnaidd.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|