'1408' (2007) Gwell ar bapur nag ar ffilm
Y Sêr:
John Cusack, Samuel L Jackson, Mary McCormack, Jasmine Jessica Anthony, William Armstrong
Cyfarwyddo:
Mikael Håfström
Sgrifennu:
Matt Greenberg, Scott Alexander, Larry Karaszewski, Stephen King (stori fer)
Hyd:
105 munud
Adolygiad Shaun Ablett
Dyma ffilm wahanol iawn ac wedi ei haddasu o stori fer gan Stephen King.
Mae'n dilyn hanes Mike Enslin (John Cusack), awdur nofelau arswyd ond dyn na fu ei fywyd yr un fath ers marwolaeth ei ferch Katie (Jasmine Jessica Anthony).
Mae'n derbyn neges drwy'r post yn ei alw i ystafell 1408 gwesty'r Dolffin yn Efrog Newydd ond heb eglurhad pam. Pan gyrraedd caiff ei rybuddio gan reolwr y gwesty (Samuel L Jackson) bod ystafell 1408 yn un beryglus a phawb yn marw ynddi o fewn awr.
Nid yw Enslin yn gwrando ond gydag Enslin yn gaeth yn yr ystafell mae'r cloc ar y radio oedd yn dangos 60 yn dechrau cyfrif i lawr. Cyn bo hir, mae'n gweld ei ferch farw.
Anodd gwybod beth i'w feddwl o'r ffilm hon. Yn sicr mae'n arwydd pellach o ddychymyg anhygoel Stephen King ac rwy'n amau ei bod yn stori sy'n gweithio'n well ar bapur yn hytrach nag mewn ffilm.
Ond wedi dweud hynny mae perfformiad John Cusack yn ardderchog ac mae Samuel L Jackson yn swyno hefyd.
Os rydych yn hoffi ffilmiau arswyd ewch i'w gweld.
Darparwyd yr erthygl hon yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|
|