Shark Tale Dan y Don dan y don
Shark Tale
Y sêr Will Smith, Renée Zellweger, Robert De Niro, Martin Scorsese, Jack Black, Angelina Jolie
Cyfarwyddo Bibo Bergeron, Vicky Jenson, Rob Letterman
Sgrifennu Rob Letterman, Damian Shannon, Mark Swift, Michael J Wilson
Hyd 90 munud
Sut ffilm Ffilm gartŵn liwgar ond siomedig am fyd pysgod a siarcod Maffiaidd gyda lleng o leisiau cyfrawydd.
Y stori Daw sgodyn powld a chegog, Oscar (Will Smith) i helynt wrth fynnu amlygrwydd trwy smalio ei fod wedi lladd siarc.
Mae hynny'n ennyn llid 'tad' y siarcod, Don Lino (Robert De Niro) sydd am ddial am farwolaeth un o'i hoff blant.
Gydag Oscar druan dan y Don dan y don, fel petai, caiff gymorth annisgwyl mab arall Don Lino (Jack Black) - siarc addfwyn sy'n destun siom i'r Don oherwydd ei fod yn llysieuydd sy'n methu lladd unrhyw greadur byw arall.
Y canlyniad Glastwr go iawn heb stori nad yw'n gafael ond sy'n sydyn droi'n ferddwr o syrffed.
Er yn ddoniol ar y cychwyn dydi'r jôcs pysgodaidd, ychwaith, ddim digon i achub hon rhag suddo.
Rhagoriaeth ffilmiau diweddar fel Shrek oedd eu llwyddiant yn apelio at rai o bob oed gyda chymysgedd gywrain o ddoniolwch ar gyfer plant ac oedolion ond methwyd a chyflawni hynny yma gan fod Shark Tale yn rhy blentynnaidd i apelio at oedolion a go brin y bydd plant yn gwerthfawrogi'r elfen o ddoniolwch mewn troi siarcod yn Faffia Eidalaidd.
Y darnau gorau Mae'r trafod teuluol rhwng y siarcod Maffia yn codi gwên i ddechrau ond buan y cyll y jôc ei min.
Mae'r syniad o gael llipryn o siarc sy'n llysieuydd yn dda, fodd bynnag.
Perfformiadau Posib mai'r perfformiad gorau ydi Martin Scorsese fel pysgodyn gwynt sy'n chwyddo ac yn crebachu yn ôl ei hwyliau.
Er yn ffraeth a pharablus does gan Will Smith ddim byd newydd na gwreiddiol i'w gynnig ac mae De Niro fel y penteulu Maffia yn ystrydebol.
Gystal â'r trelar? Codai'r trelar obeithion am andros o ffilm dda.
Ambell i farn Dywedir dro ar ôl tro nad yw Shark Tale ond yn gysgod gwan o Finding Nemo a gafodd gymaint o ganmoliaeth.
Yn ôl gwefan Saesneg y Â鶹Éç byddai gan bysgodyn aur dall mewn powlen fwy o weledigaeth na chynhyrchwyr hon, DreamWorks.
Wedi cychwyn cymysglyd mae'r stori'n suddo, ychwanega, i ddyfnderoedd eithaf gwiriondeb.
Syrffedus a thamp, meddai beirniad arall ac yn ôl y Christian Science Monitor nid yn unig mae'r sgript ymhell o fod yn ddoniol ond mae'r animeiddio yr un mor ddigyffro.
Ond fe welodd ambell i feirniad prin jôcs gwych a pharodi gogleisiol - ond prin yw'r ganmoliaeth ac mae'n anodd anghydweld â'r sawl sy'n dweud y bydd ar gael am sylltau ar silffoedd bargen y siopau fideo cyn pen blwyddyn.
Ambell i air Mewn dialog sy'n aml yn ystrydebol mae ambell fflach o ffraethineb. "Dan yr wyneb yr ydw i'n wirioneddol arwynebol."
"Paid a chymryd y peth yn bersonol - mi ddwedais i gelwydd wrth bawb."
Gwerth mynd i'w gweld Go brin - a bydd angen llwyth o bopcorn i gadw'r plant yn llonydd.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|