The Illusionist (2007) Hud, lledrith, dialedd a brad yn mudlosgi
Y sêr
Edward Norton, Paul Giamatti, Jessica Biel, Rufus Sewell, Eddie Marsan, Jake Wood
Cyfarwyddo
Neil Burger
Sgrifennu
Neil Burger yn dilyn stori fer gan Steven Millhauser, enillydd gwobr Pulitzer.
Hyd
109 munud
Sut ffilm
Ffilm serch, gyda chysgodion sinistr, sy'n mudlosgi yn Vienna troad y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Cymysgedd o ramant a dialedd ac o hud a lledrith wrth i gonsuriwr gorau'r byd geisio ennill ei gariad yn ôl oddi ar dywysog coronog.
Lleisiau isel mewn stafelloedd tywyll. Llawer o sibrwd bygythion.
Byddwch yn barod am rywfaint o flas Ruritania ar adegau!
Y stori
Mae'r ffilm yn cychwyn gyda'r consuriwr Eisenheim (Edward Norton) yn cael ei gipio gan yr Arolygydd Uhl (Paul Giamatti) a'i heddweision oddi ar lwyfan un o theatrau Vienna.
Ond diwedd, nid dechrau'r stori yw hynny a threulir cryn amser wedyn gydag Uhl yn olrhain beth arweiniodd at yr arestio dramatig.
Ef sy'n datgelu sut yr etifeddodd Abramovitz, mab i saer tlawd - mae'n swnio'n fwy arwyddocaol fyth yn y Gymraeg o gymharu â'r Saesneg cabinet maker - ddoniau hud a lledrith oddi wrth sipsi a gyferfu ar ochr ffordd.
Yn llanc ifanc ar ei brifiant mae Abramovitz a'r Ddugus von Teschen (Jessica Biel) yn syrthio mewn cariad a'i gilydd ond mae'n garwriaeth sydd wedi ei thynghedu i fod yn fethiant oherwydd eu gwahanol safleoedd cymdeithasol ac fe'u gwahenir.
Am bymtheng mlynedd mae Abramovitz yn crwydro'r gwledydd yn perffeithio ei gonsuriaeth i'r fath raddau y mae'n ddyn triciau gyda'r gorau erioed ac yn perfformio dan yr enw, Eisenheim.
A phan yw'n perfformio yn Vienna pwy sy'n cael ei galw o'r gynulleidfa i'w gynorthwyo gyda thric ond y Dduges sydd, erbyn hyn, yn ddyweddi i'r Uchel Dywysog Coronog Leopold (Rufus Sewell).
Buan y gwelir ei bod yn haws i gonsuriwr na neb gynnau tân ar hen aelwyd ac wrth i'r dewin a'r Dduges glosio mae dicter a dichell y Tywysog yn cynyddu. Buan iawn mae bywyd Eisenheim mewn perygl.
Y canlyniad
Y cwestiwn hawsaf i'w ateb am y ffilm hon yw'r un sy'n gofyn a fydd y consuriwr dawnus yn drech na'r tywysog dialgar sydd hefyd yn coleddu syniadau bradwrus tuag at ei bobl?
Yn wir, dyw'r cwestiwn anos ynglŷn â sut y bydd Eisenheim yn llwyddo ddim yn un hynod o anodd ychwaith ond dyw hynny ddim yn bwysig gan nad y datrys sy'n rhoi i'r ffilm hon ei gwefr ond ei mudlosgi sinistr a'r ymdaro du a thawel rhwng y cymeriadau.
Wrth ei bwysau y mae'r tyndra yn magu. Ymenyddol yw'r herio ac er bod yma gleddyfau a gwaed y ciledrychiad dan aeliau duon sy'n trywanu a'r peryg mewn gwefusau meinion a locsiau duon.
Mae hon yn ffilm sy'n teimlo'n dda ac er yn ymylu ar fod yn swrth ar adegau y mae hi, mewn gwirionedd, yn ein tywys yn dwyllodrus o rwydd yn ei llaw.
Mae'r plot yn gofyn am rywfaint o hygoeledd ac weithiau dyw'r llinell amser ddim fel pe byddai'n gyson yn ystod y cyfnod datrys llofruddiaeth.
Perfformiadau
Mae Edward Norton, ei farf ddu a'i gilolwg amheus yn lledrithiol fel Eisenheim gyda Paul Giamatti, fel Uhl y plismon gonest, sy'n cael ei ddal ym magl cynllwyn nad yw wrth fodd ei galon, yn wrthgyferbyniad perffaith i Eisenheim ac hefyd i'r tywysog bradwrus y mae'n ei wasanaethu.
Nid oes neb ar y sgrin nad yw'n gwneud diwrnod da o waith.
Ambell i farn
Mae llawer mwy o ganmol nac o gicio gyda'r rhan fwyaf o'r beirniaid wedi eu bodloni i ryw raddau neu'i gilydd ac yn cymharu'r ffilm yn ffafriol â ffilm Christopher Nolan am ddau ddyn hud yn herio'i gilydd, The Prestige, a welodd olau dydd y llynedd ond a ddiflannodd yn gynt na chwningen hud unrhyw gonsuriwr.
Yn yr Unol Daleithiau heriai'r ddwy ffilm ei gilydd wyneb yn wyneb ond ar gyfer y farchnad Brydeinig sicrhawyd bron i flwyddyn o olau dydd rhwng y ddwy fel na bo'r naill yn amharu ar y llall.
Er mai dim ond ychydig a welodd The Prestige y farn gyffredinol yw fod The Illusionist yn rhagori er ei bod yn fwy swil ac yn llai ymfflamychol ei natur.
Yn wir, y mae hynny yn siwr o fod yn rhan o'i hapêl.
"Mae The Illusionist yn edrych yn wych," meddai gwefan ffilm Saesneg y Â鶹Éç gan gyfeirio nid yn unig at y cymeriad a chwaraeir mor drawiadol gan Edward Norton ond at y ffilm yn ei chyfanrwydd.
Y gair exquisit ddefnyddiodd gan Philip French yn yr Observer.
Canmol mae'r Guardian hefyd gan ddweud fod y ffilm yn ei ffordd dawel yn dangos bod mwy o ddirgelwch i realaeth nag i'r lledrithiol.
Pennawd bachog y Daily Mirror oedd, "Trick's a real treat" gan ddisgrifio'r ffilm fel un fechan ond bleserus.
Ond ni phlesiwyd o gwbl Deborah Ross yn y Spectator.
"Mae . . . yn un o'r ffilmiau hynny sy'n ennill pwyntiau am geisio bod yn glyfar ac yn wahanol ac yna'n eu colli nhw'n syth a beidio a bod yn ddigon gwahanol a dyfeisgar," meddai.
Doedd y ddau Times ddim mewn llesmair ychwaith gan ddweud mai twll mawr sydd yna lle dylai'r dirgelwch fod.
Darnau gorau Mae golygfeydd allanol gwefreiddiol gyda tharth a niwl sy'n hofran ar ryw ffin rhwng peintiad a ffotograff.
Chwilio'r goedwig.
Y pasej llawn cyrn ceirw sy'n arwain at ystafell Leopold.
Golygfa 'cledd yn y garreg' Leopold.
Triciau Eisenheim ar lwyfan - er nad yw rhywun yn cael ei hudo'n llwyr wrth gwrs o sylweddoli mai tric dangos triciau yw'r sinema ei hun ac o'r herwydd mae peryg i'r twyllo dwbl golli ei elfen hanfodol o ryfeddod.
Gwerth ei gweld?
Ydi - ond nid i'r sawl a hudwyd i gredu bod mai rhuthr a ffrwydro a gweiddi a sgrechian sy'n gwneud ffilmiau da. Ond fe allai'r diweddglo fod ychydig yn siomedig.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|