Herbie: Fully Loaded Dydi'r car ddim yn mynd
Y sêr Lindsay Lohan, Michael Keaton, Matt Dillon, Breckin Meyer, Justin Long
Cyfarwyddo Angela Robinson
Sgrifennu Thomas Lennon, Ben Garant, Alfred Gough, Miles Millar
Hyd 101 munud
Sut ffilm Dilyniant neu ail-bobiad o ffilmiau Herbie y saithdegau gyda llai o ddoniolwch, llai o wreiddioldeb, llai o 'gymeriadau' a llai o hwyl na'r gwreiddiol.
Trist gorfod cyfaddef hynny, ond yr oedd mwy o wreiddioldeb a hiwmor yn perthyn i hysbyseb a ddangoswyd cyn y ffilm o gar Renault yn ymddwyn fel ci bach anufudd!
Y stori A'i ddyddiau gorau drosodd mae Herbie (VW Beetle) wedi ei daflu o'r neilltu ac yn disgwyl cael ei wasgu'n seitan yn Crazy Dave's Scrap and Salvage. Ond ar y funud olaf mae'n cael ei brynu'n anrheg graddio gan ei thad (Michael Keaton) i Maggie Peyton (Lindsay Lohan).
Buan iawn y dengys Herbie ei bedigri a'r cwestiwn yw a all achub enw da Peyton, sy'n rasiwr ceir yn mynd trwy gyfnod drwg, a threchu'r pencampwr sarhaus, atgas a thrahaus (Matt Dillon).
Mae'r atebion i gyd mewn ras fawr olaf.
Y canlyniad Prawf pellach ei bod yn well gadael rhai pethau fel y maen nhw. Neu - os nadyw rhywbeth wedi torri peidiwch a cheisio'i drwsio.
Gan nad oes dim o'i le ar yr hen ffilmiau Herbie doedd dim angen creu un newydd.
Ac o greu un dylid fod wedi gwneud mwy o ymdrech i gadw at ysbryd y gwreiddiol.
Y darnau gorau Herbie'n achub Maggie pan yw'r cerbyd olwynion mawr ar fin syrthio ar ei phen a'i gwasgu'n seitan.
Perfformiadau Mae Lindsay Lohan yn gwneud ei gorau 0nd gyda'r deunydd sydd ar gael dewin sydd ei angen nid actor.
Mae Matt dillon yn fethiant llwyr fel dihiryn heb fin na chasineb yn perthyn iddo.
Ambell i farn Claear yw'r croeso ond mae gwefan Saesneg y Â鶹Éç yn canmol perfformiad llawn cythrel Lohan a "nostalgic appeal" y car ei hun - ond, mewn gwirionedd mae hyd yn oed hynny o ganmoliaeth yn ormod!
Tipyn o hanes VW Beetle 1963 ydi Herbie. The Love Bug oedd enw'r ffilm gyntaf am y car gyda phersonoliaeth ac, yn bennaf oll, synnwyr digrifwch a dawn i dynnu coes.
Dilynwyd y Love Bug gan Herbie Rides Again,Herbie Goes to Monte Carlo a Herbie Goes Bananas.
Yr adeg honno chwaraewydei berchennog gan Dean Jones gyda David Tomlinson y dihiryn.
Y cyfarwyddwr oedd Robert Stevenson a oedd eisoes wedi ennill Oscars gyda Mary Poppins.
Yr oedd y cyfan yn gyforiog o asbri a hwyl a'r ffilmiau'n cael eu mwynhau gan oedolion a phlant fel ei gilydd.
Cysgod tenau iawn yw Herbie Fully Loaded yn anffodus.
Goeliwch chi hyn? Flwyddyn wedi dangos y Love Bug gyntaf yn 1968 cyhoeddwyd nofel o'r enw The Love Germ gan Jill Neville yn sôn am anturiaethau rhywiol criw o bobl ifainc y chwedegau penrhydd.
Yn anffodus tybiodd nifer fawr o rieni mai stori Herbie wedi ei throi'n llyfr oedd The Love Germ a'i brynu'n anrheg i'w plant!
Gwerth mynd i'w gweld? Ceisiwch DVD o'r ffilmiau gwreiddiol a gwylio'r rheini.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|