Saw II Tywallt gwaed a malu esgyrn
Y sêr
Donnie Wahlberg, Shawnee Smith, Tobin Bell, Erik Knudsen, Glenn Plummer, Dina Meyer
Cyfarwyddwr
Darren Lynn Bousman
Sgrifennu
Darren Lynn Bousman, Leigh Whannell
Hyd
92 munud
Sut ffilm
Gwaed, bryntni, cieidd-dra a gwaed gyda dychweliad y Jigsaw Killer o'r Saw cyntaf. Mae'n un a'i air pan ddywed: "O bydd, fe fydd yna waed."
Y stori
Mewn hen dÅ· sy'n atgoffa rhywun o haunted house mewn ffair neu gomic mae wyth o bobl wedi eu caethiwo gan laddwr sy'n cael ei adnabod fel Jigsaw (Tobin Bell).
Yr her iddyn nhw yw dianc o'u carchar sinistr o fewn dwy awr cyn cael eu mygu gan nwy gwenwynig sy'n cael ei ollwng i'r tÅ·.
Wrth gwrs mae'n nhw'n troi yn erbyn ei gilydd a phob drws a mynedfa yn dod a rhyw erchylltra newydd i'w rhan wrth iddyn nhw gael eu lladd fesul un yn y ffyrdd mwyaf erchyll.
Yn eu plith mae Daniel (Erik Knusden) mab y ditectif sy'n ceisio datrys y broblem a rhyddhau'r wyth, Eric Matthews (Donnie Whalberg).
Mae ef a swyddogion eraill yn gwylio'r cyfan ar sgriniau teledu gyda Jigsaw sydd yn prysur farw o ganser - ac yn fwy annymunol a ffiaidd fyth yn ei waeledd.
Y canlyniad Digon o fryntni a gwaed i godi cyfog ar unrhyw un. Ffilm ddychryn yw hon i fod ond ffilm front yw hi mewn gwirionedd.
I syniad o'r fath weithio'n go lew rhaid i'r gynulleidfa fod â rhywfaint o gydymdeimlad â'r rhai sydd mewn peryg ond dydi hynny ddim yn digwydd yma.
Y darnau gorau Mae'r rhannau gyda'r Jigso afiach, bloesg a dideimlad ei lais yn ddigon iasol.
O safbwynt bryntni ysgytwol - plannu'r bat pêl-fas llawn hoelion ym mhen a gwegil un o'r wyth.
Perfformiadau
Tobin Bell sy'n gwneud argraff. Yn iasol fygythiol.
Rhai geiriau "Bydd, fe fydd yna waed" - addewid Jigsaw
"Dydyn nhw ddim yn gwerthfawrogi bywyd" - rheswm Jigso dros gasau'r wyth.
"Profi ffabrig y natur ddynol" - pwrpas Jigsaw.
Gystal â'r trelar?
Fel y byddech yn disgwyl - ond mae mymryn o dro annisgwyl yn y gynffon.
Ambell i farn
Er bod cytundeb nad yw gystal â'r Saw gyntaf mae elfen o ganmol hefyd gyda'r Â鶹Éç yn cyfeirio at "blot o droadau blasus".
Roedd y Sunday Times, fodd bynnag, yn feirniadol o ddiffyg gafael yn y plotio.
Gwerth mynd i'w gweld?
Disgwyl am y DVD - os oes angen ei gweld o gwbl .
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|