Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

Â鶹Éç Homepage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


Zan Boko
Man claddu'r brych

gan Gwyn Griffiths
Ffilm arall ddangoswyd fel rhan o Ŵyl Ffilm Ryngwladol Cymru Ddu ar yr un thema â Cymru Ddu er ei gosod ymhell iawn o Fae Caerdydd, oedd Zan Boko.

Stori gyfarwydd am ddiwylliant dan warchae, hawdd i Gymro uniaethu â hi er mor ddieithr y cefndir, yn Burkina Faso yng ngorllewin Affrica.

Mae'r ffilm yn ddwyieithog, rhannol mewn More, iaith y Mossi , a rhannau mewn Ffrangeg. Afraid nodi fod iddi is-deitlau Saesneg.

Mewn pentref
Mae'n stori'n cychwyn ym mhentref y llwyth, y tai crwn o laid a thoeau gwellt fel helmau ydlannau Cymru 'slawer dydd.

Mae cwrteisi a boneddigeiddrwydd a sgwrsio hamddenol yr oedolion, hefyd, yn dod ag atgofion o ymddygiad hen werinwyr Cymraeg fy mhlentyndod.

Amhosib fyddai cyfeirio at holl symboliaeth gyfoethog y ffilm - e.e. ystyr Zan Boko yw'r man lle cleddir y brych wedi geni'r baban, sef man dynodi'r cwlwm rhwng y baban, y tir a'i hynafiaid.

Felly pan y fo'r ddinas yn ehangu a thrigolion y llwyth o un i un yn gwerthu eu darnau tir ceir ymdeimlad o dorri cysylltiad sanctaidd â'r tir a gyda'r gorffennol.

Unig wrthryfelwr
Tinga - ystyr yr enw yn More yw "y ddaear" - yw'r unig un sy'n gwrthryfela a thu hwnt i wal ei dyddyn a'i ddarn tir mae datblygwr yn codi clamp o dÅ· moethus.

Ac yn ceisio cael gwared o Tinga drwy gwyno am bopeth, fel arogleuon coginio sy'n denu pryfed, nes peri iddo deimlo fel estron ar ei dir ac yn ei wlad ei hun.

Yna mae'r datblygwr yn ceisio prynu'r tir er mwyn adeiladu pwll nofio arno.

Stori arall
Yn y cyfamser y mae stori arall yn datblygu. Yn swyddfeydd y llywodraeth mae swyddog cyhoeddusrwydd yn cael ei wahardd o'i waith am fod yn rhy onest mewn erthygl bapur newydd!

Yr awgrym yw iddo ddatgelu gormod am y modd y mae'r llywodraeth yn gwthio agenda o ymestyn y ddinas heb ystyried hawliau na ffordd draddodiadol o fyw y brodorion traddodiadol.

Yn nes ymlaen mae'r swyddog cyhoeddusrwydd yn cael cynnig swydd arall o fewn y llywodraeth, fel cynhyrchydd a chyflwynydd teledu.

Yn ei raglen gyntaf yn ei swydd newydd mae'n cadeirio trafodaeth am ehangu dinesig gyda phanel sy'n cynnwys gwleidydd, datblygwr, anthropolegydd a Tinga - sy'n cyrraedd wedi i'r rhaglen gychwyn.

Nid yw Tinga'n cyfrannu, ni chawn glywed ei lais na'i farn yn y rhaglen. Nid yw'n medru Ffrangeg, iaith y rhaglen, hyd yn oed.

Tra bod y cyflwynydd yn croesholi'r panelwyr eraill, ei gydymdeimlad â Tinga yn or-amlwg, gwelwn wleidyddion y llywodraeth yn ffonio'i gilydd yn wyllt cyn gorchymyn tynnu'r plwg ar y rhaglen.

Mae'r ffilm yn gorffen gyda neb ar ôl yn y stiwdio, neb ond Tinga, sydd wedi colli ei dir, a'r cyflwynydd sydd wedi colli ei swydd - am byth y tro hwn.

Cnoi cil
Mae yma lawer i gnoi cil arno yn y ffilm yma. Gwelwn "ddatblygiad" a byd y cyfryngau drwy lygaid cymdeithas draddodiadol, seml.

Gwelwn urddas boneddigaidd aelodau'r hen gymdeithas ochr yn ochr ag ymgreinio taeogaidd is-weision y llywodraeth a thrahâ sarhaus y gwleidyddion.

Gwelir y gymdeithas uchelwrol, Ffrangeg ei hiaith, pobl dduon hardd, rhai yn eu gwisgoedd Ewropeaidd, eraill yng ngwisgoedd traddodiadol ysblennydd y wlad; trawiadol iawn o'u cymharu â Tinga droednoeth yn ei ddillad tlawd.

Yn ddieithriaid
Gwelwn ddwy gymdeithas wahanol iawn, ond eto'n agos o safbwynt y cenedlaethau. Nid oes, yn fynych, ond un genhedlaeth rhwng trigolion traddodiadol y pentrefi a thrigolion y dinasoedd.

"Y mae ein perthnasau yno," medd y cyfarwyddwr Gaston Kaboré, "ac eto pan awn adref, yr ydym yn ddieithriaid yno."

Y mae'n ffilm gwerth ei gweld a daeth nifer dda i'r dangosiad - mwy nag a welais yn un o ffilmiau eraill yr wythnos.

Bu Gaston Kaboré ei hun yn gweithio mewn cysylltiadau cyhoeddus yn Burkina Faso a bu'n bennaeth Canolfan Ffilm Genedlaethol y wlad.

Daeth i enwogrwydd am ffilm arobryn o'r enw Wend Kuuni a saethwyd yn yr un pentref ag a ddefnyddiwyd ganddo ar gyfer y ffilm yma.

Y mae modd benthyg Zan Boko ar VHS a DVD. Ei hyd yw 94 munud ac nid oes unrhyw gyfyngiadau oed i'r dystysgrif.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Cymraeg
A Way of Life
Big Nothing (2006)
Cannes
Cwcw (2008)
Cymru Ddu - y gyfres deledu
Cymru Fach (2008)
Ffilmiau Cymru ddoe
Ffilmiau Steddfod
Gavin and Stacey
Gwobr i ffilm ganpunt
Gwyl Fflics 2007
Gŵyl Cymru Ddu
Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
Hope Eternal
Martha Jac a Sianco - y ffilm
Mela
Milltir sgwar arwyr ffilm
Oed yr Addewid
Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
Pobl ifainc yn mentro
Powerless
Powerless
Shorts in Colour
Siôn a Siân
Sleep Furiously
Snow Cake
Spiderman Cymraeg
The Edge of Love
The Edge of Love
Y Lleill
Yr Ymwelydd
Zan Boko
£500,000 i animeiddio
cyffro
'1408' (2007)
'Rush Hour 3' (2007)
'We Own The Night' (2007)
Die Hard 4.0 (2007)
Déjà Vu (2006)
30 Days of Night (2007)
4: Rise of the Silver Surfer (2007)
Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
Around the World in 80 Days
Assault on Precinct 13
Australia
Batman Begins
Beowulf
Blood Diamond
Casino Royale
Casino Royale
Casino Royale (2006)
Casino Royale 2006
Cellular
Changeling (2008)
Children of Men (2006)
Derailed
Eastern Promises
Eastern Promises (2007)
Fantastic Four
Fracture (2007)
Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
History of Violence
Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
Iron Man (2008)
King Arthur
King Kong - 2005
Mission Impossible III (2006)
National Treasure
No Country for Old Men (2008)
No Country for Old Men (2008)
Ocean's 13
Ocean's 13 (2007)
Ocean's Twelve
Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
Rambo (2008)
Red Eye
Sahara
Saw II
Serenity
Severance (2006)
Shooter (2007)
Spider-Man 2
Spider-Man 3 (2007)
Star Wars III
Stormbreaker (2006)
Superman Returns (2006)
The Bourne Ultimatum
The Da Vinci Code (2006)
The Dark Knight
The Day After Tomorrow
The Departed (2006)
The Golden Compass (2007)
The Golden Compass (2007)
The Incredible Hulk (2008)
The Incredibles
The Interpreter
The Kingdom (2007)
The Legend of Zorro
The Matador
The Omen 2006
Thunderbirds
Transformers (2007)
Van Helsing
Walking Tall
War (2007)
White Noise
comedi
'Mr Woodcock' (2007)
Fred Claus (2007)
St Trinian's (2008)
A Good Year (2006)
Bee Movie (2007)
Bewitched
Borat:
Bridget Jones - The Edge of Reason
Charlie and the Chocolate Factory
Choke (2008)
Christmas with the Kranks
Evan Almighty (2007)
Evan Almighty(2007)
Forgetting Sarah Marshall (2008)
Four Christmases - 2008
Good Luck Chuck (2007)
Hairspray
Herbie: Fully Loaded
Hitch
Hot Fuzz (2007)
I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
Just Like Heaven (2005)
Just My Luck (2006)
Knocked Up (2007)
Mean Girls
Meet the Fockers
Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
Monster in Law
Mr & Mrs Smith
Mr Bean 2007
Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
Nacho Libre (2006)
Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
PS I Love You (2008)
Prime (2006)
RV: Runaway Vacation (2006)
Ratatouille
Robots
Run, Fat Boy, Run (2007)
Scooby Doo 2 :
Shark Tale
Shrek 2
Shrek 3
Slither (2006)
St Trinian's
St Trinian's (2008)
Superbad (2007)
Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
The Devil Wears Prada
The Dukes of Hazzard
The Good Night (2008)
The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
The Nanny Diaries (2007)
The Simpsons Movie
The Simpsons Movie
The Simpsons Movie (2007)
The Simpsons Movie (2007)
Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
Wedding Crashers
Wedding Crashers
Wedding Date
Wild Hogs (2007)
You, Me and Dupree (2006)
drama
Abraham's Point (2008)
Alexander
Alfie
Alpha Dog (2007)
Amazing Grace (2007)
American Gangster (2007)
Apocalypto (2007)
Atonement (2007)
August Rush
Babel (2007)
Basic Instinct 2 (2006)
Bullet Boy
Burn After Reading
Charlie Wilson's War (2008)
Charlie Wilson's War (2008)
Che: Part One - 2008
Collateral
Crash
Down in the Valley
Dreamgirls (2007)
Elizabeth: The Golden Age (2007)
Fahrenheit 9/11
Finding Neverland
Five Children and It
Gandhi My Father (2007)
Good Bye Lenin (2003)
Harsh Times (2006)
Howl's Moving Castle
Hunger (2008)
I Am Legend (2007)
I am Legend
In Bruges (2008)
In Good Company
In Prison My Whole Life
In the Valley of Elah (2008)
Into the Wild
Jarhead (2006)
Jindabyne (2007)
Kingdom of Heaven
La Vie en Rose
Ladies in Lavender
Lassie (2005)
Layer Cake
Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
Lions For Lambs (2007)
Lost in Translation
Lust, Caution (2008)
Lust, Caution (2008)
Maria Full of Grace
Million Dollar Baby
Miss Potter (2007)
Munich (2006)
Oliver Twist
Open Water
PS I Love You (2008)
Premonition (2007)
Rendition
Rescue Dawn (2007)
Rocky Balboa (2007)
Snowcake (2006)
Spanglish
Take the Lead (2006)
Taliesin Jones
The Assassination of Jesse James
The Bourne Supremacy
The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
The Chronicles Of Narnia (2005)
The Constant Gardener
The Duchess
The Edge of Love (2008)
The Exorcism of Emily Rose
The Illusionist (2007)
The Lake House
The Lake House (2006)
The Last King of Scotland (2007)
The Libertine
The Motorcycle Diaries
The Only Clown in the Village
The Painted Veil
The Phantom of the Opera
The Polar Express
The Terminal
The Village
The Wicker Man (2006)
United 93 (2006)
V for Vendetta
Vera Drake
W (2008)
War of the Worlds
Zodiac
erthyglau
'Tad' y Phantom
Academi Sgrîn Cymru
Alex Rose
Cymru Wyddelig Ford
Der Untergang
Ffilmio da Demi
Gwobr i briodferch
Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
Harry Potter and the Order of the Phoenix
Holi Matthew Rhys
Hope Eternal (2008)
Ioan Gruffudd
Ioan Gruffudd
John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
Prinder ffilmiau Cymraeg
Tystysgrifau ffilm
Yn yr Oscars


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý